Eitem Rhaglen

Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion Ynys Môn

Cyflwyno adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Llinos Medi, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol, adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr yn ymgorffori’r Strategaeth Ddigidol gyntaf ar gyfer Ysgolion Ynys Môn sy’n nodi gweledigaeth yr Awdurdod yn seiliedig ar egwyddorion cyffredinol a meysydd blaenoriaeth allweddol ar gyfer darparu gwasanaethau TGCh i ysgolion.

 

Gan eu bod wedi datgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu yn y mater hwn ac yn eitemau 7 ac 8 isod, nid oedd y Cynghorwyr R. Meirion Jones ac Ieuan Williams yn bresennol ar gyfer yr eitem nac am weddill y cyfarfod.

 

Gyda chyflwyniad y Cwricwlwm i Gymru, bydd cymhwysedd digidol, ynghyd â llythrennedd a rhifedd, yn dod yn sgil trawsgwricwlaidd gorfodol y bydd rhaid ei wreiddio mewn unrhyw gwricwlwm a fabwysiedir. Mae cymhwysedd digidol yn canolbwyntio ar sicrhau bod gan ddysgwyr y gallu i ddysgu, deall a defnyddio technoleg yn hyderus, yn greadigol ac yn feirniadol. Wrth i’r bygythiadau seibr i sefydliadau addysgol barhau i esblygu, mae’n hanfodol ein bod yn gweithio ar y cyd i sicrhau bod y data critigol hwn yn cael ei ddiogelu. O ganlyniad, mae angen gwreiddio technoleg ddigidol yn ddiogel yn holl feysydd y cwricwlwm.

 

Nod cyffredinol y strategaeth yw cynorthwyo ysgolion sydd wedi’u galluogi’n ddigidol i sicrhau bod dysgwyr yn ffynnu ac yn gwireddu eu potensial tymor hir. Mae’r strategaeth hefyd yn nodi rôl yr awdurdod lleol wrth gyflawni’r weledigaeth ac mae wedi’i bwriadu ar gyfer yr holl ddysgwyr yn ein hysgolion, athrawon, llywodraethwyr, staff ategol, rhieni a phawb sy’n rhan o gymuned ysgol gyfan Ynys Môn. Fel rhan o’r broses o ddatblygu’r strategaeth, ymgysylltwyd ag aelodau’r Fforwm TGCh (sy’n cynrychioli penaethiaid ysgolion cynradd), penaethiaid ysgolion uwchradd yr Ynys a phennaeth Canolfan Addysg y Bont a darparwyd crynodeb o’r ymatebion. Sefydlir trefniadau llywodraethiant cadarn i sicrhau bod y strategaeth yn cael ei gwireddu a bydd cynnydd yn cael ei adolygu bob chwarter trwy gyfrwng adroddiad cryno ar gamau gweithredu, canlyniadau, effaith, llwyddiannau a phroblemau. Bydd adroddiad cynnydd blynyddol ac adolygiad o’r strategaeth yn cael eu cwblhau hefyd.

 

Cyfeiriodd y Dirprwy Brif Weithredwr at bwysigrwydd y byd digidol a dywedodd bod technoleg yn dod yn fwyfwy amlwg bob wythnos a bod hynny’n berthnasol i Ynys Môn gymaint ag unrhyw le arall. Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf, ac yn enwedig cyfnod y pandemig, wedi dangos sut mae’r Awdurdod, ei weithwyr a’u alluoedd wedi addasu i ddelio â’r argyfwng trwy wneud y defnydd mwyaf posib o dechnoleg i sicrhau fod bywyd yn mynd yn ei flaen, ac yn arbennig felly mewn addysg. Erbyn hyn, mae cymhwysedd digidol yn sgil hanfodol a po fwyaf yw cyrhaeddiadau digidol disgyblion pan fyddant yn gadael yr ysgol yna’r mwyaf yw’r siawns y byddant yn diwallu anghenion y dyfodol wrth iddynt esblygu a newid. Lluniwyd y strategaeth i ddarparu cyfeiriad i bawb yn yr ysgolion a’r gymuned ddysgu a bydd yn cael ei chyflawni mewn partneriaeth â’r holl brif gyfranogwyr yn y system addysg. Er bod cyflawni’r strategaeth yn llwyddiannus yn bwysig i holl bartneriaid addysg yr Awdurdod, mae’n arbennig o bwysig i bobl ifanc o ran caniatáu iddynt wneud cynnydd mewn addysg a/neu yn y byd gwaith a hefyd fel dinasyddion, fel eu bod yn cyfrannu’n effeithiol i gymdeithas a’u cymunedau. Mae’r Cylch Strategol ar dudalen 5 y strategaeth yn crynhoi gweledigaeth yr Awdurdod a’r prif elfennau o safbwynt rhoi’r strategaeth ar waith. O ystyried cyflymder y newid yn y byd go iawn, mae’r strategaeth yn canolbwyntio ar y presennol yn hytrach na’r tymor hir a bydd angen ei haddasu yn unol â hynny. Rhaid llongyfarch staff Gwasanaethau TG a Dysgu y Cyngor am greu strategaeth eglur, gryno a hawdd ei deall sy’n deillio o ystyriaeth ofalus ac a luniwyd ochr yn ochr â chyflawni cyfrifoldebau dydd i ddydd.

 

Croesawodd aelodau’r Pwyllgor Gwaith y Strategaeth Ddigidol ar gyfer ysgolion fel un sy’n darparu buddsoddiad gwerthfawr mewn technoleg ddigidol mewn ysgolion a thrwy hynny osod sylfeini cadarn ar gyfer addysg yn y dyfodol. Cyfeiriwyd at gyflymder datblygiadau yn ystod y 18 mis diwethaf a pha mor barod oedd y Cyngor i addasu i ddulliau newydd o weithio’n ddigidol; pwysleisiwyd pwysigrwydd cynnal y momentwm hwn.

 

Penderfynwyd –

 

·         Cymeradwyo’r Strategaeth Ddigidol ddrafft.

·         Cymeradwyo’r cyllid ychwanegol o £135,439 sydd ei angen i roi’r strategaeth ar waith.

 

Dogfennau ategol: