Eitem Rhaglen

Sefydlu Awdurdod Iechyd Porthladd ar gyfer Porthladd Newydd

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygiad Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Richard Dew, Aelod Portffolio ar gyfer Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd yn nodi’r gofynion ar y Cyngor i ddatblygu a sefydlu Awdurdod Iechyd Porthladd (AIP) penodedig newydd yn sgil sefydlu Safle Rheoli Ffiniau.

 

Mae ymadawiad y Deyrnas Unediad o’r Undeb Ewropeaidd (UE) wedi creu’r angen i sefydlu trefniadau rheoli ffiniau newydd a gwiriadau ar fewnforion. Gosodwyd y gofynion newydd hyn ar Lywodraeth Cymru yn sgil Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Ar hyn o bryd mae dau gyfleuster newydd wrthi’n cael eu datblygu ym Mharc Cybi, Caergybi i gynnal gwiriadau tollau a rheoli ffiniau ar gyfer nwyddau sydd yn dod i mewn neu’n gadael y Deyrnas Unedig drwy borthladd rhyngwladol Caergybi. Mae Cyllid a Thollau ei Mawrhydi yn datblygu Cyfleuster Rheoli Ffiniau Mewndirol ac mae Llywodraeth Cymru’n sefydlu Safle Rheoli Ffiniau.

 

Er mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am y Safle Rheoli Ffiniau o dan bwerau a gafodd eu datganoli gan Lywodraeth y DU, bydd sefydlu’r cyfleuster hwn yn rhoi dyletswyddau ychwanegol ar y Cyngor Sir, fel yr awdurdod lletyol, o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 a deddfwriaeth yr UE a gadwyd yn ymwneud ag archwilio mewnforion.  Mae’n rhaid sefydlu Awdurdod Iechyd Porthladd (AIP) penodedig newydd gyda chyfrifoldeb am orfodi mesurau rheoli iechyd ar ffiniau’r DU erbyn mis Gorffennaf 2022 pan fydd archwiliadau ar gynhyrchion sy’n deillio o anifeiliaid yn cael eu cyflwyno, er mwyn cyflawni dyletswyddau statudol y Cyngor sy’n cynnwys amrywiaeth o wiriadau dogfennol, hunaniaeth a ffisegol.

 

 

Mae Swyddogion Rheoleiddio a Datblygu Economaidd wedi bod mewn cysylltiad â Llywodraeth Cymru ers mis Awst 2020 er mwyn deall y newidiadau disgwyliedig i wiriadau rheoli ffiniau yn well. Er gwaethaf ymdrechion y swyddogion, mae diffyg gwybodaeth ac eglurder wedi effeithio ar allu’r Cyngor i gynllunio a pharatoi’n ystyrlon ar gyfer y newidiadau i drefniadau rheoli ffiniau. Dylid nodi hefyd nad oes gan y Cyngor unrhyw arbenigedd, capasiti na gallu ym maes iechyd porthladd ar hyn o bryd. Er bod gwaith datblygu’r AIP wrthi’n cael ei wneud gyda grant untro gan Lywodraeth Cymru, nid oes unrhyw sicrwydd ynghylch cyllido’r gwaith yn y dyfodol ar wahân i’r posibilrwydd o gynyrchu incwm drwy gynnal gwiriadau dogfennol. Ni fydd unrhyw gymorth ariannol ar gael ar ôl mis Mawrth 2022.

 

Manylodd y Pennaeth Gwasanaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd ar y ddau opsiwn sydd ar gael i’r Cyngor, ym marn y Gwasanaeth, er mwyn cyflawni’r dyletswyddau iechyd porthladd newydd, sef – sefydlu AIP hyd braich newydd ar gyfer Caergybi neu gyflawni’r dyletswyddau’n fewnol yn y Cyngor heb sefydlu AIP newydd – a chyfeiriodd at fanteision ac anfanteision y ddau opsiwn. Cadarnhaodd bod angen gwneud rhagor o waith manwl i adolygu ac asesu addasrwydd, cyflawnadwyedd a fforddiadwyedd yr opsiwn a ffafrir er mwyn sicrhau mai dyma’r ffordd orau ymlaen i’r Cyngor, a bydd y gwaith hwn yn cynnwys adolygu materion megis llywodraethiant corfforaethol, risgiau, rhwymedigaethau, costau a’r angen am gymorth gan wasanaethau eraill y Cyngor. Bydd rhaid paratoi Cynllun Gweithredol ar gyfer yr AIP i sicrhau bod y Cyngor yn cyflawni ei gyfrifoldebau statudol mewn da bryd ac mewn modd sy’n cydymffurfio a bydd angen gwneud trefniadau recriwtio i sicrhau bod swyddogion profiadol a chymwys ar gael i gyflawni’r dyletswyddau newydd.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, mynegodd aelodau’r Pwyllgor Gwaith bryder ynglŷn â goblygiadau dyletswyddau iechyd porthladd newydd y Cyngor o safbwynt costau ychwanegol a’r angen am adnoddau ychwanegol. Tynnodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid, sylw at ddiffyg unrhyw fath o ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cymorth ariannol ychwanegol ar gyfer datblygu, sefydlu a gweithredu’r AIP newydd yn y lle cyntaf, a chan mai’r unig ffynhonnell o gyllid parhaus yw’r posibilrwydd o greu incwm am gynnal gwiriadau dogfennol, gallai cyflawni cyfrifoldebau’r swyddogaeth iechyd porthladd (nad yw’n gyfrifoldeb y mae’n rhaid i bob Cyngor yng Nghymru ei ysgwyddo), arwain at faich ariannol sylweddol ac anheg ar drethdalwyr yr Ynys. Gan gydnabod cydnabyddiaeth y Swyddog o’r angen i ddal i bwyso ar Lywodraeth Cymru mewn perthynas â’r mater hwn, roedd yr Aelod Portffolio o’r farn y dylid atgyfnerthu’r neges mewn llythyr uniongyrchol at Lywodraeth Cymru i bwysleisio eto yr angen am ymrwyniad i ddarparu cymorth ariannol yn y cyswllt hwn.

 

Tynnwyd sylw hefyd at ddiffyg eglurder a chynnydd mewn perthynas â datblygu Safle Rheoli Ffiniau, er gwaethaf cysylltiadau niferus rhwng y Cyngor a Llywodraeth Cymru dros gyfnod o amser i geisio deall y newidiadau i archwiliadau ar y ffin. Roedd aelodau’r Pwyllgor Gwaith yn teimlo bod diffyg gwybodaeth a chyfarwyddiadau gan Lywodraeth Cymru ynghylch y mater hwn, er gwaethaf ymdrechion swyddogion y Cyngor i gael sicrwydd yn y cyswllt hwn, wedi cael effaith sylweddol ar baratoadau’r Cyngor a’i allu i gynllunio’n effeithiol er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau iechyd porthladd o fewn yr amserlen a nodwyd. Pwysleisiwyd yr angen brys i atgyfnerthu cyfathrebiadau gyda Llywodraeth Cymru er mwyn derbyn sicrwydd ac eglurder ynghylch y trefniadau ar gyfer y Safle Rheoli Ffiniau.

 

Penderfynwyd –

 

·         Cydnabod y gofyniad statudol i sefydlu Awdurdod Iechyd Porthladd newydd.

·         Dirprwyo cyfrifoldeb i’r Pennaeth Gwasanaeth Rheoleiddio a Datblygu, mewn ymgynghoriad â’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth a’r Deilydd Portffolio, i bennu a datblygu opsiwn dewisol ar gyfer sefydlu Awdurdod Iechyd Porthladd newydd.

·         Cydnabod y bydd gwaith datblygu pellach yn cael ei gyflawni ar fenter y Cyngor Sir, ac y bydd adnoddau ar gael i’r Pennaeth Gwasanaeth, Rheoleiddio a Datblygu Economaidd (gwerth a chwmpas i’w gytuno â Swyddog 151 y Cyngor).

·         Parhau i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i ariannu cyfrifoldebau newydd ac ychwanegol y Cyngor yn ddigonol a theg, er mwyn datblygu, sefydlu a rhoi Awdurdod Iechyd Porthladd newydd ar waith a gwarantu’r holl gostau ychwanegol i’r Cyngor nad oes modd eu hadennill drwy’r incwm a gynhyrchir gan yr Awdurdod Iechyd Porthladd. Llythyr i’r perwyl hwn i’w anfon at Lywodraeth Cymru fel mater o frys. 

·         Awdurdodi rhyddhau £100,000 o falansau cyffredinol y Cyngor i gwblhau'r uchod (bydd y Cyngor yn ceisio'i adennill oddi wrth Lywodraeth Cymru). Bydd angen penderfyniad gan y Pwyllgor Gwaith neu’r Cyngor llawn ar gyfer unrhyw gyllid ychwanegol sy’n uwch na’r swm yma yn unol â’r terfynau sydd wedi’u nodi yng Nghyfansoddiad y Cyngor.

 

Dogfennau ategol: