Cyflwyno adroddiad gan Y Dirprwy Brif Weithredwr.
Cofnodion:
Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr mewn perthynas â’r Cynllun Trosiannol ar gyfer y Cyngor Sir.
Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Busnes y Cyngor fod y Cynllun Trosiannol yn darparu fframwaith gweithredol i Swyddogion gyflawni amcanion strategol allweddol trwy gamau gweithredu diffiniedig yn ystod cyfnod adfer yr Ynys yn union ar ôl y pandemig. Mae’r Cynllun yn esblygu o Gynllun Cyflawni Blynyddol 2020-22.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod y Cynllun Trosiannol yn darparu sicrwydd a chyfeiriad yn ystod y cyfnod adfer yn union ar ôl y pandemig trwy adolygu a mireinio amcanion i’w cyflawni yn ystod y cyfnod o 12 mis cyn mabwysiadu Cynllun y Cyngor newydd o dan y weinyddiaeth newydd ar ôl mis Mai 2022. Amcanion strategol y cynllun yw:-
· Adfywio’r economi leol a gwreiddio newidiadau economaidd cadarnhaol;
· Galluogi’r sector ymwelwyr a lletygarwch i fanteisio ar boblogrwydd cynyddol yr Ynys ac amddiffyn ein hasedau a’n cymunedau ar yr un pryd;
· Cynnal a moderneiddio gwasanaethau cymunedol hanfodol bwysig megis Gofal ac Addysg ledled yr Ynys.
Bydd yr amcanion uchod yn cael eu llywio gan yr angen i drawsnewid i fod yn Awdurdod Lleol carbon niwtral erbyn 2030 ac ymateb yn effeithiol i’r argyfwng newid hinsawdd, deddfwriaeth llywodraeth leol newydd a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Yn absenoldeb Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, dywedodd Is-gadeirydd y Pwyllgor hwnnw bod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wedi trafod y Cynllun Trosiannol a’i fod wedi nodi pryderon ynglŷn â’r angen i ganiatáu i’r sector ymwelwyr a lletygarwch fanteisio ar boblogrwydd cynyddol yr Ynys wrth warchod ei hasedau mewn cymunedau, yr angen i reoli twristiaeth er budd yr ynys a’i heconomi a chryfhau adran dwristiaeth y Cyngor. Nododd y Pwyllgor yr angen i foderneiddio gwasanaethau cymunedol holl bwysig megis gofal ac addysg ledled yr Ynys a chyfeiriodd hefyd y risg mewn perthynas â darparu gofal mewn cartrefi gofal pe byddai Llywodraeth Cymru’n penderfynu dilyn yr un trywydd â Lloegr a’i gwneud yn ofyn cyfreithiol i weithwyr cartrefi gofal gael eu brechu’n llawn. Gofynnodd y Pwyllgor hefyd a oedd y Cynllun Trosiannol yn cymryd lle’r Cynllun Corfforaethol ac a yw’r cyfnod o 12 mis yn ymrwymo neu’n clymu’r Cyngor newydd i’r amcanion a gynhwysir yn y cynllun. Argymhellodd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol fod y Pwyllgor Gwaith yn mabwysiadu’r Cynllun Trosiannol.
Dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones fod gweithio ar y cyd ac mewn partneriaeth ar bob lefel yn bwysig er mwyn gwneud y mwyaf o ganlyniadau ac ymateb i anghenion, gofynion a chyfleoedd sy’n newid. Wrth gyflawni amcanion y Cynllun, mae angen i’r Ynys adfywio’r economi leol a gwreiddio newidiadau economaidd cadarnhaol. Tynnodd sylw’r Pwyllgor Gwaith at y prosiectau a nodir ym mharagraff 6 yr adroddiad. Ychwanegodd fod adfywio’r economi leol i sicrhau mwy o wydnwch a thwf posib yn y dyfodol yn holl bwysig a bydd angen gwireddu adferiad gwyrdd sydd yn rhoi blaenoriaeth i dwf economaidd, yn mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac yn parchu’r amgylchedd naturiol.
Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Sir ei fod yn mabwysiadu’r Cynllun Trosiannol a fydd yn darparu’r fframwaith gweithredol i Swyddogion gyflawni amcanion strategol allweddol trwy gamau gweithredu diffiniedig yn ystod cyfnod adfer yr Ynys yn union ar ôl y pandemig.
Dogfennau ategol: