Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd mewn perthynas a’r uchod.
Cofnodion:
Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygiad Economaidd mewn perthynas â’r uchod.
Dywedodd y Deilydd Portffolio - Cynllunio bod y Cynllun Datblygu Lleol ar y cyd wedi'i fabwysiadu ar 31ain o Orffennaf, 2017 yn unol â'r dyddiad gofynnol statudol ar gyfer cychwyn y broses adolygu oedd 31 Gorffennaf, 2021 a bydd y cyfnod ymgynghori yn cael ei gynnal ar yr adroddiad adolygu.
Adroddodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd fod y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd presennol yn darparu strwythur polisi lleol ar gyfer defnydd tir. Mae'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd presennol ar waith tan 2025 ond mae angen ei adolygu bob 4 blynedd. Mae'r broses ymgynghori ar y gweill ar hyn o bryd a bydd adroddiad terfynol yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor llawn ym mis Mawrth 2022.
Adroddodd y Rheolwr Polisi Cynllunio bod yr adroddiad adolygu yn mesur perfformiad y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ers ei fabwysiadu yn 2017. Mae'r adroddiad adolygu'n cynnwys 6 rhan fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad: -
Rhan 1 - Cyflwyniad
Rhan 2 - Gwybodaeth a materion perthnasol
Rhan 3 - Adolygiad CDLl a newidiadau posibl
Rhan 4 - Gofyniad adolygiad ar sail tystiolaeth
Rhan 5 - Cydweithio a pharatoi Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd
Rhan 6 - Casgliadau a'r camau nesaf
Adroddodd y Rheolwr Polisi Cynllunio ymhellach y bydd y broses ymgynghori ar yr Adroddiad Adolygu yn dod i ben ar 20fed o Ragfyr, 2021.
Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a gwnaed y prif bwyntiau canlynol: -
· Codwyd cwestiynau ynghylch a oes angen mynd i'r afael ag unrhyw faterion ychwanegol fel rhan o'r broses adolygu naill ai'n genedlaethol, yn rhanbarthol neu'n lleol. Ymatebodd y Rheolwr Polisi Cynllunio bod pryderon ar lefel ranbarthol ynghylch y gwaith ar y Cynllun Datblygu Strategol y bydd ei angen yn ychwanegol at newidiadau posibl mewn deddfwriaeth genedlaethol na ellir eu rhagweld; bydd angen rhoi adnoddau ar waith i wneud gwaith ar y Cynllun Datblygu Strategol hy cyllid ychwanegol a staffio. Dywedodd ymhellach fod Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn trafod materion cartrefi gwyliau, ail gartrefi ar hyn o bryd ac y gallai gwaith pellach ddeillio o drafodaethau o'r fath;
· Nodwyd bod Llywodraeth Cymru wedi gosod amserlen o dair blynedd a hanner i gynnal adolygiad llawn o'r Cynllun Datblygu Lleol a mynegwyd pryderon bod angen newid y Cynllun Datblygu ar hyn o bryd. Codwyd cwestiynau a ellid adolygu'r polisïau yn y Cynllun fesul cam. Ymatebodd y Rheolwr Polisi Cynllunio, unwaith y bydd y Cytundeb Cyflenwi yn ei le ac wedi’i gytuno gan Lywodraeth Cymru, yr amserlen a bennwyd gan y Llywodraeth yw tair blynedd a hanner i gyflawni'r gwaith. Nododd na fydd modd adolygu polisïau yn y Cynllun fesul cam am fod y polisïau yn integreiddio â'i gilydd;
· Codwyd cwestiynau ynghylch yr effaith y bydd y Pwyllgor Corfforaethol ar y Cyd (CJC’s) yn ei gael ar yr awdurdodau cynllunio lleol. Ymatebodd y Deilydd Portffolio - Cynllunio y bydd pwysau ychwanegol yn cael eu gosod ar awdurdodau lleol wrth gyflwyno’r Pwyllgor Corfforaethol ar y Cyd gan na fydd y cyllid a’r staff presennol yn ddigonol i gyflawni’r gwaith. Dywedodd y Prif Weithredwr y bydd yn gofyn am ddiweddariad lefel uchel ar y Pwyllgor Corfforaethol ar y Cyd i’r Aelodau Etholedig maes o law;
· Codwyd cwestiynau a yw'r polisïau cynllunio presennol yn ddigon gwydn i alluogi pobl i aros yn eu cymunedau lleol. Ymatebodd y Rheolwr Polisi Cynllunio bod y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd presennol yn sicrhau ac yn hyrwyddo bod cartrefi yn cael eu hadeiladu ar gyfer pobl leol ac anghenion lleol. Fodd bynnag, o ganlyniad i'r materion pandemig sydd wedi dod i'r amlwg o ran pryderon ynghylch cartrefi yn cael eu prynu fel cartrefi gwyliau ac ail gartrefi mewn cymunedau lleol. Nododd y bydd angen i Lywodraeth Cymru newid y ddeddfwriaeth i fynd i'r afael â'r materion hyn.
· Codwyd cwestiynau ynghylch a yw anghenion lleol yr Ynys yn cael eu hystyried gan fod gan bob sir wahanol flaenoriaethau ac anghenion lleol. Ymatebodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd ei bod yn hanfodol bod gan yr Awdurdod statws rhanbarthol cryf a bod llais y cymunedau lleol yn cael sylw.
PENDERFYNWYD nodi:-
· Y newidiadau yn y cyd-destun cenedlaethol a lleol;
· Canfyddiadau’r Adroddiadau Monitro Blynyddol yn Rhan 2;
· Y materion fydd angen eu hadolygu wrth baratoi Cynllun Diwygiedig yn Rhan 3;
· Y casgliadau yn rhan 6 o’r Adroddiad Adolygu.
GWEITHRED : Fel y nodwyd uchod.
Dogfennau ategol: