Eitem Rhaglen

Archwilio Allanol: Comisiynu Lleoliadau mewn Cartrefi Gofal i Bobl Hyn

Cyflwyno adroddiad Archwilio Allanol. 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Archwilio Cymru a oedd yn nodi canfyddiadau adolygiad yr Archwilydd Cyffredinol o drefniadau ar gyfer comisiynu lleoliadau mewn cartrefi gofal ledled Gogledd Cymru i’w ystyried gan y Pwyllgor.  

 

Adroddodd Mr Jeremy Evans, Archwilio Cymru bod yr adolygiad wedi edrych ar y modd y gall aelodau o Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru gydweithio i gomisiynu lleoliadau mewn cartrefi gofal ar gyfer pobl hŷn (defnyddir y term cartrefi gofal i adlewyrchu pob math o gartrefi gofal preswyl a nyrsio mewn ystyr cyffredinol). Daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (y Ddeddf) i rym ar 6 Ebrill 2016 ac mae’n ei gwneud yn ofynnol i gynghorau a byrddau iechyd gydweithio i asesu anghenion gofal a chymorth y boblogaeth yn eu hardal. Sefydlodd y Ddeddf Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol (BPRh) i roi blaenoriaeth i integreiddio gwasanaethau gan gynnwys ar gyfer pobl hŷn ag anghenion cymhleth a chyflyrau hirdymor, gan gynnwys dementia. Yng Ngogledd Cymru, mae’r BPRh yn cynnwys y partneriaid statudol – Cynghorau Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd a Wrecsam a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

 

Yn gynnar yn 2020, fe wnaeth Archwilio Cymru nodi bod mynd ati’n strategol i gomisiynu lleoliadau mewn cartrefi gofal ar gyfer pobl hŷn yn risg i gynghorau a’r Bwrdd Iechyd am y rhesymau a nodwyd ym mharagraff 5 yn yr adroddiad. Cwblhawyd gwaith maes ym mis Chwefror a Mawrth 2021 ac wrth dynnu’r negeseuon ynghyd canfuwyd bod y fframweithiau polisi a deddfwriaeth yn arwain at ffordd o weithio sydd yn effeithio ar weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol a defnyddwyr gwasanaethau. Er na chynhaliwyd adolygiad o’r Byrddau Partneriaeth yng Nghymru, disgwylir y bydd nifer o’r canfyddiadau a heriau a amlygwyd yn yr adolygiad ar gyfer Gogledd Cymru yn cael eu hadlewyrchu’n genedlaethol i ryw raddau.

 

Mae’r negeseuon allweddol a chasgliadau cyffredinol yr adolygiad fel a ganlyn –

 

·         Mae partneriaid yn cydweithio i ddarparu gofal ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau agored i niwed ond maent yn cario risgiau sylweddol sy’n gysylltiedig â sefydlogrwydd y farchnad, y gweithlu, a threfniadau cyn lleoli, ynghyd â dibyniaeth ar brynu ar y pryd.

·         Roedd Datganiad Siapio’r Farchnad a gyhoeddwyd gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn 2018 yn nodi rhai dyheadau ar gyfer comisiynu lleoliadau mewn cartrefi gofal yr ychwanegwyd atynt gan ymateb y BPRh i ‘Cymru Iachach’ yn 2019; fodd bynnag, nid yw’r naill na’r llall o’r rhain wedi llywio datblygiad strategaeth ranbarthol eglur ar gyfer comisiynu lleoliadau mewn cartrefi gofal i bobl hŷn yng Ngogledd Cymru na chynllun cyflawni i fwrw ymlaen â’r dyheadau a nodwyd.

·         Er bod rhwydwaith y BPRh yn dod â phartneriaid ynghyd i ‘feddwl yn rhanbarthol’, mae ei strwythurau, a bennwyd i raddau helaeth gan Lywodraeth Cymru, yn helaeth a chymhleth, ac mae angen cryfhau llinellau atebolrwydd.

·         Mae strwythurau ffioedd a bennir yn genedlaethol yn gymhleth ac yn arwain at ffocws sylweddol ar gost sy’n achosi rhwyg ymhlith partneriaid ac sydd â’r potensial i effeithio’n andwyol ar ddefnyddwyr gwasanaethau a’u teuluoedd.

·         Mae angen i bartneriaid wneud mwy i ddangos eu bod yn cyflawni eu cyfrifoldebau statudol mewn perthynas â’r Gymraeg, a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, wrth gomisiynu darpariaeth mewn cartrefi gofal a gwneud lleoliadau unigol.

 

Mae Archwilio Cymru wedi adrodd ar wahân i Lywodraeth Cymru ac y mae wedi argymell y camau y dylai eu cymryd i wella’r fframwaith y mae partneriaid rhanbarthol yn gweithredu oddi mewn iddi ac y mae wedi ei herio i edrych ar rai o’r gofynion deddfwriaethol allweddol wrth adolygu gofal cymdeithasol ac iechyd yn ei Bapur Gwyn - Ail-gydbwyso Gofal a Chymorth.  Rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn sicr bod y newidiadau y mae’n eu cynnig yn mynd yn ddigon pell i ddatrys rhai o’r heriau hirsefydlog a nodwyd ac a adroddwyd arnynt - yn benodol cymhlethdodau’r dulliau cyllido a’r angen am fwy o eglurder ynghylch cronfeydd cyfun; craffu ac atebolrwydd gwell mewn perthynas â gweithgareddau a phenderfyniadau’r BPRh a sefydlu fframwaith ar gyfer gwerthuso cynnydd y BPRh i gwrdd â golau llesiant.

 

Tra bo Llywodraeth Cymru’n ysgwyddo rhywfaint o’r cyfrifoldeb ar gyfer gwella, mae’n bwysig bod partneriaid yn cynnwys Cyngor Sir Ynys Môn, yn ystyried eu rôl eu hunain yn y broses. Yng ngoleuni’r gwariant sylweddol ar ofal gan gynghorau a BIPBC, rhaid i’r  Cyngor fod yn sicr bod yr arian yn cael ei wario’n ddoeth a’i fod yn cyfrannu tuag at adeiladu sector gofal mwy cynaliadwy sy’n darparu gwahanol fathau o ofal ar gyfer dinasyddion heddiw ac yfory.  I’r perwyl hwn mae’r adroddiad yn cynnwys 5 argymhelliad ar gyfer y cynghorau â’r Bwrdd Iechyd sydd wedi’u nodi ar ddiwedd yr adroddiad.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Mr Jeremy Evans am gyflwyno’r adroddiad a’r canfyddiadau a chydnabod y gwaith sylweddol y tu ôl i gynhyrchu’r adroddiad. Yn ystod y drafodaeth ddilynol codwyd y pwyntiau canlynol –

 

·         Cyfeiriwyd at y cynlluniau byw’n annibynnol ac at ddarpariaeth Gofal Tai Ychwanegol y Cyngor ar gyfer pobl hŷn a gofynnwyd pa un ai y dylid annog datblygiadau o’r math hyn a modelau tebyg fel opsiynau mwy cost effeithiol a chynaliadwy er mwyn mynd i’r afael â rhai o’r materion a nodwyd.

 

Cadarnhaodd Mr Jeremy Evans bod yr ymateb yng ngogledd Cymru i “Cymru Iachach” yn adlewyrchu newid tuag at annog pobl i aros yn eu cymunedau am gyfnod hwy drwy ddarparu gofal cartref a / neu sefydliadau gofal ychwanegol.  Ochr arall i’r geiniog yw bod gan bobl anghenion mwy dwys erbyn iddynt fynd i gartref gofal ac felly mae angen darpariaeth mwy arbenigol, rhywbeth nad ydi’r rhan fwyaf o gynghorau’n gallu’i ddarparu’n agos at adref ac felly mae’n bwysig cael strategaeth ar gyfer comisiynu lleoliadau cartrefi gofal ledled Gogledd Cymru i gefnogi cynllunio gofal. Rhaid i gynghorau benderfynu beth yw eu hanghenion er mwyn cael cydbwysedd o ran y gwahanol fathau o ofal y mae ei angen arnynt yn eu cartrefi gofal ac er mwyn datblygu cynllun i’w cyfeirio o’r man y maent ar hyn o bryd, a all olygu bod â gormod o ddarpariaeth gofal preswyl nag sydd ei angen ar gyfer y dyfodol, i ble yr hoffent fod sef bod â darpariaeth gofal mwy arbenigol. 

 

·         Mewn perthynas â strwythur y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (Atodiad 1 yn yr adroddiad) roedd y Pwyllgor o’r farn y gallai beri dryswch i ddefnyddiwr gwasanaeth, a chodwyd pryder ynglŷn â chostau rhedeg strwythur o’r fath a hefyd y gallai trefniant mor gymhleth wneud bywyd yn anoddach mewn perthynas â chwrdd ag anghenion gofal defnyddwyr gwasanaethau.

 

Cynghorodd Mr Jeremy Evans bod strwythur y BPRh wedi’i osod gan Lywodraeth Cymru’n bennaf a chan ei fod yn cynnwys saith prif bartner ac yn cael ei gefnogi gan lu o grwpiau a sefydliadau eraill mae’n gymhleth, ac yn gallu peri dryswch.  Un o brif ganfyddiadau’r adroddiad yw er bod y BPRh yn dod â phartneriaid ynghyd mae maint  a gweithrediad y strwythur yn golygu’i fod yn drwsgl ac yn cyflwyno sawl her.  Mae’n faes y mae Archwilio Cymru wedi’i amlygu a dylai Llywodraeth Cymru edrych arno er mwyn ei symleiddio a’i wneud yn fwy effeithiol.

 

·      Wrth nodi bod ymdrech wedi bod i sefydlu partneriaethau gwaith mewn sawl maes, roedd y Pwyllgor yn dymuno gwybod beth oedd y prif wersi yn sgil yr adolygiad hwn o ran rhoi model cydweithio rhanbarthol ar waith ar gyfer meysydd gwasanaeth eraill.

 

Cynghorodd Mr Jeremy Evans o ran yr adroddiad, bod Archwilio Cymru wedi amlygu bod angen i Lywodraeth Cymru fod yn glir ynglŷn â’r disgwyliadau ar gyfer partneriaethau (y BPRh yn achos yr adroddiad hwn) fel y gellir mynd ati’n wrthrychol i werthuso cynnydd yn erbyn yr amcanion a osodir a chael mesurau ar waith i ddangos cynnydd o ran cyflawni nodau a dyheadau Llywodraetha Cymru ar gyfer trefniadau cydweithio penodol. Mae modd i bartneriaethau gwaith rhanbarthol fod yn gynhyrchiol ac effeithiol fel yn achos Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ac yn ystod yr adolygiad daeth Archwilio Cymru o hyd i lywodraethiant cadarn, cynnydd da o ran datblygu rhaglen y Swyddfa Portffolio a hyblygrwydd o ran addasu’r cyd-desun y mae’r Bwrdd yn gweithredu ynddo.  Rhaid i’r BPRh fod yn debyg o ran statws gyda llywodraethiant da, atebolrwydd a chyswllt rhwng sefydliadau partner ac mae’r rhain yn agweddau y gall y Cyngor helpu i’w datblygu fel un o brif bartneriaid y Bwrdd.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion bod profiad y gwasanaeth yn Ynys Môn yn cefnogi canfyddiadau’r adolygiad mewn perthynas â lleoliadau gan fod pobl yn dod i mewn i ofal preswyl gydag anghenion mwy cymhleth ac maent yn dueddol o aros mewn gofal am lai o amser. Fel Awdurdod, er yr hoffai Ynys Môn ddatblygu ychwaneg o dai gofal ychwanegol neu debyg i alluogi unigolion i aros mewn awyrgylch cartrefol cyhyd ag y bo modd, mae’n cydnabod y daw adeg pan na fydd hynny’n bosibl ac y bydd rhaid i unigolion dderbyn gofal arbenigol mewn cartref preswyl.  Mae’r argymhellion wedi cael eu hystyried yn ofalus ac mae consensws ynglŷn â chyfeiriad y daith yn gyffredinol.

 

Fel Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol a chynrychiolydd y Cyngor ar y BPRh a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru amlygodd y Cynghorydd Llinos Medi’r gwahaniaeth rhwng y byrddau a phwysleisiodd bod y Bwrdd Uchelgais Economaidd wedi datblygu’n naturiol o’r  gwaelod i fyny mewn ymateb i’r angen i ddatblygu economi’r rhanbarth  tra bod y BPRh yn deillio o Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).  Holodd ynghylch gallu’r BPRh i gyflawni’r gwahaniaethau a argymhellir yn yr adroddiad yn ei ffurf bresennol a chyfeiriodd at yr heriau a’r risgiau sy’n gysylltiedig â chomisiynu cartrefi gofal drwy gyllidebau cyfun a goblygiadau’r gofynion gweinyddol ychwanegol a pha un ai a oes modd sicrhau gwerth gorau am arian. Dywedodd y Cynghorydd Llinos Medi mai anghenion y defnyddiwr gwasanaeth yw’r prif flaenoriaeth a  bod hynny mewn perygl o gael ei golli oherwydd strwythur y BPRh. Mae cydweithio’n gweithio orau yn ei barn hi pan mae’r dull o gydweithio’n cael ei gytuno gan y partneriaid nid pan mae’n cael ei orfodi arnynt.

 

Roedd Mr Jeremy Evans yn cydnabod bod man cychwyn y Bwrdd Uchelgais yn wahanol i fan cychwyn y BPRh ac oherwydd ei fod yn ddeddfwriaeth mae’r olaf yn anoddach i’w addasu i gwrdd ag anghenion lleol, pwynt sy’n cael ei adlewyrchu yn yr adroddiad ac yn yr argymhellion i Lywodraeth Cymru; (ac fe anogodd aelodau’r Panel i edrych ar yr wybodaeth).  Mae’r rhain yn herio Llywodraeth Cymru ynglŷn ag effeithlonrwydd â gallu’r BPRh i gyflawni a hefyd ymarferoldeb y disgwyliad i weithredu gyda chyllidebau cyfun. Mae’r modelau cyllido gofal a’r systemau sy’n eu cynnal yn gymhleth oherwydd y gwahanol fathau o leoliadau gofal sydd ar gael ac maent yn eistedd o oddi mewn i strwythur cymhleth, sef y BPRh. Mae’r adroddiad a’r argymhellion yn ceisio annog cynghorau i symleiddio cymaint o’r prosesau hyn  â phosibl ac i Lywodraeth Cymru sicrhau bod ei ddiwygiadau polisi’n mynd yn ddigon pell i ddatrys yr heriau a nodwyd fel bod y broses yn haws a rhwyddach i ddefnyddwyr gwasanaeth, sef pobl hŷn a bregus.

 

Penderfynwyd nodi canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad gan Archwilio Cymru mewn perthynas â chomisiynu lleoliadau cartrefi gofal, ac i ddiolch i Mr Jeremy Evans am y cyflwyniad a’r eglurhad a roddwyd.

 

Dogfennau ategol: