Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Codi

Cofnodion:

7.1 FPL/2021/106 – Cais llawn ar gyfer cadw cwt pren i ddal peiriant gwerthu llefrith (Dosbarth Defnydd A1) ynghyd â llain galed a llecyn parcio, addasu'r fynedfa bresennol i gerbydau a thirlunio cysylltiedig ar dir yn Neuadd, Cemaes.

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Hydref 2021, penderfynodd y Pwyllgor ymweld â safle’r cais a chynhaliwyd ymweliad safle rhithwir ar 20 Hydref 2020. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Tachwedd 2021, penderfynodd y Pwyllgor ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog oherwydd ei fod, fel menter wledig, yn cyfrannu at ffyniant economaidd a chynaliadwyedd y gymuned; oherwydd yr ystyrir na fydd y datblygiad yn cael effaith andwyol sylweddol ar yr AHNE ac ar yr amod bod unrhyw ganiatâd a roddir yn cyfyngu’r defnydd o’r cwt i’r ymgeisydd yn unig.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio bod yr adroddiad, yn unol â gofynion y Cyfansoddiad, yn rhoi sylw i’r rhesymau a gyflwynwyd gan y Pwyllgor yn y cyfarfod blaenorol dros ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog, a’i fod yn cadarnhau argymhelliad y Swyddog i wrthod y cais oherwydd yr ystyrir bod y bwriad yn groes i bolisi gan nad yw’n elfen israddol o fusnes sydd eisoes yn bodoli ar y safle; byddai’n arwain at ddatblygu uned fanwerthu ar ei phen ei hun yng nghefn gwlad nad yw’n dderbyniol ac nad oes cyfiawnhad iddi, ac o’r herwydd, ni fyddai’n gwarchod nac yn gwella rhinweddau a nodweddion arbennig yr AHNE dynodedig.

 

Ailadroddodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Aelod Lleol, ei gefnogaeth i’r bwriad, gan ei fod yn ddatblygiad cymharol fach sy’n darparu gwasanaeth lleol a werthfawrogir ac, oherwydd nad yw ei faint yn sylweddol, ni fyddai yn ei farn ef yn cael unrhyw effaith niweidiol ar yr ardal o’i amgylch nac ar unrhyw amwynderau. Gofynnodd i’r Pwyllgor lynu at ei benderfyniad blaenorol i gymeradwyo’r cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd Eric Jones bod nifer o gytiau pren wedi eu codi ar hyd a lled yr Ynys yn ystod y pandemig a’u bod yn cael eu defnyddio fel ystafell ardd, tŷ bach twt a den dynion ac nid oedd yn credu bod unrhyw wahaniaeth rhwng y bwriad a’r strwythurau hynny. Dywedodd bod y ddeiseb a llythyrau o gefnogaeth gan drigolion lleol yn dyst i gryfder y teimladau o blaid y bwriad yn y gymuned.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes bod y Pwyllgor yn ail-gadarnhau ei benderfyniad i ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric Jones.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio, os oedd y Pwyllgor â’i fryd ar gadarnhau’r caniatâd a roddwyd i’r cais, yna byddai angen ystyried yr amodau i’w gosod ar y caniatâd. Wrth egluro ymhellach, dywedodd y Swyddog y byddai’r amodau yn rheoli’r datblygiad yn y ffordd arferol yn ogystal â chael eu teilwra i adlewyrchu rhesymau’r Pwyllgor dros ganiatáu’r cais, sef cyfyngu’r defnydd o’r cwt i’r ymgeisydd yn unig; ystod y nwyddau i’w gwerthu ar y safle er mwyn sicrhau cysylltiad â’r prosiect arallgyfeirio a Fferm Nant y Frân, yn ogystal ag amodau i liniaru effaith gweledol y datblygiad trwy gyfrwng tirlunio, goleuadau allanol, a gorffeniad y strwythur. Dywedodd y Swyddog, os oedd yr Aelodau’n fodlon gosod amodau o’r fath, yna byddai’n gofyn i’r Pwyllgor ddirprwyo awdurdod i Swyddogion osod yr amodau hynny ar y caniatâd, a hynny mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd.

 

Ar ôl ystyried y mater a derbyn cadarnhad pellach ynghylch pwrpas yr amodau, dywedodd y Cynghorydd Kenneth Hughes, fel y cynigiwr, ei fod yn fodlon dilyn arweiniad y Swyddog ynghylch yr amodau cynllunio; wrth gadarnhau ei fod yntau’n fodlon, dywedodd y Cynghorydd Eric Jones serch hynny ei bod yn bwysig sicrhau fod yr amodau’n deg ac nad ydynt yn gwneud unrhyw beth i lesteirio llwyddiant y fenter.

 

Penderfynwyd ailgadarnhau’r caniatâd blaenorol a roddwyd i’r cais gan y Pwyllgor yn groes i argymhelliad y Swyddog ac i ddirprwyo awdurdod i Swyddogion osod amodau, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd, yn unol â’r cyngor a roddwyd.

 

Dogfennau ategol: