Eitem Rhaglen

Rhybudd o Gynigiad yn unol â Rheol 4.1.13.1 o’r Cyfansoddiad

·  Cyflwyno’r Rhybudd o Gynigiad canlyniol gan y Cynghorydd Jeff M Evans, wedi’i ardystio gan y Cynghorwyr Robert Ll Jones, Peter Rogers, Bryan Owen:-

 

“Fy mwriad yw ceisio cefnogaeth Cyngor Sir Ynys Môn er mwyn cael sicrwydd a gweithredu positif gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Llywodraeth Cymru yn narpariaeth Gwasanaethau Cefnogi Iechyd effeithiol, yn cynnwys y Gwasanaeth Ambiwlans er mwyn gallu bodloni anghenion a gofynion y gymuned, gan fynd i’r afael â’r anawsterau a’r dirywiad mewn gwasanaethau iechyd, sy’n cael effaith andwyol ar iechyd a llesiant y gymuned.” 

 

 ·  Cyflwyno’r Rhybudd o Gynigiad canlynol gan y Cynghorydd Robert Ll Jones, wedi’i ardystio gan  y Cynghorwyr Aled Morris Jones, Bryan Owen, Kennth P Hughes, Peter Rogers:-

 

“Gofynnaf i’r Cyngor Sir wneud DATGANIAD ADEILADAU CARBON SERO NET ynghyd â RHOI CAMAU GWEITHREDU AR WAITH AR UNWAITH I GYFLAWNI’R YMRWYMIAD. MAE YFORY’N RHY HWYR.”

 

 ·  Cyflwyno’r Rhybudd o Gynigiad canlynol gan y Cynghorydd Richard Dew, wedi’i ardystio gan y Cynghorydd Llinos Medi Huws:-

 

    ·  Gofyn am yr angen i bob arddangosfa gyhoeddus o dân gwyllt o fewn ffiniau’r awdurod lleol i gael eu hysbysebu ymlaen llaw o’r digwyddiad er mwyn galluogi trigolion i ofalu am eu hanifeiliaid anwes a phobl fregus. 

    ·   Hyrwyddo ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus am effaith tân gwyllt ar lesiant anifeiliaid a phobl fregus – yn cynnwys y mesurau y gellir eu cymryd er mwyn lliniaru’r risgiau.

    ·  Annog cyflenwyr tân gwyllt yn lleol i werthu tân gwyllt ‘distawach’ ar gyfer arddangosfeydd cyhoeddus. 

Cofnodion:

·           Cyflwynwyd – y Rhybudd o Gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Jeff M Evans, wedi’i ardystio gan y Cynghorwyr Robert Ll Jones, Peter Rogers a Bryan Owen:-

 

“Fy mwriad yw ceisio cefnogaeth Cyngor Sir Ynys Môn er mwyn cael sicrwydd a gweithredu positif gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Llywodraeth Cymru y bydd Gwasanaethau Cefnogi Iechyd effeithiol yn cael eu darparu, yn cynnwys y Gwasanaeth Ambiwlans, er mwyn gallu bodloni anghenion a gofynion y gymuned, gan fynd i’r afael â’r anawsterau a’r dirywiad mewn gwasanaethau iechyd, sy’n cael effaith andwyol ar iechyd a llesiant y gymuned.”

 

Mynegodd y Cynghorydd Jeff Evans ei bryderon dybryd am yr oedi wrth dderbyn gwasanaeth gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru. Rhoddodd y Cynghorydd Evans enghreifftiau o brofiadau diweddar ei deulu ei hun a’r oriau maith y bu’n rhaid iddynt ddisgwyl am y Gwasanaeth Ambiwlans. Nododd ei fod wedi trafod y mater â Phrif Swyddog y Cyngor Iechyd Cymunedol a’i ymateb ef oedd bod y Rhybudd o Gynnig yn disgrifio pryderon Aelodau’r Cyngor Iechyd Cymunedol yn gywir.

 

Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Bryan Owen a dywedodd fod y Cynghorydd Jeff Evans wedi cyflwyno’r Rhybudd o Gynnig oherwydd ei brofiadau personol o orfod disgwyl am oriau i’r Gwasanaeth Ambiwlans roi gofal i’w deulu yn ystod eu salwch diweddar. Fodd bynnag, nododd fod y gwasanaeth o dan bwysau aruthrol a bod y pandemig wedi rhoi pwysau ychwanegol ar y Gwasanaeth Iechyd cyfan, ond nid yw’n dderbyniol bod cleifion yn gorfod disgwyl am oriau maith i’r Gwasanaeth Ambiwlans gyrraedd. Ychwanegodd ei fod o’r farn y dylid anfon llythyr at y Gwasanaeth Ambiwlans a Llywodraeth Cymru i fynegi pryder a nodi bod angen dybryd i wella’r amseroedd aros i gleifion.

 

Dywedodd yr Arweinydd bod y pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd yn fater o bryder cenedlaethol. Nododd bod y materion y cyfeiriwyd atynt yn y Rhybudd o Gynnig wedi cael eu codi gyda Chadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a thrwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar ran Arweinwyr Awdurdodau Lleol ledled Gogledd Cymru. Codwyd pryderon hefyd am y pwysau ar y Gwasanaethau Brys yng nghyfarfodydd Grŵp Arweinyddiaeth Gogledd Cymru ym mhresenoldeb cynrychiolwyr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Dywedodd yr Arweinydd ei bod yn bwysig cydnabod y pwysau ar y Gwasanaethau Iechyd a’r Gwasanaethau Brys yn ystod cyfnod o bwysau eithriadol, ynghyd â’r gofynion ychwanegol oherwydd y pandemig.

 

Roedd Aelodau’r Cyngor yn unfrydol o blaid y Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Jeff Evans a:-

 

PHENDERFYNWYD cefnogi’r cynnig. 

 

·           Cyflwynwyd – y Rhybudd o Gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Robert Ll Jones, wedi’i ardystio gan y Cynghorwyr Aled Morris Jones, Bryan Owen, Kenneth P Hughes a Peter Rogers:-

 

“Gofynnaf i’r Cyngor Sir wneud DATGANIAD ADEILADAU CARBON SERO NET ynghyd â RHOI CAMAU GWEITHREDU AR WAITH AR UNWAITH I GYFLAWNI’R YMRWYMIAD. MAE YFORY’N RHY HWYR.”

 

Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Bryan Owen.

 

Dywedodd y Cynghorydd R Ll Jones fod y gynhadledd COP26 a gynhaliwyd yng Nglasgow yn ddiweddar wedi gwneud ymrwymiad i fynd i’r afael â’r Argyfwng Hinsawdd. Ychwanegodd y bydd dyletswydd ar gynghorau lleol i leihau allyriadau carbon yn eu hardaloedd a gofynnod i’r Cyngor gefnogi’r cynnig i wneud datganiad adeiladau carbon sero net ar unwaith.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd R Thomas, y Pencampwr Newid Hinsawdd, bod yr Awdurdod wedi datgan Argyfwng Hinsawdd ym mis Medi 2020 a’i fwriad i fod yn Awdurdod Carbon Niwtral erbyn 2030 a bod hynny’n cynnwys holl adeiladau’r Cyngor Sir. Ychwanegodd bod y Pwyllgor Gwaith wedi penderfynu datblygu a gweithredu Rhaglen Newid Hinsawdd gorfforaethol newydd a fydd yn caniatáu’r Awdurdod i drawsnewid i fod yn sefydliad carbon niwtral erbyn 2030. Mae’r Pwyllgor Gwaith hefyd wedi cymeradwyo recriwtio Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd i arwain ar ddatblygu a chyflawni’r rhaglen ac mae’r swyddog wedi cael ei benodi ac wedi dechrau ar ei waith. Dywedodd bod yr Awdurdod wedi gwario dros £2.4m i leihau’r ôl-troed carbon. Dywedodd y Cynghorydd Thomas fod y Cyngor wedi cymryd camau sylweddol yn barod tuag at fod yn Awdurdod Carbon Niwtral erbyn 2030 ac nid oedd yn ystyried bod angen cefnogi’r cynnig.

 

Yn dilyn pleidlais, lle pleidleisiodd 16 yn erbyn, 6 o blaid a 3 yn atal eu pleidlais:-

 

Ni chariwyd y cynnig.

 

·           Cyflwynwyd – y Rhybudd o Gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Richard Dew, wedi’i ardystio gan y Cynghorydd Llinos Medi Huws:-

 

·        Ei gwneud yn ofynnol i bob arddangosfa tân gwyllt cyhoeddus o fewn ffiniau’r awdurdod lleol gael ei hysbysebu cyn y digwyddiad er mwyn caniatáu i drigolion ofalu am eu hanifeiliaid anwes a phobl fregus.

·        Hyrwyddo ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus am effaith tân gwyllt ar lesiant anifeiliaid a phobl fregus – yn cynnwys y mesurau y gellir eu cymryd i liniaru’r risgiau.

·         Annog cyflenwyr tân gwyllt yn lleol i werthu tân gwyllt ‘distawach’ ar gyfer arddangosfeydd cyhoeddus.

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard A Dew bod tân gwyllt yn cael ei ddefnyddio’n llawer mwy aml i ddathlu gwahanol achlysuron ond mae’n rhaid cydnabod bod hyn yn effeithio ar bobl fregus ac anifeiliaid oherwydd y niwsans sŵn a achosir. Ychwanegodd y gallai rhoi rhybudd ymlaen llaw o ddigwyddiadau cyhoeddus ganiatáu i breswylwyr gymryd camau angenrheidiol i amddiffyn pobl fregus ac anifeiliaid.

 

Eiliwyd y cynnig gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Llinos M Huws.

 

Roedd Aelodau’r Cyngor yn unfrydol o blaid y Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Richard A Dew a:-

 

PHENDERFYNWYD cefnogi’r cynnig.