Eitem Rhaglen

Materion Eraill

Cofnodion:

13.1 DEM/2021/13 – Cais i benderfynu a oes angen caniatâd ymlaen llaw i ddymchwel modurdai yn Thomas Close, Beaumaris

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmyngion gan ei fod yn ymwneud â thir ym mherchnogaeth y Cyngor.

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu bod y cais ar gyfer dymchwel rhes o 23 o fodurdai domestig i gerbydau sydd wedi dechrau dadfeilio ar stad breswyl Thomas Close ym Miwmares. Nid oes defnydd iddynt bellach ac oherwydd y dull adeiladu, nid ydynt yn addas i’w hailddatblygu. Bwriedir gadael y safle fel llecyn agored ar ôl dymchwel y modurdai. O dan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995, nid oes angen caniatâd cynllunio i ddymchwel adeiladau ar yr amod bod y datblygwr yn cyflwyno cais i’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn gyntaf i benderfynu a oes angen caniatâd ymlaen llaw mewn perthynas â’r dull dymchwel ac unrhyw waith adfer arfaethedig ar y safle. O dan y broses hon, rhoddwyd 28 diwrnod i’r Awdurdod Cynllunio Lleol ddod i benderfyniad ac yn ystod y cyfnod hwnnw cadarnhawyd na fydd angen caniatâd ymlaen llaw. Mae’r dull dymchwel arfaethedig wedi’i nodi yn y ffurflen gais ac mae’n cael ei amlinellu yn yr adroddiad; rhagwelir y bydd hyn a gwaith adfer ar y safle wedi hynny’n cael eu hystyried yn dderbyniol. I gloi, mae’r Cyngor wedi ystyried y cais a phenderfynwyd nad oes angen caniatâd ymlaen llaw gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol gan fod y gwaith yn cael ei ystyried fel datblygu a ganiateir o dan Ran 31 o Atodlen 2 Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995.

Cynigiodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes, MBE y dylid cymeradwyo’r cais ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Dafydd Roberts.

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais fel datblygu a ganiateir yn unol ag adroddiad y Swyddog a’r manylion a gyflwynir ynddo.

13.2 DEM/2021/4 – Caniatâd ymlaen llaw ar gyfer y bwriad i ddymchwel dau fodurdy yn Hampton Way, Llanfaes

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan ei fod yn ymwneud â thir ym mherchnogaeth y Cyngor.

Adroddodd y Rheolwr Rheoli Datblygu fod y cais ar gyfer dymchwel rhes o ddau fodurdy domestig i gerbydau sydd wedi dechrau dadfeilio ar stad breswyl Hampton Way yn Llanfaes. Nid oes defnydd i’r modurdai mwyach ac oherwydd y dull adeiladu, nid ydynt yn addas i’w hailddatblygu. Bwriedir gadael y safle fel llecyn agored ar ôl dymchwel y modurdai. Yn yr un modd â’r cais blaenorol, o dan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995, nid oes angen caniatâd cynllunio i ddymchwel adeiladau os yw’r datblygwr yn cyflwyno cais yn gyntaf i’r Awdurdod Cynllunio Lleol er mwyn penderfynu a oes angen caniatâd ymlaen llaw mewn perthynas â’r dull dymchwel ac unrhyw waith i adfer y safle. O dan y broses hon, rhoddwyd 28 diwrnod i’r Awdurdod Cynllunio Lleol ddod i benderfyniad a chadarnhawyd yn ystod y cyfnod hwnnw na fydd angen caniatâd ymlaen llaw. Mae’r dull dymchwel arfaethedig wedi’i nodi yn y ffurflen gais ac mae’n cael ei amlinellu yn yr adroddiad; rhagwelir y bydd hyn, a gwaith adfer ar y safle wedi hynny, yn cael eu hystyried yn dderbyniol. I gloi, mae’r Cyngor wedi ystyried y cais ac mae wedi penderfynu nad oes angen caniatâd ymlaen llaw gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol gan ei fod yn cael ei ystyried yn ddatblygu a ganiateir o dan Ran 31 o Atodlen 2 Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995.

Cynigiodd y Cynghorydd Eric Jones bod y cais yn cael ei gymeradwyo ac eiliwyd y cais gan y Cynghorydd Kenneth Hughes.

Penderfynwyd cymeradwyo’r cais fel datblygu a ganiateir yn unol ag adroddiad y Swyddog a’r manylion a gyflwynir ynddo.

 

 

Dogfennau ategol: