Eitem Rhaglen

Adroddiad Yswiriant Blynyddol 2020/21

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg a oedd yn cynnwys yr Adroddiad Yswiriant Blynyddol ar gyfer 2020/21 i’w ystyried gan y Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn darparu gwybodaeth am y modd y mae’r Cyngor wedi rheoli ei weithgareddau yswiriant dros y pum mlynedd diwethaf a’r heriau wrth symud ymlaen.

 

Rhoddodd y Rheolwr Risg ac Yswiriant drosolwg o’r crynodeb o hawliadau a geir yn Atodiad A yn yr adroddiad sy’n rhoi dadansoddiad o bob polisi, yn ôl pob blwyddyn ariannol ar gyfer y Cyngor yn ei gyfanrwydd o’r nifer o hawliadau sydd wedi cael eu talu, cael eu setlo heb unrhyw gostau na thaliadau, neu lle nad yw’r hawliad wedi ei setlo hyd yma.

Pwysleisiwyd na fydd yr holl hawliadau sydd ‘dal yn agored’ ac sydd ag arian wrth gefn yn eu herbyn yn cael eu talu neu eu setlo yn unol â’r swm wrth gefn sydd yn er herbyn. Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer hawliadau atebolrwydd; bydd hawliadau ag arian wrth gefn mawr yn eu herbyn yn aml yn cael eu setlo am symiau llawer is neu am ddim costau o gwbl. Gall nifer yr hawliadau hefyd gynyddu dros amser, oherwydd mewn rhai achosion, mae hawliadau yn cael eu cyflwyno nifer o flynyddoedd ar ôl y digwyddiad. Ar hyn o bryd mae pedwar hawliad atebolrwydd cyhoeddus, sy'n ymwneud â chyfnodau cyn y cyfnod y mae’r adroddiad yn ymdrin ag o, yn dal i fod yn agored ac mae'r cyfanswm wrth gefn ar gyfer y pedwar hawliad hwn yn cyfateb i tua £215k.

 

Mae rhai o’r pwyntiau allweddol y dylid eu nodi yn cynnwys y canlynol –

 

·         Mae’r Cyngor yn defnyddio cyfuniad o hunain yswiriant ac yswiriant allanol er mwyn diogelu yn erbyn canlyniadau ariannol risg. Mewn rhai achosion mae’r Cyngor wedi trefnu yswiriant allanol ond yn hunain yswirio canran fawr o’r hawliadau sydd wedi eu talu drwy ddewis talu swm cychwynnol mawr (excess).

·         Yn 2021/2022 roedd y premiwm yswiriant a dalwyd oddeutu £718.5k (cynnodd o 8% ers 2020/21) gan gynnwys £73k o Dreth Premiwm Yswiriant. Er bod cyfran o hyn yn ymwneud â ffactorau chwyddiant, bu cynnydd yn y gyfradd hefyd yn dilyn colledion gan yswirwyr yn fyd-eang o ganlyniad i hawliadau sy'n gysylltiedig â'r tywydd (ac felly ni ddylid eu hystyried yn benodol i Ynys Môn

·         Mae nifer yr hawliadau am anaf personol a gyflwynir gan weithwyr yn parhau'n isel ar ddwy neu dair y flwyddyn dros y cyfnod o 5 mlynedd.

·         Mae nifer yr hawliadau atebolrwydd cyhoeddus wedi parhau i ostwng dros y pum mlynedd diwethaf; tra bo cyfran uchel o’r hawliadau hyn yn gysylltiedig ag anaf i ddefnyddiwr y ffordd neu ddifrod i gerbydau eraill ar y briffordd yn hanesyddol maent yn parhau'n isel gyda dim ond 10 hawliad o'r fath wedi'u gwneud ers mis Ebrill 2021. Er mai ychydig iawn o hawliadau a wnaed yn erbyn unrhyw wasanaeth arall, mae rhai hawliadau gyda swm wrth gefn uchel. Mae'r rhain yn cynnwys hawliadau sy'n ymwneud ag amddiffyn plant, a hawliad sy’n ymwneud â'r adain forwrol, sydd, gyda'i gilydd, â swm wrth gefn gwerth tua £325k.

·         Mae nifer yr hawliadau modur wedi gostwng dros y ddwy flynedd ddiwethaf a gellir priodoli hyn i lai o swyddogion yn teithio yn ystod y pandemig. Fodd bynnag, mae cost hawliadau modur wedi cynyddu oherwydd bod cost partiau wedi cynyddu, bod cerbydau modern mwy soffistigedig, a chost llogi ceir wedi cynyddu.

·         Y tywydd yw'r prif reswm dros hawliadau am ddifrod i eiddo. Fe achosodd storm Ophelia, ac yn fwy diweddar storm Arwen, ddifrod i adeiladau’r Cyngor.

·         Yn gyffredinol, y duedd yw bod nifer yr hawliadau'n isel; fodd bynnag, mae hawliadau'n mynd yn ddrutach.

 

Cynghorodd y Rheolwr Yswiriant a Risg wrth edrych ymlaen er bod y pandemig wedi cael effaith gadarnhaol ar niferoedd hawliadau gallai ffyrdd newydd o weithio a threfniadau gweithio gartref achosi math newydd o hawliadau nad ydym wedi'u gweld o'r blaen. Mae gweithgareddau twyllodrus wedi cynyddu yn ystod y pandemig ac mae'n bosib y bydd hawliadau ffug neu sydd wedi eu gorliwio yn dal i gael eu cyflwyno yn dilyn y pandemig. Mae digwyddiadau yn gysylltiedig â’r hinsawdd yn cynyddu ac maent yn cael effaith ddifrifol ar unigolion a chymunedau ac ar yswirwyr o ran costau setlo'r hawliadau. Yn gyffredinol, mae cost hawliadau'n cynyddu ac yn achos hawliadau nad ydynt yn ymwneud ag anafiadau mae hynny oherwydd bod cost partiau a deunyddiau yn cynyddu ac yn achos hawliadau am anafiadau mae hynny oherwydd cynnydd mewn costau gofal wrth i bobl fyw'n hirach a’r triniaethau wella. Bydd yr holl ffactorau hyn yn effeithio ar faint mae yswirwyr yn talu wrth setlo hawliadau a gyflwynir iddynt ac mae'n siŵr y bydd hyn yn arwain at yswirwyr yn codi premiymau uwch ac felly mae’n bwysig bod y Cyngor yn parhau i roi mesurau ar waith i reoli a lleihau’r risgiau. Gall rheoli risgiau'n dda hefyd ganiatáu i'r Cyngor dderbyn mwy o risg drwy gynyddu gormodedd a didynnu, gan gadw cydbwysedd rhwng y risgiau rydym yn eu hyswirio a chost y premiwm.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor ynglŷn ag adolygu lefelau gormodedd cynghorodd y Rheolwr Risg ac Yswiriant bod gan y Cyngor gytundeb tymor hir gyda’i yswiriwr presennol a bod y broses adnewyddu flynyddol  yn cynnwys gwirio a yw’r symiau gormodedd yn briodol wrth symud ymlaen. Os credir bod angen newid y symiau yna mae modd gofyn am ddyfynbris arall neu efallai y bydd yr yswiriwr yn amrywio’r telerau yn cynnwys lefelau gormodedd a/neu gapio. Cafodd y contract ei ail dendro 5 mlynedd yn ôl yn seiliedig ar broses dendro gystadleuol yn unol â’r fframwaith caffael cenedlaethol.

 

Penderfynwyd derbyn a nodi cynnwys yr Adroddiad Yswiriant ar gyfer 2020/21.

 

Dogfennau ategol: