Eitem Rhaglen

Y Gymraeg

·           Strategaeth Iaith: 2021/26 – adolygiad

 

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd mewn perthynas a’r uchod.

 

·           Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 

 

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc mewn perthynas a’r uchod.

 

Cofnodion:

·           Strategaeth Iaith

 

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd mewn perthynas â’r uchod. 

 

Dywedodd y Deilydd Portffolio - Iaith Gymraeg fod yr adroddiad yn ymgorffori’r Strategaeth Iaith Gymraeg 2016 - 2021 (Adroddiad Asesiad) ynghyd â Strategaeth Hybu’r Gymraeg 2021-2026. Dywedodd ei bod yn bwysig nodi fod y Strategaeth Hybu’r Gymraeg 2021-2026 yn strategaeth hyrwyddo ddrafft a’i bod yn her paratoi dogfen o’r fath oherwydd diffyg data cyfredol ynghylch sefyllfa’r Iaith Gymraeg ar Ynys Môn. Nododd ymhellach fod Strategaeth Hybu’r Gymraeg 2021-2026 (drafft) yn adeiladu ar sylfaen y strategaeth gyntaf ac yn mabwysiadu targed cyson a meysydd blaenoriaeth h.y. Plant, pobl ifanc a theuluoedd; y gweithle, gwasanaethau Iaith Gymraeg a’r isadeiledd; y Gymuned. Dywedodd y Deilydd Portffolio - Iaith Gymraeg fod yr ystadegau yn dangos fod y nifer o siaradwyr Cymraeg ar yr Ynys wedi lleihau ond bod y ffigyrau hefyd yn dangos fod oddeutu 38,000 o drigolion yr ynys yn siaradwyr Cymraeg, ffigwr sydd wedi parhau yn sefydlog ers yr 1950au. 

 

Adroddodd y Rheolwr Polisi a’r Iaith Gymraeg bod gofyn i’r Cyngor baratoi strategaeth i hyrwyddo’r Gymraeg, yn unol â Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015. Paratowyd y ddogfen fel strategaeth dros dro i bontio'r cyfnod o ddiwedd 2021 hyd at gyhoeddi data'r Cyfrifiad yn llawn yn ystod 2023 a phwrpas y Strategaeth yw amlinellu sut mae'r Cyngor yn bwriadu hyrwyddo'r iaith a hwyluso ei defnydd ehangach ar Ynys Môn. Dywedodd ymhellach, pan gyhoeddwyd y strategaeth gyntaf yn 2016, y targed oedd gwrthdroi’r lleihad yn nifer y siaradwyr Cymraeg ar yr Ynys yn ôl Cyfrifiad 2011. Gwnaed gwaith gyda sefydliadau partner allweddol trwy Fforwm Cymraeg Ynys Môn a bydd y Fforwm yn cymryd y cyfrifoldeb o fonitro'r cynnydd o ran y cynlluniau gweithredu bob blwyddyn.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a gwnaeth y prif bwyntiau a ganlyn: -

 

·          Codwyd cwestiynau ynghylch a oes unrhyw risgiau neu bryderon penodol ynghylch cyflwr yr iaith Gymraeg yn Ynys Môn. Ymatebodd y Rheolwr Polisi ac Iaith Gymraeg fod y pandemig wedi cael effaith ar y Gymraeg oherwydd bod mewnlifiad o bobl yn dod i fyw ar yr Ynys tra nad oes data ar gael ar hyn o bryd i gadarnhau'r effaith; mae angen monitro'r sefyllfa er mwyn canfod yr effeithiau ar gymunedau lleol ac ymateb i'r heriau sy'n deillio o'r mewnlifiad o bobl sy'n dod i fyw ar yr Ynys. Dywedodd y Deilydd Portffolio ar gyfer y Gymraeg ei bod yn bwysig hyrwyddo'r Gymraeg gan fod canran o bobl wedi'u geni ar yr Ynys sy'n tueddu i siarad Saesneg yn y cartref yn hytrach na siarad Cymraeg;

·         Gwnaed sylwadau ei bod yn her craffu ar y Strategaeth a rhoi sylwadau p'un a fydd yn llwyddiannus ai peidio oherwydd y diffyg data cyfredol sydd ar gael. Ymatebodd y Deilydd Portffolio- Iaith Gymraeg ei fod o'r farn ei bod yn bosibl craffu a dod i ganfyddiad cyffredinol ynghylch y rhesymau pam mae canran y siaradwyr Cymraeg wedi lleihau ar yr Ynys. Dywedodd fod Cynllun Gweithredu wedi’i gynhyrchu gyda gofyniad i wella sefyllfa’r Gymraeg yn ysgolion yr Awdurdod, y gweithle, (mae’r Cyngor yn annog ac yn cefnogi staff i ddefnyddio’r Gymraeg) a’r gymuned;

·      Codwyd cwestiynau ynghylch a allai'r Strategaeth ymgorffori'r defnydd / annog defnyddio'r Gymraeg yn y sector preifat. Ymatebodd y Rheolwr Polisi ac Iaith Gymraeg fod y Cynllun Gweithredu yn ddogfen weithio a bod lle i gynnwys cydweithredu â sefydliadau partner fel y trafodwyd yn Fforwm Cymraeg Ynys Môn. Dywedodd ymhellach y gall y Cyngor Sir ddylanwadu, cefnogi ac arwain y gwaith a wneir i annog defnyddio'r Gymraeg;

·      Mynegwyd pryderon bod canran y siaradwyr Cymraeg ar yr Ynys wedi gostwng ac yn parhau i fod ar lefel ers y 1950au a’r effaith y gallai hynny ei gael ar y gymuned a dyfodol y Gymraeg. Ymatebodd y Deilydd Portffolio - Iaith Gymraeg fod y Gymraeg ym 1970 yn cael ei siarad ar iard yr ysgol ond mae hyn wedi newid dros y blynyddoedd a dyma pam mae Strategaeth Hybu Iaith Gymraeg o'r fath yn bwysig i hyrwyddo'r iaith a hwyluso ei defnydd ehangach ar Ynys Môn. Nododd ei bod yn galonogol yn enwedig yn Ne Cymru bod canran y siaradwyr Cymraeg yn cynyddu ac yn enwedig mewn ysgolion gyda rhieni nad ydynt yn siarad Cymraeg yn anfon eu plant i ysgolion cyfrwng Cymraeg. Roedd aelodau'r Pwyllgor hefyd o'r farn y dylai gweithgareddau awyr agored a gynigir i blant ysgol hefyd fod yn hybu ac yn defnyddio'r Gymraeg. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod hyrwyddo’r Gymraeg yn flaenoriaeth ym mhob ysgol ar yr Ynys ond mynegodd ei bod yn her annog plant a phobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth.

 

PENDERFYNWYD argymell i’r Pwyllgor Gwaith:-

 

·        y dylid cyhoeddi Strategaeth Iaith Gymraeg 2016-2021: Adroddiad asesu (drafft) ar y wefan gorfforaethol;

·        y dylid cymeradwyo Strategaeth Hybu’r Gymraeg 2021-2026 (drafft) ac awdurdodi’r swyddogion perthnasol, mewn ymgynghoriad â’r deilydd portffolio, i gwblhau unrhyw waith adolygu pellach i’r strategaeth ddrafft.

 

GWEITHRED : Fel y nodwyd uchod.

 

·        Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg

 

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc mewn perthynas â’r uchod.

 

Dywedodd y Deilydd Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid bod adran 84 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol baratoi Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSGA). Cynllun deng mlynedd yw’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2022-2032 a'r pwrpas yw gwella cyfleoedd i awdurdodau lleol gynllunio darpariaeth addysg Gymraeg er mwyn cefnogi'r disgwyliad presennol ac yn y dyfodol ar gyfer twf mewn addysg Gymraeg. Bydd gwella cynllunio addysg Gymraeg hefyd yn cefnogi’r uchelgais genedlaethol hirdymor ar gyfer y Gymraeg fel y nodir yn Cymraeg 2050: Strategaeth Miliwn o siaradwyr Cymraeg. Dywedodd ymhellach y bydd yn her cyrraedd uchelgais genedlaethol miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ond trwy dderbyn y Strategaeth hon, gobeithio y bydd yn gwella safonau addysg Gymraeg.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod Ynys Môn yn cychwyn pennod newydd o ran sut y mae'n cynllunio'r Gymraeg mewn addysg a bydd gweithredu’r Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg dros y 10 mlynedd nesaf, yn helpu i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Rhaid i'r Cynllun Strategol gynnwys: -

 

·           Cynigion awdurdod lleol ar sut y bydd yn cyflawni ei swyddogaethau addysg i wella cynllunio darpariaeth addysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn ei ardaloedd a gwella safonau addysg Gymraeg ac addysgu Cymraeg yn ei ardaloedd;

·           Targedau'r awdurdod lleol ar gyfer gwella cynllunio darpariaeth addysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn ei ardal ac ar gyfer gwella safonau'r addysg honno ac addysgu'r Gymraeg yn yr ardal;

·           Adrodd ar y cynnydd blynyddol a wnaed i gyflawni'r targedau a nodir yn y Cynllun blaenorol neu'r Cynllun diwygiedig blaenorol.

 

Dywedodd ymhellach fod y Cyngor wedi cynhyrchu CSGA 10 mlynedd mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid ar draws y sector. Bydd cyfnod ymgynghori 8 wythnos yn cael ei gynnal gyda'r holl ymgynghorwyr sy'n cynnwys Estyn a'r ysgolion lleol. Wedi hynny, bydd y sylwadau a dderbynnir ar ôl y cyfnod ymgynghori yn cael eu hymgorffori yn y Cynllun Strategol os bydd angen ac fe'u cyflwynir i Lywodraeth Cymru erbyn diwedd Ionawr 2022.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a gwnaed y prif bwyntiau canlynol: -

 

·   Codwyd cwestiynau ynghylch a ellir addasu'r CSGA gan ei fod yn Gynllun 10 mlynedd. Ymatebodd yr Uwch Reolwr - Cynradd y bydd strwythur a phroses gydweithredu yn cael ei sefydlu. Bydd y Grŵp Cylch Gorchwyl yn cwrdd pob tymor ysgol ynghyd â'r Grŵp Canlyniadau (sydd â chynrychiolaeth ar draws gwahanol sectorau) i ddadansoddi'r data a bydd yn briodol ymateb i unrhyw ganlyniad yn flynyddol a bydd Adroddiad Blynyddol yn cael ei gyhoeddi. Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod y mater hwn wedi'i godi gyda Llywodraeth Cymru gan fod y Cynllun yn gynllun 10 mlynedd ac y bydd angen ei addasu a'i adolygu;

·   Cyfeiriwyd at yr heriau o fewn y sector Uwchradd i ddenu athrawon sy'n gallu dysgu pynciau trwy'r Gymraeg a mynegwyd pryderon mai canran y pynciau a addysgir trwy gyfrwng y Gymraeg yw 34.8%. Codwyd cwestiynau ynghylch a yw'r Awdurdod mewn cysylltiad â'r Prifysgolion i annog a galluogi mwy o fyfyrwyr i ddod yn athrawon cyfrwng Cymraeg o ansawdd uchel. Ymatebodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc fod cydweithio yn digwydd â Phrifysgol Bangor a CABAN (y bartneriaeth ledled Gogledd Cymru) sy'n cefnogi darpar athrawon ac athrawon newydd. Dywedodd yr Uwch Reolwr fod Arweinwyr o'r Brifysgol mewn cysylltiad â'r Grŵp Strategol Uwchradd a bydd gan Benaethiaid fynediad i'r garfan o athrawon sy'n hyfforddi ar hyn o bryd. Gwneir gwaith gyda GwE a Chanolfan Bedwyr i godi ymwybyddiaeth o gyfleoedd addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg;

·   Codwyd cwestiynau ynghylch beth yw'r prif heriau yn y dyfodol o ran safle'r Gymraeg o fewn addysg ar lefel leol. Ymatebodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc ei bod yn amlwg bod y pandemig wedi effeithio ar ddefnydd disgyblion o'r iaith Gymraeg ac ieithoedd eraill. Dywedodd ymhellach ei bod yn her annog disgyblion o oedran ifanc a thrwy eu haddysg i siarad Cymraeg;

 

PENDERFYNWYD argymell i’r Pwyllgor Gwaith y  dylid cymeradwyo Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-2032: Diffiniad rôl y cydlynwyr Iaith dalgylch (drafft) ac awdurdodi’r swyddogion perthnasol, mewn ymgynghoriad â’r deilydd portffolio, i gwblhau unrhyw waith adolygu pellach i’r strategaeth ddrafft.

 

GWEITHRED: Fel y nodwyd uchod.

 

Dogfennau ategol: