Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1 – LBC/2021/29 – Gerddi Haulfre, Llangoed

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000O3pDqUAJ/lbc202129?language=cy

 

12.2 – FPL/2021/196 – Fron Heulog, Cemaes

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OLKTOUA5/fpl2021196?language=cy

 

12.3 – FPL/2021/178 – Cyn Safle Heliport, Stad Ddiwydiannol Penrhos, Caergybi

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OL7YqUAL/fpl2021178?language=cy

Cofnodion:

12.1 LBC/2021/29 – Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer ailwampio’r toiledau dynion a merched yn Uned Gerddi Haulfre, Haulfre, Llangoed 

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn ymwneud â thir ym mherchnogaeth y Cyngor.

 

Adroddodd y Rheolwr Cynllunio – Amgylchedd Adeiledig a Naturiol bod y cynnig ar gyfer caniatâd adeilad rhestredig i wneud gwaith addasu mewnol er mwyn adnewyddu’r toiledau dynion a merched yn Uned Gerddi Haulfre. Mae’r cynigion a ddisgrifir yn yr adroddiad wedi cael eu hystyried yn ofalus ac ni fyddant yn niweidio cymeriad yr adeilad rhestredig a byddai’n bosib eu dadwneud yn rhwydd heb ddifrodi’r strwythur hanesyddol pe byddai amgylchiadau’n newid yn y dyfodol. Felly, yr argymhelliad yw cymeradwyo’r cais, gydag amodau, ac yn amodol hefyd ar newid geiriad amod (02) i adlewyrchu’r ffaith fod y cais ar gyfer caniatâd adeilad rhestredig yn hytrach na chaniatâd cynllunio.

 

Dywedodd y Cynghorydd Alun Roberts, a oedd yn siarad fel Aelod Lleol, ei fod yn croesawu’r cynnig a’i fod ef a’r gymuned leol yn gobeithio y byddai’r addasiadau arfaethedig yn golygu bod mwy o ddefnydd a gwell defnydd yn cael ei wneud o Erddi Haulfre fel adnodd arwyddocaol a hanesyddol werthfawr.

 

Cynigiodd y Cynghorydd John Griffith fod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, MBE.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog, gyda’r amodau a gynhwysir ynddo, ac i newid geiriad amod (02) fel yr amlinellwyd.

12.2      FPL/2021/196 – Cais llawn i godi strwythur newydd i ddarparu to dros y storfa dail bresennol yn Fron Heulog, Cemaes

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod safle’r cais yn dir ym mherchnogaeth y Cyngor.

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod y cynnig ar gyfer gwella’r system reoli slyri bresennol ar y fferm i gydymffurfio â gofynion Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021. Nid yw’r strwythur ar gyfer cynyddu niferoedd stoc. Ar ôl ystyried y cynnig yn erbyn polisïau perthnasol y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd a amlinellir yn yr adroddiad, cadarnhaodd bod y swyddog o’r farn fod y cynnig yn dderbyniol o ran ei osodiad a’i ddyluniad ac nid ystyrir ei fod ar raddfa a fyddai’n cael effaith niweidiol sylweddol ar gymeriad ac edrychiad yr ardal neu ar fwynderau meddianwyr preswyl gerllaw. Felly, yr argymhelliad yw caniatáu.

Cynigiodd y Cynghorydd Kenneth Hughes bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric Jones.

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog a gyda’r amodau a gynhwysir ynddo.

12.3     FPL/2021/178 – Cais llawn ar gyfer codi 7 uned fusnes ynghyd â thirlunio a datblygiadau cysylltiedig yn Hen Safle Hofrenfa, Stad Ddiwydiannol Penrhos, Penrhos, Caergybi

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd ei fod yn cael ei gyflwyno ar ran yr Awdurdod.

 

Amlinellodd y Rheolwr Rheoli Datblygu y prif ystyriaethau cynllunio mewn perthynas â’r cais yn ymwneud ag egwyddor y datblygiad; effaith y datblygiad arfaethedig ar gymeriad ac edrychiad yr ardal a’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol; ei effaith ar fwynderau eiddo cyfagos a diogelwch y briffordd. Ar ôl asesu’r cynnig, barn y Swyddog yw bod egwyddor y datblygiad yn cyd-fynd â pholisi cynllunio cenedlaethol a’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Ystyrir bod y bwriad yn dderbyniol yn nhermau technegol ac ni fydd unrhyw niwed yn cael ei achosi i fwynderau’r ardal leol nac i’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gerllaw. Felly, yr argymhelliad yw cymeradwyo’r cais.

Wrth siarad fel Aelod Lleol, croesawodd y Cynghorydd Glyn Haynes y cynnig fel un a allai ddod a swyddi ychwanegol i’r ardal a’i fod yn cyd-fynd â’r unedau o’i amgylch sydd i gyd o ansawdd uchel. Cynigiodd bod y cais yn cael ei gymeradwyo yn unol ag argymhelliad y Swyddog ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, MBE.

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad ac adroddiad y Swyddog a gyda’r amodau a gynhwysir ynddo.

 

Dogfennau ategol: