Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini i'r Pwyllgor ei ystyried. Roedd yr adroddiad yn amlinellu cyd-destun y broses o osod Cyllideb Gyfalaf 2022/23 ynghyd â'r prif faterion a’r cwestiynau ar gyfer y Pwyllgor Sgriwtini wrth werthuso cynigion cychwynnol cyllideb gyfalaf y Pwyllgor Gwaith. Roedd y dogfennau canlynol wedi'u hatodi i'r adroddiad –
4.1 Adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 i'w gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith ar 24 Ionawr, 2022 ar y cynigion cychwynnol ar gyfer cyllideb gyfalaf 2022/23 yn seiliedig ar egwyddorion y strategaeth gyfalaf, gan gynnwys sut y bydd y rhaglen gyfalaf yn cael ei chyllido ac unrhyw effaith ddilynol ar y balans cyffredinol a'r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd.
Wrth gyflwyno'r adroddiad a'r rhaglen gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2022/23 o £35.961m dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, y cynigir defnyddio swm o £1.681m o Falansau Cyffredinol i wneud iawn am ddiffyg mewn cyllid cyfalaf yn 2022/23 gan fod y Grant Cyfalaf Cyffredinol gan Lywodraeth Cymru wedi gostwng £677k ar gyfer y flwyddyn nesaf o'i gymharu â'r cyllid a gafwyd yn 2021/22.
Aeth Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ati i arwain y Pwyllgor yn fanylach drwy wahanol elfennau'r Rhaglen Gyfalaf gan gyfeirio at y canlynol –
· Egwyddorion y strategaeth gyfalaf sy'n helpu i bennu rhaglen gyfalaf y Cyngor ac a ddefnyddir yn sail i asesu ceisiadau newydd.
· Yr arian a ragwelir sydd ar gael i ariannu'r rhaglen gyfalaf ar gyfer 2022/23 yn unol â Thabl 1 yr adroddiad (£35.961m i gynnwys £1.681m o Falansau Cyffredinol) sy'n tynnu sylw at y ffaith na fu fawr o gynnydd yn y dyraniad cyfalaf cyffredinol a gafwyd gan Lywodraeth Cymru ers nifer o flynyddoedd a fydd, os bydd yn parhau ar ei lefel bresennol, yn cyfyngu ar yr hyn y gellir ei wneud i adnewyddu ac amnewid asedau presennol. Cynigir y dylid dyrannu'r symiau a nodir yn adran 4.2 o'r adroddiad ar gyfer y gwaith hwn yn 2022/23.
· Bydd cynlluniau gwerth £1.322m na chânt eu cwblhau yn 2021/22 oherwydd nifer o resymau yn cael eu cario drosodd i 2022/23.
· Prosiectau cyfalaf untro a argymhellwyd i’w hariannu yn 2022/23 yn unol â Thabl 3 yr adroddiad (£1.432m)
· Prosiectau i'w hariannu o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd, arian wrth gefn gan wasanaethau a benthyca heb gymorth yn unol â Thabl 4 yr adroddiad (£783k)
· Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif y mae'r Cyngor wedi ymrwymo iddi oherwydd y swm sylweddol o gyllid gan Lywodraeth Cymru y bydd y cynlluniau'n ei ddenu a'r angen i foderneiddio'r ystâd ysgolion bresennol. Mae Rhaglen Gyfalaf 2022/23 yn cynnwys darpariaeth ar gyfer cwblhau'r prosiect Band A terfynol (Ysgol Corn Hir newydd) a chychwyn prosiectau Band B (estyniad i Ysgol Y Graig) am gost o £8.598m (net o unrhyw dderbyniadau cyfalaf) yn 2022/23, y bydd £2.169m ohono yn cynnwys grant Llywodraeth Cymru, £1.168m o fenthyca â chymorth a £5.61m o fenthyca heb gymorth.
· Y Cyfrif Refeniw Tai sydd wedi'i neilltuo i ariannu costau sy'n gysylltiedig â stoc tai'r Cyngor. Yn y rhaglen arfaethedig ar gyfer 2022/23 bydd £9.55m yn cael ei fuddsoddi mewn stoc sy'n bodoli eisoes a bydd £9.229m arall yn cael ei wario ar ddatblygu eiddo newydd ac i brynu hen eiddo hawl i brynu. Bydd y rhaglen yn cael ei hariannu o Gronfa'r CRT (£3.080m); y gwarged refeniw a gynhyrchwyd yn 2022/23 (£7.019m); Grantiau Llywodraeth Cymru (£2.685m) a benthyca newydd heb gymorth (£6m)
Diolchodd y Pwyllgor i'r Aelod Portffolio Cyllid a'r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) /Swyddog Adran 151 am yr adroddiad a'r cyflwyniad; ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y Pwyllgor ar y rhaglen gyfalaf arfaethedig.
Ar ôl ystyried yr wybodaeth a gyflwynwyd yn ysgrifenedig ac ar lafar yn ystod y cyfarfod penderfynwyd argymell y Gyllideb Gyfalaf ddrafft arfaethedig ar gyfer 2022/23 i’r Pwyllgor Gwaith fel y’i cyflwynwyd.
Dogfennau ategol: