Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Archwilio a Risg i’w ystyried gan y Pwyllgor a oedd yn eu diweddaru ynglŷn â’r sefyllfa o ran rheoli risg. Roedd yr adroddiad yn rhoi trosolwg o’r datblygiadau rheoli risg ers cyflwyno’r adroddiad diwethaf ar y gofrestr risgiau corfforaethol i’r Pwyllgor ym mis Rhagfyr, 2020 ac roedd yn cynnwys y gofrestr risgiau strategol newydd yn Atodiad C.
Adroddodd y Rheolwr Risg ac Yswiriant bod yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth (UDA) wedi adolygu’r gofrestr yn ei chyfanrwydd ers i’r gofrestr risg gorfforaethol gael ei chyflwyno i’r Pwyllgor diwethaf a bod yr UDA wedi penderfynu canolbwyntio ar y risgiau hynny a fyddai’n arwain at gyflawni blaenoriaethau strategol, ac felly mae cofrestr risgiau strategol newydd, sy’n cyd-fynd â’r blaenoriaethau corfforaethol, wedi cael ei datblygu yn lle’r gofrestr risgiau corfforaethol. Mae’r matrics asesu risg (ynghlwm yn atodiad B) hefyd wedi cael ei adolygu ac mae’r disgrifyddion “tebygolrwydd” wedi cael eu diwygio yn ogystal â rhai o’r disgrifyddion “effaith”. Mae’r gofrestr risgiau strategol newydd yn cynnwys 14 risg sef hanner y risgiau ar y gofrestr risgiau corfforaethol ac mae pob risg yn cael ei harwain gan aelod penodol o’r UDA. Cynhaliwyd adolygiad manwl o eiriad, sgoriau/blaenoriaethau, mesurau rheoli a chamau gweithredu pellach gyda pherchennog pob risg newydd er mwyn eu lliniaru; yna fe wnaeth yr UDA adolygu’r gofrestr risgiau strategol yn ei chyfanrwydd.
Bydd yr UDA yn parhau i adolygu nifer fach o risgiau strategol yn fisol a bydd yn adolygu’r gofrestr risgiau strategol yn ei chyfanrwydd pob dwy flynedd. Mae’r risgiau hynny sydd yn gyffredin mewn sawl maes gwasanaeth (e.e. mewn perthynas â chydweithio a gweithio mewn partneriaeth, contractau iechyd a diogelwch, absenoldebau salwch a thwyll) wedi cael eu tynnu oddi ar y rhestr ac os nad ydi hynny wedi digwydd yn barod byddant yn cael eu cynnwys at gofrestr risgiau gwasanaethau unigol. Mae’r UDA yn cydnabod fodd bynnag y gall y risgiau hyn gyda’i gilydd cael effaith sylweddol ar y Cyngor cyfan ac felly bydd yn monitro’r risgiau hyn fel rhan o’i drefniadau monitro perfformiad arferol.
Mae’r UDA wedi nodi pum risg gweddilliol coch/critigol i gyflawni amcanion corfforaethol a strategol y Cyngor ac mae’r rhain yn ymwneud â rheoli’r gweithlu, parhad TG, diogelwch seiber, moderneiddio ysgolion ac addasrwydd parhaus asedau ffisegol.
Roedd y Pwyllgor yn croesawu’r gofrestr risgiau strategol sydd yn symlach ac yn fwy trefnus na’r gofrestr risgiau corfforaethol flaenorol ac yn haws i’w deall o ran y risgiau mwyaf sylweddol y mae’r Cyngor yn eu hwynebu. Trafodwyd effeithiolrwydd y mesurau rheoli o ran lleihau’r tebygolrwydd ac effaith yn ogystal â digonolrwydd y mesurau rheoli mewn perthynas â moderneiddio ysgolion gan nodi nad oes ffordd benodol o fesur y cyflenwad a’r galw mewn perthynas â lleoedd ysgolion. Cynghorwyd y Pwyllgor bod y mesurau rheoli a amlinellwyd ar gyfer moderneiddio ysgolion yn ddigonol i gwrdd â’r risg a nodwyd ar yr adeg hon yn ôl perchennog y risg.
Penderfynwyd nodi’r trefniadau a wnaed mewn perthynas â rheoli risg ac yn benodol y gofrestr risgiau strategol ac i gadarnhau y gall y Pwyllgor fod yn sicr yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth wedi cydnabod a’i fod yn rheoli’r risgiau i gyflawni blaenoriaethau’r Cyngor.