Eitem Rhaglen

Sefydlu Cyd-bwyllgor Corfforedig Ardal Gogledd Cymru (CJC)

Cyflwyno Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Llinos Medi, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a oedd yn ceisio cytundeb y Pwyllgor Gwaith, mewn egwyddor, i drosglwyddo swyddogaethau Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i Gyd-bwyllgor Corfforedig (CBC) newydd Gogledd Cymru gyda’r nod o gyflawni model llywodraethiant symlach ac osgoi dyblygu.

 

Gwnaed rheoliadau gan Lywodraeth Cymru ar 17 Mawrth 2021 yn creu pedwar Cyd-bwyllgor Corfforedig yng Nghymru a sefydlwyd Cyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru ar 1 Ebrill 2021. Bydd y pedwar CBC yn cyflawni swyddogaethau sy’n ymwneud â datblygu strategol, cynllunio a chynllunio trafnidiaeth ranbarthol. Byddant hefyd yn gallu gwneud pethau i hyrwyddo llesiant economaidd. Yn wahanol i drefniadau cyd-bwyllgor eraill, mae’r CBC yn gorff corfforaethol ar wahân sy’n gallu cyflogi staff a dal asedau. Mae consensws ymysg awdurdodau lleol Gogledd Cymru y dylai’r CBC barhau i’r cyfeiriad a sefydlwyd gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. Ymhellach, mae Arweinyddion a Phrif Weithredwyr y chwe Chyngor yn cytuno y dylai CBC Gogledd Cymru gael ei adeiladu ar y nodau a’r egwyddorion a nodir ym mharagraff 8 yr adroddiad. Mae cytundeb traws-ffiniol hefyd y dylid anelu i ddechrau at sefydlu model llywodraethu symlach, gan osgoi dyblygu tra’n rhoi sylw dyledus i sybsidiaredd. Felly, y flaenoriaeth gyntaf yw symud y Bwrdd Uchelgais Economaidd i is-bwyllgor sydd wedi’i rymuso o’r CBC, gan nodi mai Arweinyddion awdurdodau lleol y rhanbarth fydd yn rheoli’r corff corfforedig hwn. 

 

Mae Pinsent Masons, sydd yn cynghori nifer o ranbarthau Cymru, wedi ystyried y strwythurau gweithredol sydd ar gael i’r Bwrdd Uchelgais wrth symud ymlaen, yng ngoleuni sefydlu’r CBC, cyfeiriad polisi Llywodraeth Cymru a’r egwyddorion rhanbarthol cytunedig a nodwyd o dan baragraff 8 yr adroddiad. Byddai gwneud dim neu ‘cyd-fodoli’ yn annigonol, yn groes i bolisi Llywodraeth Cymru, ac nid yw’n mynd i’r afael â sut y bydd swyddogaethau’r Bwrdd Uchelgais yn cael eu cyflawni gan y CBC. Y strwythur gweithredol mwyaf effeithlon a hyfyw, sy’n bodloni’r gofyn i drosglwyddo i Gydbwyllgor Corfforedig, yw trosglwyddo swyddogaethau’r Bwrdd Uchelgais Economaidd i is-bwyllgor sydd wedi’i rymuso o’r CBC. O ganlyniad, bydd trosglwyddo’r swyddogaethau i is-bwyllgor yn cadw elfennau craidd y Bwrdd Uchelgais, ond bydd yn darparu model cyflenwi mwy cadarn ac effeithlon yn uniongyrchol drwy gerbyd corfforedig y CBC. Mae Pinsent Masons wedi cynghori swyddogion yn fanwl ar y manteision a rhai materion allweddol, cyn dod i’r casgliad mai trosglwyddo swyddogaethau’r Bwrdd Uchelgais i is-bwyllgor fyddai’n darparu’r strwythur gorau ar gyfer y CBC. Mae’r adroddiad yn nodi manteision y trosglwyddiad arfaethedig ac mae’n rhoi sylw i ystyriaethau o ran gwneud penderfyniadau, gwerth a ychwanegir o fabwysiadu’r dull hwn, trosglwyddo trefniadau’r Fargen Dwf a llywodraethiant a chyllid. Ni fyddai cymeradwyo’r penderfyniad a geisir gan yr adroddiad ynghylch y model llywodraethiant yn creu unrhyw oblygiadau ariannol i’r Cyngor. Fodd bynnag, bydd costau anorfod parhaus nad ydynt wedi’u hadnabod yn llawn eto i’r awdurdodau lleol er mwyn gweinyddu a chyflawni swyddogaethau’r CBC. Y cyfeiriad a osodir gan yr adroddiad hwn yw gwneud i’r CBC weithio’n effeithiol tra’n lleihau’r baich ariannol yr y Cyngor.

 

Tynnodd aelodau’r Pwyllgor Gwaith sylw at y ffaith mai ychydig iawn o gyhoeddusrwydd a roddwyd i ffurfio’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig a’i bod felly’n bwysig bod y cyhoedd yn ymwybodol mai creadigaeth Llywodraeth Cymru yw’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig a’u bod wedi cael eu gorfodi gan Lywodraeth Cymru yn unol â model ragnodedig a’u bod trwy hynny, ym marn y Pwyllgor Gwaith, yn creu haen ddiangen a nas dymunir o fiwrocratiaeth. Gan eu bod yn gyrff anetholedig maent yn mynd yn groes i’r graen o safbwynt democratiaeth leol a dewis lleol. Er i’r Pwyllgor Gwaith bwysleisio bod y Cyngor yn ymrwymedig i weithio ar lefel ranbarthol lle mae manteision gwneud hynny’n glir, a’i fod eisoes yn gweithredu yn y modd hwnnw trwy GwE er enghraifft, roeddent o’r farn nad yw’r angen am y Cyd-Bwyllgorau Corfforedig wedi’i brofi ac y bydd y gost o weinyddu a gwasanaethu’r cyrff ar wahân hyn yn creu baich ychwanegol ar gynghorau yn nhermau arian, adnoddau ac amser ac nad oes ganddynt ddewis yn y mater. Oherwydd hynny, a chan bod y Cyd-Bwyllgorau Corfforedig wedi cael eu sefydlu trwy fandad gan Lywodraeth Cymru, roedd y Pwyllgor Gwaith o’r farn ei bod yn rhesymol gofyn i Lywodraeth Cymru eu hariannu’n llawn.

 

Penderfynwyd –

 

·         Cytuno mewn egwyddor i drosglwyddo swyddogaethau Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru trwy gytundeb dirprwyo i Gyd-Bwyllgor Corfforaethol Gogledd Cymru yn amodol ar –

·                bod y fframwaith statudol mae Llywodraeth Cymru yn ei ddatblygu yn caniatáu dirprwyo'r swyddogaethau gweithredol perthnasol i Gyd-Bwyllgor Corfforaethol,

·                bod Cyd-Bwyllgor Corfforaethol Gogledd Cymru yn cytuno i sefydlu Is-Bwyllgor, ag aelodaeth i'w gytuno gyda'r Cynghorau, i gyflawni swyddogaethau'r Bwrdd Uchelgais Economaidd.

·     Gofyn mewn llythyr i Lywodraeth Cymru fel yr un sydd wedi creu a sefydlu’r Cyd-Bwyllgorau Corfforedig, iddo dalu am yr endidau hynny yn llawn.

 

 

Dogfennau ategol: