Eitem Rhaglen

Archwilio Allanol: Adfywio Canol Trefi yng Nghymru - Argymhellion ac Ymateb

·        Cyflwyno adroddiad Archwilio Allanol.

 

·        Cyflwyno ymateb y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

·         Cyflwynwyd adroddiad gan Archwilio Cymru i’w ystyried gan y Pwyllgor a oedd yn amlygu prif ganfyddiadau adolygiad yr Archwilydd Cyffredinol o’r ffordd y mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn rheoli ac yn adfywio canol eu trefi.

 

Amlinellodd Mr Mathew Brushett, Archwilio Cymru gyd-destun yr adroddiad a’r dull a methodoleg archwilio a oedd yn cynnwys edrych ar nifer o raglenni adfywio a strategaethau adfywio presennol ledled cynghorau yn ogystal â chyfweld swyddogion adfywio arweiniol. Roedd yr holl dystiolaeth a oedd yn sail i’r adolygiad ar gael yn Atodiad 1 yn yr adroddiad. Cynhyrchwyd offeryn adolygu i alluogi cynghorau i hunanasesu eu dulliau presennol a nodi meysydd lle mae angen gwaith pellach ynghyd ag offeryn data rhyngweithiol.

 

Mae negeseuon allweddol a chasgliadau cyffredinol yr adolygiad fel a ganlyn–

 

·         Mae canol trefi wrth wraidd bywyd Cymru ac maent yn gallu bod yn lleoedd bywiog a chynaliadwy, ond mae mynd i'r afael â'r heriau lawer sy’n eu hwynebu yn mynnu penderfyniadau dewr ac arweinyddiaeth uchelgeisiol;

·         Mae twf mannau manwerthu y tu allan i’r dref, colli 'gwasanaethau hanfodol' fwyfwy o ganol trefi – banciau, swyddfeydd post a gwasanaethau cyhoeddus – a thwf siopa ar-lein wedi cyfrannu at ddirywiad cyson llawer o ganol trefi. Ac mae'r pandemig wedi ychwanegu at y problemau hyn.

·         Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi’n sylweddol yn uniongyrchol yn ystod y saith mlynedd diwethaf i helpu i adfywio canol trefi. Er y cyllid hwn, mae canol trefi'n aml mewn trafferth.

·         Mae adfywio canol trefi yn flaenoriaeth genedlaethol o hyd, ond nid yw polisi 'canol tref yn gyntaf' Llywodraeth Cymru wedi'i wreiddio'n llawn eto.

·         Awdurdodau lleol yw'r cyrff cyhoeddus allweddol i helpu i adfywio canol trefi, ond yn aml nid oes ganddynt allu na sgiliau i gyflawni'r adfywio cynaliadwy sydd ei angen.

·         Mae awdurdodau lleol mewn sefyllfa dda i flaenoriaethu ac arwain ar gynllunio lleoedd, ond mae angen iddynt fod yn glir ynghylch diben canol eu trefi a chynnwys partneriaid yn y sector cyhoeddus, y trydydd sector, cynghorau tref a chymuned, cymunedau a busnesau mewn penderfyniadau.

·         Bydd yn rhaid hefyd i awdurdodau lleol ymyrryd mwyfwy i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu canol trefi.

 

Mae’r adroddiad yn gwneud chwe argymhelliad ledled Cymru sydd wedi’u nodi yn Arddangosyn 3 ond gellir eu crynhoi fel hyn –

 

·         Dylai Llywodraeth Cymru adolygu Ardrethi Annomestig er mwyn sicrhau bod y system yn adlewyrchu amodau canol trefi yn well pan ddaw gwyliau'r taliadau i ben ym mis Mawrth 2022

·         Dylai Llywodraeth Cymru weithio gydag awdurdodau lleol i adolygu heriau trafnidiaeth sy'n wynebu canol trefi a chytuno ar y ffordd orau o fynd i'r afael â'r rhain

·         Dylai Llywodraeth Cymru hwyluso mynediad awdurdodau lleol at gyllid drwy liflinio a symleiddio prosesau ac amodau grantiau; darparu dyraniadau aml-flwyddyn; darparu cymorth refeniw yn ogystal â chyfalaf i helpu i fynd i'r afael â phrinderau sgiliau a chapasiti staff

·         Dylai awdurdodau lleol ddefnyddio pwerau gorfodi, cymorth ariannol ac adennill dyledion sy'n bodoli eisoes yn effeithiol a chyson, i gefnogi gwaith adfywio ar draws adrannau.

·         Dylai Llywodraeth Cymru nodi sut y mae'n bwriadu cyflawni ei ddull ‘Canol Trefi yn Gyntaf’ yn ymarferol, ei ddisgwyliadau gan bartneriaid a'r camau ymarferol y bydd yn eu cymryd i wireddu'r uchelgais hwn.

·         Dylai awdurdodau lleol fod yn barod i dderbyn newidiadau a chynllunio i reoli'r newidiadau i ganol trefi a defnyddio offeryn adfywio Archwilio Cymru i hunanasesu eu dulliau presennol o nodi lle mae angen iddynt wella eu gwaith ar adfywio canol trefi.

 

·         Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a oedd yn nodi ymateb y Cyngor i adroddiad ac argymhellion Archwilio Cymru ar gyfer Adfywio Canol Trefi yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys ymarfer hunanasesu i nodi meysydd ar gyfer gwella a/neu waith pellach mewn ymateb i’r chwe argymhelliad yn adolygiad Archwilio Cymru. Mae canlyniad yr ymarfer hwn yn dangos bod yr awdurdod yn ymgymryd â phob un o'r 38 maes gwaith. Nodwyd manylion y cynnydd a wnaed mewn perthynas â phob un yn cynnwys unrhyw rwystrau o ran cynnydd. 

 

Bu i Mr Mathew Brushett groesawu’r hunanasesiad fel gwerthusiad gonest o sefyllfa bresennol yr Awdurdod yn cynnwys cydnabod cryfderau a gwendidau ac roedd yn awgrymu y byddai hefyd yn fuddiol petai Sgriwtini’n archwilio’r agweddau lle mae angen gwaith pellach a sut y gellir mynd i’r afael â hwy a throsi’r hunanasesiad yn gynllun gweithredu gyda chamau gweithredu mesuradwy ac amserlenni er mwyn symud materion yn eu blaenau.

 

Wrth drafod yr adroddiad fe wnaeth y Pwyllgor y sylwadau canlynol –

 

Wrth gydnabod bod angen agwedd gydlynol rhwng yr holl randdeiliaid er mwyn adfywio canol trefi, roedd y Pwyllgor yn dymuno cael eglurder ynglŷn â rôl y Cyngor a pha un ai a oedd disgwyliad bod y Cyngor yn chwarae rôl arweiniol bob amser neu a ddylai fod yn cefnogi sefydliadau eraill. 

 

Cynghorodd Mr Nick Selwyn, Archwilio Cymru ei fod yn debygol o fod yn gyfuniad o’r ddau a chyfeiriodd at enghreifftiau yn yr adroddiad lle'r oedd y ddau ddull yn effeithiol.  Mae nifer o fecanweithiau da eisoes wedi cael eu rhoi ar waith mewn cymunedau yng Nghymru a chyfeirir at rai ohonynt yn yr adroddiad. Y man cychwyn yw sgwrs ynglŷn â dyheadau’r Awdurdod ac yna dod o hyn i’r mecanweithiau gorau i gyflawni newid ar lawr gwlad ac un o’r agweddau allweddol yw cynnwys y bobl amrywiol a fydd yn elwa ac yn defnyddio’r trefi.

 

·         Pa un ai a oedd rôl twristiaeth o ran adfywio canol trefni wedi cael ei ystyried wrth gynnal yr adolygiad. Amlygodd yr Is-gadeirydd y byddai wedi hoffi gweld mwy o enghreifftiau yn yr adroddiad o drefi a oedd wedi cael eu hadfywio’n llwyddiannus ar lefel byd-eang yn ogystal â chenedlaethol er mwyn dysgu gwersi o ran beth sydd wedi gweithio orau. 

 

Cyfeiriodd Mr Nick Selwyn y Pwyllgor at adroddiad a baratowyd ar gyfer Llywodraeth Cymru gan yr Athro Karel Williams sy’n trafod y modd y mae marchnadoedd lleol yn newid yn seiliedig ar adolygiad manwl o dair cymuned; mae’r adroddiad yn cyfeirio at enghreifftiau o Ewrop a’r modd yr aethant hwy ati i adfywio. Mae adolygiad Archwilio Cymru yn cyd-fynd ag adolygiad yr Athro Williams yn hytrach na dyblygu ei adroddiad ehangach. Cadarnhaodd bod twristiaeth wedi cael ei ystyried wrth gynnal yr adolygiad ac mai’r ardaloedd sy’n ymddangos fel petaent yn ffynnu yw’r ardaloedd hynny sy’n denu ymwelwyr yn naturiol.   Fodd bynnag, nid yw pob tref sy’n boblogaidd gydag ymwelwyr yn ffynnu a’r ffactor allweddol yw faint o gyswllt sydd gan yr ardaloedd hyn gyda’r gymuned ehangach a pha mor ddibynnol ydynt ar y gwasanaethau a ddarperir mewn cyd-destun ehangach.

 

·         Pa un ai a oes gan y gronfa Codi’r Gwastad rôl i’w chwarae a pha wahaniaeth y mae’n debygol o’i wneud yn y tymor hir. Eglurodd Mr Nick Selwyn er nad yw’r adroddiad yn cyfeirio at y gronfa Codi’r Gwastad gan nad oedd wedi’i chwblhau’n derfynol ar adeg ysgrifennu’r adroddiad, mae’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol wedi cyhoeddi adroddiad ar y Gronfa Codi’r Gwastad yn ddiweddar a fydd yn helpu i ddeall rhai o’r heriau. Bydd cael mynediad at gyllid a’i ddefnyddio’n effeithiol yn cael effaith ar lawr gwlad. Er bod gan awdurdodau lleol hanes o lwyddo i adfywio trefni’n ffisegol drwy waith adeiladu a gwella cyfleusterau, yr her yw bod yn glir ynglŷn â phwrpas trefni yn y dyfodol a beth mae’r Awdurdod eisiau ei gyflawni ar gyfer ei drefi.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach ynglŷn â phwysigrwydd codi’r gwastad mewn trefi llai sydd wedi dioddef yn economaidd oherwydd y gostyngiad mewn adwerthu a defnyddiwyd Amlwch fel enghraifft, cynghorodd Mr Nick Selwyn er bod yr heriau’n gallu bod yn sylweddol, mae modd llwyddo y tu allan i’r gronfa codi’r gwastad drwy arweinyddiaeth gadarn a gweledigaeth glir gan y Cyngor ar gyfer ei drefi a defnyddio’r pwerau sydd ganddo i gyflawni hynny. Mae’n ymwneud hefyd â chael gweledigaeth a gweithio gyda phartneriaid i wneud y newidiadau hynny.  Fodd bynnag ni fydd pob tref yn ffynnu yn y ffordd yr hoffai’r Cyngor ei weld a  bydd rhaid iddo dderbyn bod gan wahanol drefi rolau a dibenion gwahanol.

 

Rhoddodd y Rheolwr Adfywio drosolwg cyflym o weithgareddau adfywio diweddar y Cyngor yn Llangefni, Biwmares, Amlwch a Chaergybi drwy gymorth nawdd gan Lywodraeth Cymru a ffynonellau eraill. Mae Ynys Môn a siroedd gwledig eraill wedi bod yn lobïo o blaid rhoi cymorth i drefi llai ac o ganlyniad i newid yn y polisi mae cyllid cyfalaf o hyd at  £250k nawr ar gael i drefi llai drwy’r grant Creu Lleoedd.  Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi awgrymu ei bod yn symud i gylch cyllido tair blynedd. Ar sail y DU, mae cyllid cyfalaf at ddibenion isadeiledd ar gael drwy’r Gronfa Codi’r Gwastad ac mae cyllid refeniw ar gael drwy’r Gronfa Adnewyddu Cymunedol a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Mae’r olaf yn caniatáu i awdurdodau lleol nodi eu blaenoriaethau eu hunain oddi mewn i fframwaith ehangach. Gyda’i gilydd mae’r ffynonellau cyllido hyn yn  cynnig cyfleoedd i helpu trefi llai.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r holl swyddogion am eu cyfraniadau ac i’r aelodau am y drafodaeth.

 

Penderfynwyd nodi canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad gan Archwilio Cymru mewn perthynas ag adfywio canol trefi yng Nghymru a derbyn a nodi’r ymateb a gafwyd gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd yn cynnwys hynt yr hunanasesiad.

 

Dogfennau ategol: