Eitem Rhaglen

Monitro Perfformiad: Cerdyn Sgorio Corfforaethol Ch2 2021/22

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, Aelod Portffolio Busnes y Cyngor, adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid a oedd yn cynnwys y Cerdyn Sgorio Corfforaethol a oedd yn nodi sefyllfa’r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 2 blwyddyn ariannol 2021/22yn erbyn ei amcanion gweithredol fel y’u hamlinellwyd ac y cytunwyd arnynt yn gynharach yn y flwyddyn. 

Mae mwyafrif y dangosyddion perfformiad Iechyd Corfforaethol (70%) yn perfformio’n dda yn erbyn eu targedau (Gwyrdd neu Felyn) ac mae strategaeth ddigidol y Cyngor yn parhau i fod yn llwyddiannus yn ystod y pandemig. Mae’r dangosyddion Gwasanaeth Cwsmer yn parhau i berfformio’n dda ac eithrio dangosydd 04b mewn perthynas â chanran yr ymatebion ysgrifenedig i gwynion i’r adran Gwasanaethau Cymdeithasol a anfonir cyn pen 15 diwrnod sydd yn 58% ar hyn o bryd ac yn is na’r targed o 80%. Mae natur gymhleth y cwynion hyn yn aml iawn yn golygu cyfraniad aml asiantaeth ac mae llwyddo i alinio’r wybodaeth cyn pen 15 diwrnod yn her reolaidd. Mae’r perfformiad hwn yn well na’r 50% a welwyd yn Ch1 ac mae’n galonogol bod 18 allan o’r 19 o gwynion a dderbyniwyd wedi cael eu trafod gyda’r achwynydd cyn pen 5 diwrnod gwaith. Er bod perfformiad mewn perthynas â phresenoldeb yn y gwaith yn Ambr ar ddiwedd Chwarter 2 gyda 4.09 diwrnod wedi’i golli oherwydd absenoldeb am bob CALl, gosodwyd targed mwy heriol eleni ac o ystyried y perfformiad hwn yng nghyd-destun y targed o 4.25 diwrnod wedi’i golli am bob CALl a osodwyd ar gyfer y ddwy flwyddyn flaenorol, heb y newid hwn byddai’r perfformiad hwn wedi bod yn Wyrdd.   Mae mwyafrif y Dangosyddion Perfformiad (84%) yn perfformio’n uwch na’u targed neu o fewn 5% i’w targed ac am y tro cyntaf nid oedd gan dau o’r tri Amcan Llesiant yr un dangosydd a oedd yn tanberfformio’n ambr neu’n goch yn erbyn eu targedau. Cymysg fu’r perfformiad yn erbyn dangosyddion Amcan Llesiant 3 yn gyffredinol (Gweithio mewn partneriaeth gyda’n cymunedau i sicrhau y gallant ymdopi’n effeithiol gyda newidiadau a datblygiadau wrth amddiffyn ein hamgylchedd naturiol) gyda 57% o’r targedau’n tanberfformio. Mae pedwar dangosydd mewn perthynas â rheoli gwastraff a chynllunio yn Goch neu Ambr ac mae manylion pellach ynglŷn â’r mesurau lliniaru wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Ar hyn o bryd mae adran rheoli cyllid y cerdyn sgorio yn darogan tanwariant o £0.858m ar gyfer y flwyddyn a fydd yn dod i ben ar 31 Mawrth, 2022.Caiff rheolaeth ariannol ei fonitro drwy adroddiadau chwarterol i’r Pwyllgor Gwaith.

Ymatebodd yr Aelodau Portffolio a Swyddogion i gwestiynau a phwyntiau a godwyd ar yr adroddiad cerdyn sgorio fel a ganlyn –

·           Mewn perthynas â phryderon am y gostyngiad yng nghanran y gwastraff sy’n cael ei ailddefnyddio, ailgylchu neu gompostio, yn benodol y gostyngiad yn nhunelledd y gwastraff gwyrdd a gasglwyd o’i gymharu â’r un cyfnod yn 2020/21 ac awgrym bod gyflwyno ffi am gasglu gwastraff gwyrdd yn wrthgynhyrchiol, rhoddwyd sicrwydd i’r Pwyllgor bod y gostyngiad o ganlyniad i nifer o resymau fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad. Mae’r materion hyn yn cael eu goruchwylio gan y grwp llywio a sefydlwyd gyda WRAP Cymru a CLlLC yn Chwarter 1 i edrych ar yr holl agweddau a gweithdrefnau yn ymwneud ag ailgylchu gwastraff ac ar ôl cyfarfod am y tro cyntaf maent yn y broses o ddadansoddi’r data sydd ar gael a datblygu opsiynau ar y ffordd orau o gyrraedd y targed o 70% erbyn 2025.Mae’r ffi gwastraff gwyrdd wedi cynhyrchu incwm o £500k i’r Cyngor, sef y Cyngor olaf yn y rhanbarth i gyflwyno ffi am wasanaeth casglu gwastraff gwyrdd. Roedd y ffi yn rhan o’r contract casglu gwastraff newydd gyda Biffa; ac oni bai bod y ffi wedi cael ei gyflwyno byddai wedi bod yn orfodol cynyddu’r Dreth Gyngor 0.5% a fyddai wedi effeithio ar bawb tra bo’r ffi am gasglu gwastraff gwyrdd yn berthnasol i’r rheiny sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn unig.

·           Mewn perthynas â phryderon parhaus am ymatebolrwydd system teleffon y Cyngor a’r goblygiadau ar foddhad cwsmeriaid sy’n cyfathrebu â’r Cyngor, rhoddwyd sicrwydd i’r Pwyllgor y byddai’r trefniadau newydd ar waith erbyn Chwarter 3 ac y byddai’r Pwyllgor yn cael diweddariad ar y lefelau boddhad cwsmer wedi hynny. Erfyniwyd ar yr Aelodau i  ddarparu manylion am unrhyw gwynion ynghylch galwadau nad oedd wedi eu hateb a chawsant eu hatgoffa bod cais hefyd wedi’i wneud yng nghyfarfodydd yr Arweinwyr Grŵp. Er y cydnabuwyd bod bob amser lle i wella mae’r Cyngor bob amser yn derbyn nifer uchel o alwadau, tua 8,000 i 9,000 o alwadau’r mis. 

·           Mewn perthynas â phryderon ynglŷn â’r pwysau cynyddol ar y Gwasanaethau Plant wrth inni nesáu at fisoedd y gaeaf a chydnabod risgiau parhaus y pandemig, rhoddwyd sicrwydd i’r Pwyllgor bod y pwyllgorau Sgriwtini a’r Pwyllgor Gwaith yn cael eu diweddaru pob chwe mis ar berfformiad a chynnydd y Gwasanaethau Oedolion a Phlant. Mae’r cynnydd yn y galw am wasanaethau yn dilyn llacio’r cyfyngiadau Covid yn duedd sydd i’w gweld ym mhob awdurdod lleol ledled Cymru ac mae atgyfeiriadau yn cynnwys achosion mwy cymhleth a all gymryd mwy o amser i fynd i’r afael â hwy. Fodd bynnag, yn dilyn rhaglen o welliannau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r Gwasanaethau Plant ac Oedolion, yn dilyn cadarnhad gan adroddiadau Arolygiaeth Gofal Cymru, bellach mewn sefyllfa fwy cadarn i ymateb i’r heriau y maent yn eu hwynebu sydd hefyd yn golygu bod y plant sydd dan ofal yr Awdurdod yn derbyn gwell gwasanaeth. 

 

Ar ôl ystyried yr adroddiad cerdyn sgorio ar gyfer Chwarter 2 2021/22 a’r diweddariadau gan y Swyddogion yn ystod y cyfarfod, penderfynwyd derbyn yr adroddiad, nodi’r gwelliannau y mae’r Uwch Dîm Rheoli’n ceisio’u sicrhau i’r dyfodol ac argymell y mesurau lliniaru a amlinellwyd i’r Pwyllgor Gwaith.

 

Dogfennau ategol: