Eitem Rhaglen

Strategaeth Dai Leol 2022-27

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Gwasanaethau Tai a oedd yn cynnwys y Strategaeth Dai ar gyfer 2022 i 2027 i’w ystyried gan y Pwyllgor.

Cyflwynodd y Cynghorydd Alun Mummery, Aelod Portffolio Tai a Chefnogi Cymunedau yr adroddiad a'r Strategaeth a thynnodd sylw at ei nod strategol cyffredinol, i sicrhau bod gan bobl Ynys Môn le y gallent ei alw’n gartref, wedi eu grymuso a’u cefnogi i gyfrannu tuag at eu cymuned leol. Diolchodd i staff y Gwasanaeth Tai am y gwaith a oedd wedi'i wneud i ddrafftio'r strategaeth ac wrth ei chanmol dywedodd wrth y Pwyllgor ei bod yn ddogfen gadarnhaol.

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth (Strategaeth Dai, Comisiynu a Pholisi) fod y Strategaeth yn berthnasol i lawer o bobl ar Ynys Môn gan y bydd yn darparu tai fforddiadwy a fydd yn cynnwys llawer o wahanol ddeiliadaethau, llety a chymorth i grwpiau cleientiaid bregus a phenodol, pobl ifanc sy'n dymuno prynu eu cartref eu hunain, pobl y mae angen addasiadau arnynt oherwydd salwch a phobl mewn argyfwng sydd angen tai ar unwaith. Cyflawnir hyn drwy ganolbwyntio ar chwe thema allweddol a fydd yn darparu sail ar gyfer nodi beth yw'r problemau a sut y mae'r Strategaeth yn bwriadu mynd i'r afael â'r rhain yn y tymor byr, mewn un i ddwy flynedd a thymor canolig i hir yn ystod y Strategaeth. Mae'r Strategaeth wedi bod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus. Mae’r canlyniadau wedi'u cynnwys yn Atodiad 1 ac fe'i haddaswyd yn unol â hynny.

 

Ymatebodd y Swyddog i bwyntiau a chwestiynau a godwyd gan y Pwyllgor fel a ganlyn

 

·                O ran unrhyw faterion newydd a ddaeth i'r amlwg o'r ymgynghoriad, dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y Gwasanaeth wedi ceisio ymgynghori mor eang â phosibl ar y strategaeth a bod hyn wedi golygu gwneud nifer o gyflwyniadau. Yn ystod y flwyddyn ers i'r gwaith ddechrau ar y strategaeth ddrafft, mae pwysau ail gartrefi a'r farchnad eiddo wedi dod i'r amlwg ac adlewyrchir y pryderon hyn yn yr ymatebion i'r strategaeth gan aelodau'r cyhoedd. Efallai na fyddai wedi bod mor amlwg pe bai'r ymgynghoriad wedi'i gynnal ddwy flynedd yn ôl yn y cyfnod cyn Covid.

·                     A oedd y Gwasanaeth yn siomedig â'r ffaith mai dim ond 25 o ymatebion a ddenodd yr holiadur ar-lein sydd wedyn yn tueddu i ystumio'r canrannau, er ei fod wedi cael ei hyrwyddo'n rheolaidd drwy lwyfannau cyfryngau cymdeithasol y Cyngor drwy gydol y cyfnod ymgynghori chwe wythnos. Roedd y Pwyllgor am wybod beth y gellid ei wneud i wella'r ymateb i'r ymgynghoriad i'w wneud yn fwy ystyrlon. Dywedwyd wrth y Pwyllgor y gwnaed ymdrechion i gyrraedd cynifer o bobl â phosibl drwy gyfarfodydd Zoom ac roedd y cwestiynau ar yr holiadur yn glir, yn fyr ac yn hawdd eu deall. Er bod yr ymateb yn gyfyngedig yn gyffredinol, roedd yr ymatebwyr yn cynnwys trawstoriad o bobl/grwpiau ac roedd yn cynnwys aelodau o'r cyhoedd.

·                O ran sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ail Gartrefi i geisio atebion a fydd yn lliniaru'r effaith y mae ail gartrefi'n ei chael ar gymunedau a thrigolion, mae gallu’r grŵp i gyflawni unrhyw beth yn ymarferol yn dibynnu ar Lywodraeth Cymru o gofio mai LlC sy'n bennaf gyfrifol am y pŵer i fynd i'r afael â mater ail gartrefi. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y Grŵp Gorchwyl a Gorffen wedi'i sefydlu'n fewnol ar gais y Pwyllgor Gwaith a’i fod wedi bod yn ymateb i nifer o ymgynghoriadau gan Lywodraeth Cymru ar y mater. Er y rhoddir sylw i rai o'r materion sy'n gysylltiedig ag ail gartrefi drwy bolisïau cenedlaethol, mae lle i ddylanwadu ar y polisïau hynny yn ogystal â datblygu polisïau lleol i ymateb i rai o'r heriau a wynebir ym maes tai e.e. y Polisi Rhannu Ecwiti sy'n cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith ei gymeradwyo yn y cyfarfod y prynhawn yma. Cadarnhawyd bod y Grŵp wedi ethol cynrychiolwyr o blith aelodau sy'n cynnwys Aelodau Portffolio Tai, Cyllid a Chynllunio a gan ei fod wedi cael ei sefydlu i lunio ymateb i ymgynghoriad sy'n dod i ben ar 24 Ionawr, 2022 (gydag ymgynghoriadau pellach yn cau ym mis Chwefror), ni ragwelwyd y byddai'n adrodd yn ehangach.

·                     P’un ai a oes gan y Gwasanaeth fesurau yn eu lle i gynorthwyo tenantiaid mewn tlodi tanwydd o ystyried bod cost gynyddol ynni yn debygol o olygu y bydd nifer cynyddol o bobl yn y categori hwnnw. Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod cyngor, arweiniad a chymorth yn cael ei ddarparu gan Swyddogion Cynhwysiant Ariannol y Gwasanaeth ac mae hefyd ar gael drwy'r Ganolfan O'Toole yng Nghaergybi; mae'r adnoddau hyn yn ceisio helpu tenantiaid i reoli eu cyllid fel eu bod yn gallu lleihau eu costau ynni a/neu gynyddu eu hincwm er mwyn cwrdd â’u cosau ynni. Mae elfen o'r gwasanaeth hwn hefyd ar gael i bobl nad ydynt yn denantiaid a thrigolion Ynys Môn yn gyffredinol.

 

 Ar ôl ystyried y dogfennau a gyflwynwyd a’r ymateb i’r cwestiynau a ofynnwyd, penderfynwyd argymell cymeradwyo Strategaeth Dai 2022-27 i’r Pwyllgor Gwaith.                        

Dogfennau ategol: