12.1 – MAO/2021/26 – Fferm Solar Porth Wen, Cemaes
https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000O3fgIUAR/mao202126?language=cy
Cofnodion:
12.1 MAO/2021/26 – Mân ddiwygiadau i’r cynllun a gymeradwywyd yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio 20C310/EIA/RE (cais llawn ar gyfer adeiladu fferm arae solar 49.99MW ynghyd ag offer, seilwaith a gwaith ategol cysylltiedig) yn Rhyd y Groes, Rhosgoch, er mwyn diwygio geiriad amodau (05), (06) ac (11) i ganiatáu i’r datblygiad ddigwydd mewn dau gam (cam 1 – gwaith galluogi a cham 2 – gosod paneli) yn fferm Solar Porth Wen, Cemaes
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn ceisio diwygio amodau a osodwyd ar ganiatâd rhif 20C310B/EIA/RE a oedd yn cynnwys Asesiad o Effaith Amgylchedd. Cymeradwywyd y cais gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 6 Rhagfyr 2017, yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac yn ddarostyngedig i’r amodau yn yr adroddiad, a rhoddwyd awdurdod dirprywedig i’r Pennaeth Gwasanaethau Cynllunio ychwanegu, diwygio a dileu amodau yn ôl yr angen.
Ar ôl datgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu yn y cais, gadawodd y Cynghorwyr John Griffith a Richard Owain Jones y cyfarfod ac nid oeddent yn bresennol yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar y cais.
Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod y cais ar gyfer mân addasiadau i’r cynllun a gymeradwywyd o dan gais 20C310B/EIA/RE er mwyn gallu dechrau’r gwaith fesul cam, gyda gwaith yn cynnwys gwaith galluogi’n cael eu gwneud o dan gam 1 a gosod paneli solar a gwaith ac offer yn gysylltiedig âhynny’n cael ei wneud yn yr ail gam. Er mwyn caniatáu i’r datblygiad ddigwydd fesul cam, bydd rhaid diwygio amodau (05), (06) ac (11) y caniatâd cynllunio. Mae’r cais yn gofyn am y canlynol –
· ychwanegu Cynllun Cwblhau Gwaith Fesul Cam i’r cynlluniau a gymeradwywyd o dan amod (05);
· diwygio amod (06) i ganiatáu i’r manylion gael eu cymeradwyo mewn dau gam – manylion sydd eu hangen cyn rhoi cam 1 y datblygiad ar waith ac yna manylion sydd eu hangen cyn rhoi cam 2 y datblygiad ar waith;
· bod amod (11) yn cael ei ddiwygio i ganiatáu cyflwyno Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu (gyda Chynllun Rheoli Traffig Adeiladu llawn) ar gyfer Cam 1 i’w gymeradwyo ac yna Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu (a Chynllun Rheoli Traffig Adeiladu) ar gyfer Cam 2.
Nid yw’r cais yn newid natur y datblygiad nac yn achosi effaith sy’n wahanol i’r hyn a fyddai’n cael ei greu gan y cynllun datblygu a gymeradwywyd yn wreiddiol. Er y byddai’r cynnig, pe byddai’n cael ei gymeradwyo, yn caniatáu i’r datblygwr gyflawni’r gwaith paratoi heb orfod cyflwyno manylion llawn am y datblygiad cyfan i’r Awdurdod Cynllunio Lleol eu cymeradwyo, bydd rhaid cyflawni’r amodau a osodwyd ar y caniatâd gwreiddiol o hyd. Er gwybodaeth, mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi derbyn gohebiaeth gan berchennog tir gerllaw ym Muarth y Foel ynghylch yr angen i ymgynghori ar y newidiadau; gan fod y cais yn ceisio caniatâd am yr hyn yr ystyrir yn newidiadau ansylweddol i gynllun a gymeradwywyd, nid yw’r gofyn i gynnal ymgynghoriad yn berthnasol. Ymgynghorwyd yn uniongyrchol â pherchennog Buarth y Foel ynghylch cais a dderbyniwyd yn ddiweddar ar gyfer mynedfa a byndiau newydd, yn unol â’r gofynion. Ar ôl asesu’r cais o dan Adran 96A Deddf Cynllunio Gwlad a Thref (fel y’i diwygiwyd) a chanllawiau cynllunio Llywodraeth Cymru, mae Swyddogion yn fodlon bod y diwygiadau a geisir i ganiatáu i’r datblygiad a gymeradwywyd ddigwydd fesul cam yn ddiwygiadau ansylweddol a’r argymhelliad felly yw cymeradwyo’r cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric Jones.
Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog a gyda’r amodau yn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: