Ystyried cais am Ganiatâd Arbennig.
Cofnodion:
Adroddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro bod saith Aelod o’r Pwyllgor Gwaith wedi cyflwyno cais ar y cyd i oresgyn diddordeb personol mewn perthynas â “Strategaeth Ddigidol Ysgolion Ynys Môn a Chwmni Cynnal Cyf.”.
Roedd y cais yn nodi’r busnes yr oedd yr Aelodau’n dymuno cymryd rhan ynddo, a’r math o ganiatâd arbennig a geisiwyd, a’r sail statudol dros wneud y cais.
Ar ôl derbyn cyngor gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, daeth y Panel i’r casgliad a ganlyn:-
1. Bod y diddordeb gyfystyr â diddordeb personol yn unol â’r diffiniad yn y
Côd Ymddygiad/Canllawiau’r Ombwdsmon.
2. Mae’r diddordeb yn un sy’n rhagfarnu yn unol â’r ystyr yn y Côd
Ymddygiad.
3. Nid oes unrhyw “ganiatâd arbennig” yn y Côd Ymddygiad a fyddai’n
caniatáu i’r Ymgeiswyr gymryd rhan.
4. Byddai’r Ymgeiswyr yn cael eu hatal rhag cymryd rhan/gwneud
penderfyniadau a ni fyddent yn gallu cyflawni un o swyddogaethau’r
Pwyllgor Gwaith.
5. O’r herwydd, ni fyddai modd i’r Pwyllgor Gwaith sicrhau cworwm oni
roddir caniatâd arbennig.
6. Rhoddwyd caniatâd arbennig i bob un o’r saith ymgeisydd.
PENDERFYNWYD rhoi Caniatâd Arbennig i bob un o’r saith ymgeisydd yn unol â’r geiriad a ganlyn, i:-
• ysgrifennu at swyddogion [a/neu’r Pwyllgor Gwaith/Pwyllgor/Cyngor] am y mater;
• siarad â swyddogion y Cyngor am y mater, nad ydynt yn Ymddiriedolwyr neu’n Aelodau o Fwrdd Cwmni Cynnal Cyf., ar yr amod y cedwir cofnod o unrhyw drafodaethau o’r fath;
• siarad yng nghyfarfod y Pwyllgor Gwaith/Pwyllgor/Cyngor ac ateb unrhyw gwestiynau am y mater;
• aros yn yr ystafell yn ystod unrhyw drafodaeth/bleidlais ar y mater (ar gael os oes gan Aelod anallu);
• pleidleisio mewn cyfarfodydd o’r fath;
• ymgymryd â rôl lawn mewn unrhyw gyfarfodydd cyhoeddus a chyfarfodydd unrhyw gyrff allanol;
• daw’r caniatâd a roddwyd fel hyn i ben ar 9 Mai 2022.
Nodwyd bod rhaid i’r Aelodau y rhoddwyd caniatâd arbennig iddynt ddatgan eu diddordebau personol sy’n rhagfarnu, a’r ffaith eu bod wedi derbyn caniatâd arbennig gan y Pwyllgor Safonau, ym mhob cyfarfod perthnasol pan fyddant yn trafod a/neu’n pleidleisio mewn cyfarfodydd.
Rhoddir y caniatâd arbennig o dan Baragraff 81(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 ar y sail a ganlyn:-
• “Os oes gan ddim llai na hanner aelodau’r awdurdod perthnasol, neu hanner aelodau bwyllgor yr awdurdod y mae’r busnes i gael ei ystyried ganddo, ddiddordeb sy’n berthnasol i’r busnes hwnnw”.
• “Os oes gan ddim llai na hanner aelodau gweithrediaeth arweinydd a chabinet y mae’r busnes i gael ei ystyried ganddo ddiddordeb sy’n berthnasol i’r busnes hwnnw a bod naill ai paragraff (d) neu (e) hefyd yn gymwys”.
Gweithredoedd:
Bydd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro yn:-
• Ysgrifennu at y saith aelod o Gyngor Sir Ynys Môn a enwir yn y cais, gan gadarnhau penderfyniad y Panel i roi caniatâd arbennig ar y cyd; sydd yn caniatáu i bob aelod ysgrifennu, siarad a phleidleisio ar bob mater yn gysylltiedig â’r busnes hwnnw.
• Rhoi gwybod i’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd bod caniatad arbennig wedi’i roi.
• Adrodd i’r Pwyllgor Safonau ynghylch y defnydd a wnaed o’r caniatad arbennig.