Eitem Rhaglen

Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys 2021/22

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, a oedd yn cynnwys adolygiad canol blwyddyn o weithgareddau rheoli’r trysorlys a’r sefyllfa bresennol, i’w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Cynghorwyd y Pwyllgor bod pethau wedi symud ymlaen mewn perthynas â’r diweddariad ar y sefyllfa economaidd a geir yn yr adroddiad. Gan fod chwyddiant yn parhau i gynyddu mae pwysau i gynyddu Cyfradd y Banc. Yn nhabl 3.1 yn yr adroddiad ceir rhagolwg o’r gyfradd llog ac yn Atodiad 2 ceir esboniad o’r sefyllfa mewn perthynas â’r gyfradd llog yn cynnwys y risgiau sylweddol i’r hyn sydd wedi’i ddarogan yn cynnwys y pandemig, materion yn ymwneud â Brexit a ffactorau eraill.  Nid yw strategaeth y Cyngor ar fuddsoddiadau wedi newid ac mae’n seiliedig ar barhau i roi blaenoriaeth i ddiogelwch cyfalaf a hylifedd yn hytrach nag enillion.  Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, ystyrir ei bod yn briodol cadw’r buddsoddiadau i rai tymor byr er mwyn cwrdd ag anghenion llif arian, ond hefyd i chwilio am y gwerth sydd ar gael mewn cyfnodau hyd at 12 mis gyda sefydliadau ariannol â statws credyd uchel. Mae’r Cyngor wedi buddsoddi â Chyngor Sir y Fflint yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn ac wedi agor cyfrifon gyda dau fanc newydd cymeradwy sydd yn cynnig enillion uwch. Mae gan y Cyngor, fel nifer o awdurdodau lleol eraill, falans arian parod uchel sy’n cael ei gadw ar sail tymor byr yn bennaf. Cyn ymrwymo i fuddsoddiad mwy hirdymor rhaid ystyried y cynnydd posib yn y gyfradd llog.

 

Ni chymerwyd benthyg unrhyw arian ychwanegol yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn ariannol hon, a ni ragwelir y bydd angen cymryd unrhyw fenthyciadau allanol ychwanegol yn ystod ail hanner y flwyddyn ariannol. Bydd angen benthyca i gyllido rhan o raglen gyfalaf 2021/22, ond gwneir hynny trwy fenthyca mewnol drwy ddefnyddio balansau arian parod. Bydd hyn yn gohirio costau cyllido cyfalaf tra bod balansau arian parod y Cyngor yn gallu darparu ar gyfer y benthyca mewnol hwn.

 

Gellir cadarnhau bod y Cyngor, yn ystod  yr hanner blwyddyn a ddaeth i ben ar 30 Medi 2021, wedi gweithredu o fewn y dangosyddion trysorlys a darbodus a nodwyd yn Natganiad y Cyngor ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys ar gyfer 2021/22 ac na ragwelir unrhyw anawsterau o ran cydymffurfio â’r dangosyddion hyn yn ystod gweddill y flwyddyn.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol gan y Pwyllgor yn ystod y drafodaeth –

 

  • Yr angen i gyflymu gwariant mewn perthynas â’r rhaglen gyfalaf yn sylweddol yn ystod ail hanner y flwyddyn os ydym am gyflawni’r rhaglen gyfalaf a gwireddu’r proffil gwariant. Cynghorwyd y Pwyllgor y gall nifer o ffactorau effeithio ar gyflawni’r rhaglen gyfalaf yn ystod unrhyw flwyddyn ac mae’r pandemig Covid-19 a diffyg llafur a deunyddiau wedi effeithio ar nifer o’r cynlluniau eleni. Mae’r oedi a gafwyd wrth ddod i benderfyniad ynglŷn ag ad-drefnu’r ddarpariaeth addysg gynradd yn Llangefni hefyd wedi effeithio ar gynnydd y Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif ac mae hyn wedi arwain at danwariant sylweddol.  Efallai bod y Cyngor yn rhy optimistaidd ynglŷn â chyflawni’r rhaglen gyfalaf.  Ar gais  y Panel Sgriwtini Cyllid ac er mwyn cynllunio a chyflawni’r rhaglen gyfalaf yn well, bwriedir cymeradwyo’r rhaglen gyfalaf yn gynt ym mis Ionawr fel y gellir cadarnhau cytundebau’n gynt a chychwyn ar gynlluniau yn ystod misoedd yr haf er mwyn lleihau’r tebygolrwydd o lithriad oherwydd tywydd gwael. Mewn perthynas â meincnodi cyflawniad y rhaglen gyfalaf ag awdurdodau eraill, er y byddai’n anodd iawn cynnig cymhariaeth ystyrlon oherwydd gwahaniaethau o ran maint a chapasiti fe all y Gwasanaeth geisio cymharu’i hun ag awdurdodau o’r un maint.  Mewn perthynas â chael cynlluniau’n barod i’w dwyn ymlaen yn gyflym er mwyn manteisio i’r eithaf ar wariant byddai’n rhaid i’r rhaglen gyfalaf a’r gyllideb gael eu cymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith; byddai’n rhaid cael caniatâd y Pwyllgor Gwaith cyn cynnwys cynlluniau ychwanegol neu ddiwygio cynlluniau sydd eisoes wedi’u cynnwys yn y rhaglen gyfalaf.

 

Penderfynwyd derbyn a nodi’r adroddiad adolygiad canol blwyddyn Rheoli Trysorlys 2021/22 heb unrhyw sylwadau pellach.

 

 

Dogfennau ategol: