Eitem Rhaglen

Datganiad ar Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2022/23

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) /  Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys Datganiad ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys ar gyfer 2022/23 i’w ystyried gan y Pwyllgor.  Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r Strategaeth Rheoli Trysorlys ar gyfer 2022/23 yn cynnwys y cynnwys y Strategaeth Fuddsoddi Flynyddol, y Datganiad ar y Polisi Darpariaeth Refeniw Isaf Blynyddol, y Datganiad ar y Polisi Rheoli Trysorlys a’r cynlluniau cyfalaf a Dangosyddion Darbodus cysylltiedig.  

 

Mae’r Strategaeth Rheoli Trysorlys yn amlinellu strategaeth y Cyngor o ran benthyciadau a buddsoddiadau sy’n dilyn ymlaen o’r Strategaeth Gyfalaf, sy’n nodi’r cyfyngiadau ar fenthyca, yn pennu cyfres o ddangosyddion darbodus i sicrhau bod cynlluniau cyfalaf y Cyngor yn fforddiadwy ac yn penderfynu archwaeth risg a strategaeth y Cyngor mewn perthynas â rheoli ei fuddsoddiadau. Mae’r elfennau hyn yn ymdrin â’r gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol.

 

Yn y bôn mae’r Strategaeth ar gyfer 2022/23 yn delio â dau brif faes - materion cyfalaf a materion rheoli trysorlys ac mae’n ystyried y ffactorau allweddol mewn perthynas â phob maes a’r modd y maent yn llunio’r strategaeth a dull Rheoli Trysorlys.

 

Wrth gyflwyno’r adroddiad cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) /  Swyddog Adran 151 nad oes newidiadau’n cael eu cynnig i’r egwyddorion craidd yn Natganiad 2021/22 ac amlygodd y canlynol –

 

·         Y cefndir economaidd (ynghlwm yn Atodiad 3) a’r rhagolygon cyfradd llog hyd at fis Mawrth 2025 a’r goblygiadau i’r Strategaeth Rheoli Trysorlys. 

·         Y rhaglen gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2022/23 i 2024/25 fel y nodir yn nabl 3 yn yr adroddiad yn cynnwys gwariant cyfalaf arfaethedig, sut y caiff ei gyllido a’r balansau a fydd yn cael eu hariannu drwy fenthyca dros y tair blynedd.

·         Effaith cynlluniau gwariant cyfalaf y Cyngor a’r Ddarpariaeth Refeniw Isaf (DRI) ar Ofyniad Cyllido Cyfalaf y Cyngor (GCC) a lefel y benthyca allanol a mewnol fel y nodir yn Nhabl 4 yn yr adroddiad sy’n rhagweld cynnydd mewn benthyca allanol dros y tair blynedd nesaf ond sydd yn dal i fod oddi mewn i’r paramedrau derbyniol.

·         Mae’r strategaeth fenthyca yn cadarnhau sefyllfa o dan-fenthyca ar hyn o bryd ac mae angen mabwysiadu dull bragmatig i ymateb i amgylchiadau sy’n newid h.y. os teimlir bod risg sylweddol o gwymp sydyn yn y cyfraddau tymor byr a thymor hir yna bydd benthyciadau tymor hir yn cael eu gohirio, ac ystyrir newid o gyllido cyfradd sefydlog i fenthyca tymor byr os bydd yn gost-effeithiol i wneud hynny. I’r gwrthwyneb, os teimlir bod risg sylweddol o gynnydd llawer uwch yn y cyfraddau tymor hir a thymor byr nag a ragwelir ar hyn o bryd, yna byddai sefyllfa’r portffolio yn cael ei hailasesu.

·         Agwedd y Cyngor tuag at fenthyca ymlaen llaw i gwrdd â’i anghenion sy’n cadarnhau nad yw’r Cyngor yn benthyca dim ond er mwyn elwa o fuddsoddi’r symiau ychwanegol a fenthycir. Wrth benderfynu a ddylid benthyca cyn bod angen gwneud hynny, bydd y Cyngor yn ystyried y ffactorau a nodir ym mharagraff 7.4.2 yn yr adroddiad yn ofalus.

·         Mae’n annhebygol y gellir aildrefnu benthyciadau gan fod gwahaniaeth mawr iawn o hyd rhwng cyfraddau ad-dalu cynamserol a chyfraddau benthyca newydd.

·         Agwedd y Cyngor tuag at fuddsoddiadau os tybir bod y Gyfradd Banc yn debygol o godi’n sylweddol yn ystod y cyfnod amser dan sylw, yna rhoddir ystyriaeth i gadw’r rhan fwyaf o fuddsoddiadau fel rhai tymor byr neu amrywiadwy. Ar y llaw arall, os tybir bod y Gyfradd Banc yn debygol o ostwng o fewn y cyfnod hwnnw, ystyrir manteisio ar y cyfraddau uwch sydd ar gael ar y pryd a chadw’r buddsoddiadau i mewn am gyfnodau hwy. Y strategaeth ar gyfer rheoli buddsoddiadau yw blaenoriaethu diogelwch a hylifedd dros elw ar fuddsoddiadau.

·         Y modd y caiff risg ei reoli a chadarnhad bod y Cyngor hwn wedi mabwysiadu ymagwedd ddarbodus tuag at reoli risg. Ceir diffiniad o’i archwaeth risg yn adran 8.2.4  yn yr adroddiad o ran teilyngdod credyd gwrth bartïon, cyfyngiadau benthyca a statysau credyd sy’n cael eu monitro’n ddyddiol. 

·         Y trefniadau llywodraethu a rheoli ar gyfer prosesau rheoli trysorlys, penderfyniadau a pherfformiad.

·         Y Dangosyddion Darbodus a Thrysorlys a nodir yn Atodiad 12 yn yr adroddiad yn ymwneud â fforddiadwyedd a darbodusrwydd ac sy’n gosod cyfyngiadau ar gyfer gwariant cyfalaf, dyled allanol a strwythur dyledion.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan Aelodau, cynghorodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151ynlgyn â’r canlynol–

 

·         Mae llawer o ansicrwydd o hyd ynglŷn â’r rhagolygon economaidd oherwydd chwyddiant, cynnydd mewn prisiau ynni, prinder cyflenwadau, rhai materion yn ymwneud â Brexit sydd yn dal heb eu datrys, tensiynau yn Nwyrain Ewrop ac yn San Steffan yn ogystal â phryderon o ran adfer yr economi a’r posibilrwydd o newidiadau pellach o ganlyniad i Covid.  Y gobaith yw y caiff y materion hyn eu datrys yn ystod misoedd yr haf ac erbyn yr hydref fel bod y sefyllfa economaidd yn dod gliriach ac yn fwy sefydlog. Gostyngodd prisiau yn ystod y cyfnodau clo yn 2021 ac felly roedd cynnydd chwyddiannol yn ddisgwyliedig. Ac er bod disgwyl i chwyddiant ostwng mae risg y gallai barhau i gynyddu am gyfnod hwy o ganlyniad i gostau byd-eang a chostau ynni uchel; bydd y modd y caiff ei reoli’n ffactor allweddol. Ar y cyfan mae disgwyl i 2022 fod yn flwyddyn heriol yn economaidd.

·         Bydd yr adroddiad monitro i’r Pwyllgor Gwaith ar y Gyllideb Cyfalaf ar gyfer Chwarter 3 2021/22 yn cadarnhau llithriad parhaus yn y rhaglen gyfalaf o ganlyniad i gynlluniau sydd heb wneud cymaint o gynnydd ag y disgwyl a gellir priodoli hyn i nifer o ffactorau yn amrywio o ystyriaethau’n gysylltiedig â gwerth gorau am arian i gynnydd mewn prisiau tendro i oedi yn y broses gynllunio. Mae’r Awdurdod wedi ymrwymo o hyd i gyflawni’r ymrwymiadau sydd yn ei raglen gyfalaf dros dymor y cynllun ac mae’n bwriadu benthyca i gyflawni’r amcan hwnnw.

·         Mae grantiau tai cymdeithasol nawr ar gael i awdurdodau lleol yn ogystal â Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ond maent yn cynrychioli elfen fach o’r cyllid. Caiff gwariant cyfalaf ar stoc dai’r Awdurdod ei ariannu drwy’r Cyfrif Refeniw Tai yn seiliedig ar yr incwm rhent blynyddol sydd hefyd yn ariannu’r gwaith atgyweirio a chynnal a chadw a chostau benthyca. Caiff pob datblygiad tai arfaethedig ei asesu yn seiliedig ar hynny ac mae modd ei addasu ar gyfer rhai datblygiadau h.y. parodrwydd i ad-dalu’r costau am gyfnod hwy os gellir dangos bod angen y datblygiad ar frys mewn ardal benodol gan wybod y bydd rhaid cwrdd â chostau ad-dalu datblygiadau eraill dros gyfnod byrrach. Mae’r Awdurdod yn gwneud cais am gyllid grant ar gyfer pob un o’i ddatblygiadau tai ac mae grantiau ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gyfer adeiladu tai arloesol neu wyrdd. 

 

Penderfynwyd derbyn a nodi’r Strategaeth Rheoli Trysorlys ar gyfer 2022/23 ac anfon y Datganiad Rheoli Trysorlys ymlaen i’w Pwyllgor Gwaith heb sylwadau pellach.

 

Dogfennau ategol: