Eitem Rhaglen

Cynigion Datblygu a gyflwynwyd gan Gynghorwyr a Swyddogion

11.1 – LUE/2021/19 – Bodlawen, Llanidan, Brynsiencyn

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000O2tOFUAZ/lue202119?language=cy

 

11.2 – FPL/2021/136 – Wylfa, Ffordd Bangor, Benllech

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OKf7JUAT/fpl2021136?language=cy

 

11.3 – FPL/2021/248 – Parciau, Llanddaniel

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000O3aEMUAZ/fpl2021248?language=cy

 

11.4 – MAH/2021/19 – Parciau, Llanddaniel

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000O3aOIUAZ/mah202119?language=cy

Cofnodion:

11.1 LUE/2021/19 – Cais am Dystysgrif Datblygu Cyfreithlon ar gyfer defnydd presennol yr annedd a gymeradwywyd o dan 37C53A/DA yn groes i’w ganiatâd cynllunio a’i amodau cyn cychwyn ac amodau eraill yn Bodlawen, Llanidan, Brynsiencyn

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion am fod yr ymgeiswyr yn perthyn i Aelod Lleol.

Ar ôl datgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu mewn perthynas â’r cais, gadawodd y Cynghorydd Dafydd Roberts y cyfarfod ac nid oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth na’r bleidlais ar y cais.

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais yn cael ei gyflwyno o dan adran 191(1) Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y’i diwygiwyd) ar gyfer Tystystgrif Cyfreithlondeb Defnydd neu Ddatblygiad sy’n Bodoli. Mae’r cais yn ceisio sefydlu cyfreithlondeb annedd sydd yn groes i’r caniatad cynllunio a roddwyd a nifer o’r amodau a osodwyd ar y caniatâd materion a gadwyd yn ôl. Y prif fater yw a ydi’r dystiolaeth a gyflwynwyd fel rhan o’r cais, yn ôl pwysau tebygolrwydd, yn ddigonol ai peidio, a bod baich y prawf wedi’i gyflawni. Gyda cheisiadau o’r fath, nid yw polisïau cynllunio’n berthnasol i ganlyniad y cais ac felly dylid penderfynu ar y cais yn unol â’r dystiolaeth a gyflwynwyd. Rhoddwyd caniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer codi annedd yn 1989 ac yn dilyn hynny rhoddwyd caniatâd gydag amodau i’r materion a gadwyd yn ôl yn 1990. Wedi asesu’r hanes cynllunio, nid ymddengys y cyflwynwyd gwybodaeth i’r Awdurdod Cynllunio Lleol mewn ymgais i ryddhau’r amodau. Ystyrir hefyd na chafodd y datblygiad ei adeiladu yn unol â gofynion yr amodau. Honnir na chafodd y datblyigad ei adeiladu yn unol â’r caniatâd a roddwyd a bod amodau 1, 2, 3, 7 ac 8 wedi cael eu torri am dros 10 mlynedd yn ddi-dor ac, o’r herwydd, bod gan yr ymgeiswyr hawl i dystysgrif gan nad oes modd gorfodi’r amodau mwyach. Mae’r dystiolaeth a gyflwynwyd yn honni bod gwaith wedi cychwyn ym mis Tachwedd 1990 a bod yr eiddo wedi’i feddiannu gyntaf ym mis Hydref 2000. Mae adran Gyfreithiol yr Awdurdod, ar ôl ymgynghori â nhw ynghylch y cais, wedi dod i’r casgliad bod yr amodau, yn ôl pwysau tebygolrwydd, wedi cael eu torri am dros 20 mlynedd. Mae Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn gosod terfynau amser ar gyfer cymryd camau gorfodaeth ac mae’n golygu nad oes modd cymryd camau gorfodaeth ar ddiwedd cyfnod o 4 blynedd o’r dyddiad pan gwblhawyd y gwaith ac mewn perthynas ag unrhyw achos arall o dorri rheolaeth cynllunio (ac eithrio datblygiad gweithredol neu newid defnydd adeilad i annedd sengl), y terfyn amser yw diwedd cyfnod o 10 mlynedd o ddyddiad torri unrhyw reol cynllunio. Felly i gloi, ymddengys yn ôl pwysau tebygolrwydd na chafodd y datblygiad ei gyflawni yn unol â’r caniatâd a rhai amodau. Gan fod y datblyigad wedi’i gwblhau tua 20 mlynedd yn ôl, mae’n golygu na ellir cymryd unrhyw gamau gorfodaeth mewn perthynas â’r amodau yn awr a bod gan yr ymgeiswyr hawl i dderbyn tystysgrif yn cadarnhau cyfreithlondeb y datblygiad. Felly, yr argymhelliad yw caniatáu’r cais.

Cynigiodd y Cynghorydd Eric Jones bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Nicola Roberts.

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais am Dystysgrif Datblygu Cyfreithlon ar gyfer Defnydd a Datblygiad sy’n Bodoli yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog.

11.2 FPL/2021/136 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd yr adeilad allan yn lety gwyliau ynghyd â’i addasu a’i ehangu yn Wylfa, Ffordd Bangor, Benllech

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i “swyddog perthnasol” fel y’i diffinnir ym mharagraff 4.6.10 Cyfansoddiad y Cyngor. Mae Swyddog Monitro’r Cyngor wedi craffu ar y cais yn unol â’r gofynion o dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.

Ar ôl datgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu mewn perthynas â’r cais, gadawodd Mr Dewi F. Jones, Prif Swyddog Cynllunio, y cyfarfod ac nid oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth na’r bleidlais ar y cais.

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor bod y Cynghorydd Margaret M Roberts, Aelod Lleol, wedi cysylltu â hi i ofyn i’r Pwyllgor gynnal ymweliad safle, gan fod cefnogaeth i’r cais yn lleol, er mwyn caniatáu i aelodau weld safle’r cais yn ei gyd-destun drostynt eu hunain.

Cynigiodd y Cynghorydd Richard Owain Jones y dylid cynnal ymweliad safle rhithwir ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.

Penderfynwyd cynnal ymweliad safle rhithwir yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rheswm a roddwyd.

11.3 FPL/2021/248 – Cais llawn ar gyfer gosod tanc septig ynghyd â ffos gerrig ar dir ger Parciau, Llanddaniel

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod dau o’r tri ymgeisydd yn arfer cael eu cyflogi gan yr Awdurdod, ond pan gyflwynwyd y cais roedd un yn cael ei gyflogi a’r llall wedi gadael cyflogaeth yr Awdurdod yn ddiweddar. Oherwydd yr amgylchiadau hyn, ystyriwyd y byddai’n ddoeth cyflwyno’r cais i’r Pwyllgor benderfynu arno. Mae’r Swyddog Monitro wedi craffu ar y cais yn unol â’r gofynion o dan baragraff 4.6.10.4 Cyfansoddiad y Cyngor.

Adroddodd y Rheolwr Cynllunio – Amgylchedd Adeiledig a Naturiol bod y cynnig yn golygu gosod tanc septig a ffos gerrig ynghyd â phibellau cysylltiedig ar dir i’r gogledd orllewin o Parciau. Y brif ystyriaeth yw a oes modd cwblhau’r gwaith ar safle’r cais heb gael effaith andwyol ar fwynderau lleol a’r amgylchedd yn ehangach. Mewn perthynas ag effaith weledol, er y gallai’r gwaith achosi mân effeithiau gweledol, oherwydd y lleoliad a’r sgrin naturiol bresennol nid yw’n debygol y bydd yn cael effaith ar breswylwyr gerllaw a pha un bynnag, ni fyddai ond yn cael effaith tymor byr. Ni fydd unrhyw effeithiau gweledol parhaol yn codi oherwydd y datblygiad arfaethedig. Ni chodwyd unrhyw wrthwynebiad i’r cynnig yn lleol na chan yr ymgyngoreion statudol ac ni ragwelir unrhyw effaith ar fwynderau lleol. Ystyrir bod y cynnig hwn yn dderbyniol yn nhermau polisi ac felly’r argymhelliad yw caniatáu’r cais.

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Richard Owain Jones.

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog a gyda’r amodau a gynhwysir ynddo.

11.4 MAH/2021/9 – Mân addasiadau i gynllun a ganiatawyd yn flaenorol o dan ganiatâd cynllunio FPL/2020/73 er mwyn addasu ffenestri’r anecs a gosod paneli solar yn Parciau, Llanddaniel

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd bod dau o’r tri ymgeisydd yn arfer cael eu cyflogi gan yr Awdurdod, ond pan gyflwynwyd y cais roedd un yn cael ei gyflogi a’r llall wedi gadael cyflogaeth yr Awdurdod yn ddiweddar. Oherwydd yr amgylchiadau hyn, ystyriwyd y byddai’n ddoeth cyflwyno’r cais i’r Pwyllgor benderfynu arno. Mae’r Swyddog Monitro wedi craffu ar y cais yn unol â’r gofynion o dan baragraff 4.6.10.4 Cyfansoddiad y Cyngor.

Adroddodd y Rheolwr Cynllunio – Amgylchedd Adeiledig a Naturiol bod y cynnig ar gyfer addasu ffenestri’r estyniad a gymeradwywyd yn flaenorol yn ogystal â gosod paneli solau ar do’r estyniad. Y prif ystyriaeth yw a ellir cyflawni’r gwaith ar safle’r cais heb gael effaith andwyol ar fwynderau lleol a’r amgylchedd yn ehangach. Mae’r newid arfaethedig i’r ffenestri yn cynnwys gosod ffenestr fwy a balconi ffug yn lle un o’r ffenestri ar y llawr cyntaf, ar ran de-ddwyreiniol drychiad blaen yr estyniad, ynghyd â chael gwared â ffenestr ar y llawr cyntaf ar ran yr estyniad sy’n wynebu’r de-orllewin. Gosodir y paneli solar ar arwynebau to yr estyniad sy’n wynebu ac yn estyn allan at y briffordd gyhoeddus a ni fyddant ond 35mm uwchlaw arwyneb y to. Ystyrir na fydd yr addasiadau i’r cynllun a ganiatawyd yn flaenorol yn cael fawr ddim o effaith yn nhermau dylunio ac effaith weledol o ran eu heffaith bosib ar fwynderau eiddo cyfagos. Mae’r annedd agosaf dros 150m o safle’r cais ac mae’n cael ei guddio gan goed aeddfed a gwrychoedd. Felly, argymhellir caniatáu’r cais. 

Cynigiodd y Cynghorydd Eric Jones bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Dafydd Roberts.

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog a gyda’r amodau a gynhwysir ynddo.

 

Dogfennau ategol: