Eitem Rhaglen

Cyllideb Gyfalaf 2022/23 – Cynnig Cychwynnol

Cyfwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, yr Aelod Portffolio Cyllid, adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn amlinellu’r cynnig drafft ar gyfer Cyllideb Gyfalaf 2022/23.

 

Mae’r Gyllideb Gyfalaf ddrafft ar gyfer 2022/23 yn ystyried yr egwyddorion a nodir yn y Strategaeth Gyfalaf a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Gwaith a’r Cyngor Llawn ym mis Mawrth 2021. Cyfanswm y Rhaglen Gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2022/23 yw £35.961m a bydd yn cael ei chyllido o’r ffynonellau a nodir yn Nhabl 1 yn yr adroddiad. Mae’r grant Cyfalaf Cyffredinol gan Lywodraeth Cymru wedi gostwng gan £677k o gymharu â’r cyllid a dderbyniwyd yn 2021/22 ac felly argymhellir defnyddio £1.681m o’r Balansau Cyffredinol er mwyn cynorthwyo i ariannu’r rhaglen arfaethedig. Mae’r rhaglen gyfalaf yn argymell gwario ar asedau cyfredol (£5.042m), prosiectau unwaith ac am byth newydd yn unol â Thabl 3 yr adroddiad, gan gynnwys uwchraddio toiledau cyhoeddus a darparu arian cyfatebol ar gyfer cynlluniau lliniaru llifogydd (£1.432m), a phrosiectau unwaith ac am byth newydd i’w hariannu o gronfeydd wrth gefn clustnodedig, cronfeydd wrth gefn gwasanaethau a benthyca heb gymorth (£783k) - Tabl 4 yn yr adroddiad. Oherwydd bod swm sylweddol o gyllid ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, mae’r Cyngor wedi ymrwymo i ariannu’r cynlluniau hyn trwy ddefnyddio benthyca heb gymorth a’r derbyniadau cyfalaf yn sgil gwerthu hen safleoedd ysgol. Cost amcangyfrifedig y rhaglen yn 2022/23 yw £8.598m. Bydd y rhaglen arfaethedig o dan y Cyfrif Refeniw Tai, sydd wedi’i glustnodi ar gyfer rheoli incwm a gwariant yn gysylltiedig â stoc tai’r Cyngor, yn parhau i fuddsoddi mewn stoc bresennol yn ogystal â datblygu eiddo newydd.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 y gostyngiad yn y Grant Cyfalaf Cyffredinol ar gyfer 2022/23 sydd wedi arwain at ddiffyg yn y gyllideb gyfalaf ac, ar ôl ystyried yn ofalus, mae’r Pwyllgor Gwaith yn bwriadu cwrdd â’r diffyg o’r Balansau Cyffredinol gan na fyddai’n afresymol defnyddio’r balansau i gefnogi gwariant cyfalaf yn 2022/23 ac ni fyddai’n peryglu’r Balansau Cyffredinol. Er y disgwylir i’r dyraniad Grant Cyfalaf Cyffredinol gynyddu yn 2024/25, bydd sefyllfa gyffredinol y gyllideb gyfalaf yn dynnach gan olygu y bydd yn anoddach llunio rhaglen gyfalaf nad yw wedi’i chyfyngu i adnewyddu ac amnewid asedau cyfredol yn unig.

 

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Dylan Rees, Is-gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a oedd yn cyflwyno adroddiad yn dilyn cyfarfod o’r Pwyllgor y bore hwnnw, fod y Pwyllgor Sgriwtini yn cymeradwyo’r cynnig ar gyfer Cyllideb Gyfalaf 2022/23 ac na chafwyd yr un bleidlais yn erbyn y cynnig. Yn yr un modd, cadarnhaodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Cyllid, gefnogaeth y Panel i’r gyllideb gyfalaf arfaethedig fel defnydd rhesymol o adnoddau.

 

Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Llawn y rhaglen gyfalaf a ganlyn ar gyfer 2022/23 -

                                                           

                                    £’000

 

Cynlluniau 2021/22 a ddygwyd ymlaen                              1,322

Adnewyddu / Amnewid Asedau                                          5,042

Prosiectau Cyfalaf Unwaith ac am Byth Newydd             1,432

Prosiectau Cyfalaf Unwaith ac am Byth (wedi’u

hariannu o Gronfeydd wrth Gefn a

Benthyca heb Gymorth                                                          783

Ysgolion yr 21ain Ganrif                                                      8,598

Cyfrif Refeniw Tai                                                               18,784

Cyfanswm Rhaglen Gyfalaf

Arfaethedig ar gyfer 2022/23                                             35,961

 

Cyllidir gan –

 

Grant Cyfalaf Cyffredinol                                                     1,486

Benthyca âChymorth Cyffredinol                                      2,157

Balansau Cyffredinol                                                           1,681

Ysgolion yr 21ain Ganrif – Benthyca â

Chymorth                                                                               1,168

Ysgolion yr 21ain Ganrif – Benthyca

heb Gymorth                                                                         5,261

Cronfa Wrth Gefn y CRT a

gwarged yn ystod y flwyddyn                                          10,099

CRT – Benthyca heb Gymorth                                            6,000

Derbyniadau Cyfalaf                                                                600

Grantiau Allanol                                                                    4,854

Cronfeydd Wrth Gefn Clustnodedig                                   1,195

Cronfa Gyffredinol – Benthyca heb Gymorth                      138

Cyllid 2021/22 a ddygwyd ymlaen                                      1,322

                         

Cyfanswm Cyllid Cyfalaf 2022/23                                       35,961

           

Dogfennau ategol: