Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd ac Ynys Môn

Cyflwyno adroddiad gan yr Uwch Swyddog Gweithredol Diogelwch Cymunedol ar gyfer Gwynedd a Ynys Môn.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – Adroddiad Blynyddol y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd ac Ynys Môn.

 

Dywedodd Deilydd y Portffolio – Tai a Chefnogi Cymunedau ei fod yn falch bod presenoldeb yn y cyfarfod wedi gwella ers cynnal cyfarfodydd rhithwir a bod trafodaethau manwl wedi'u cynnal o fewn y Pwyllgorau. 

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd fod dyletswydd statudol ar Awdurdodau Lleol yn unol â Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998, a diwygiadau dilynol yn sgil Deddf yr Heddlu a Chyfiawnder Troseddol 2002 a 2006, i weithio mewn partneriaeth â'r Heddlu, y Gwasanaeth Iechyd, y Gwasanaeth Prawf a'r Gwasanaeth Tân ac Achub, i fynd i'r afael â'r agenda diogelwch cymunedol lleol. 

 

Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol bellach wedi bod yn eu lle ers 22 mlynedd, yn fwyaf diweddar, fel partneriaeth sirol ar y cyd rhwng Gwynedd ac Ynys Môn.  Nododd mai dyma’r meysydd cyfrifoldeb o hyd:-

 

  • Trosedd ac Anhrefn;
  • Camddefnyddio Sylweddau;
  • Lleihau aildroseddu;
  • Cynnal asesiad strategol i nodi blaenoriaethau (gwaith sydd bellach yn cael ei wneud yn rhanbarthol);
  • Rhoi cynlluniau ar waith i ddelio â'r blaenoriaethau hyn (mae cynllun bellach yn bodoli ar sail ranbarthol a lleol)

 

Mae gweithio rhwng partneriaid yn hanfodol i ddiogelwch cymunedol ac mae wedi galluogi'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol i rannu data ac arfer da.   Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr ymhellach fod y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn parhau i ganolbwyntio ar Gam-drin Domestig. Cytunodd partneriaid, yn ogystal â'r cyfarfodydd rhithwir misol MARACs (Cynhadledd Asesu Risg Amlasiantaethol) y byddai cyfarfodydd rhithwir wythnosol hefyd yn cael eu cynnal, er mwyn gallu delio â'r ffactorau risg uwch yn gyflym.  Mae'r Bartneriaeth hefyd wedi cyfrannu at y Cynllun Atal sy'n gynllun i atal pobl rhag cael eu denu i derfysgaeth.  Lansiwyd Strategaeth Lleihau Niwed Alcohol Gogledd Cymru ym mis Mawrth 2020 ac mae'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol wedi cefnogi'r gwaith o gyflawni'r strategaeth yn Ynys Môn drwy fynychu'r cyfarfodydd rhanbarthol a diweddaru blaenoriaethau a chamau gweithredu perthnasol wrth iddynt godi.   Mae Seiberdroseddu hefyd wedi cynyddu yn sgil gweithgareddau rhithwir a darparwyd hyfforddiant gan Heddlu Gogledd Cymru gan fod twyll wedi'i nodi gan y Bartneriaeth.

 

Dywedodd Ms Daron Owens, y Swyddog Gweithredu a Phrosiectau fod y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol wedi wynebu llawer o newidiadau dros y blynyddoedd a rhai o'r prif newidiadau yw colli grantiau lleol a cholli cydlynwyr lleol; fodd bynnag, mae'r Bartneriaeth yn canolbwyntio ar gynnal aelodaeth agos a phwrpasol o'r grwpiau rhanbarthol, ac y mae'n hyderus fod anghenion lleol yn rhan annatod o'r holl gynlluniau a gweithgarwch rhanbarthol.  Dywedodd hefyd fod y Bartneriaeth yn gweithio ar sail Cynllun Blynyddol a bod saith blaenoriaeth wedi'u nodi gan Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol. Nodir y rhain yn yr adroddiad.  Mae'r blaenoriaethau hyn yn seiliedig ar asesiad strategol rhanbarthol, Cynllun Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a'r Cynllun Cymunedau Diogelach rhanbarthol.  Mae'r Heddlu'n edrych ar ffigurau troseddu yn gyson, ac yn adolygu'r holl newidiadau ar sail ranbarthol a lleol.  Yna bydd ardaloedd problemus yn cael eu hadolygu gyda chynlluniau Plismona yn cael eu rhoi ar waith i fynd i'r afael â'r materion.  Mae'r Bartneriaeth yn derbyn data ar lefelau troseddu bob chwarter.  Cafodd y data troseddau diweddaraf ar gyfer Ynys Môn ar gyfer Mis Ionawr 2022 ei gynnwys yn yr adroddiad i'r Pwyllgor.  Yn ystod rhan gyntaf y llynedd, oherwydd sefyllfa'r cyfyngiadau symud, bu gostyngiad yn nifer yr holl droseddau a adroddwyd i'r Heddlu.  Fodd bynnag, mae ffigurau Cam-drin Domestig wedi codi ar draws ardal Heddlu Gogledd Cymru ac ystyrir yr achosion hyn drwy MARAC fel y nodwyd yn flaenorol gan y Dirprwy Brif Weithredwr.  Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Ynys Môn hefyd wedi cynyddu yn hanner cyntaf 2021/22, a hefyd ar draws Gogledd Cymru. Mae cynnydd drwy’r wlad mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig â phobl ifanc ers diwedd cyfnod y cyfyngiadau symud a chynnydd tebyg wedi'i nodi yn y grwpiau gorchwyl aml-asiantaeth ymddygiad gwrthgymdeithasol misol ledled Gogledd Cymru.   Dywedodd y Swyddog Gweithredu a Phrosiectau ymhellach fod rhai o'r gweithgareddau yng Nghynllun 2020/21 heb eu cyflawni oherwydd y pandemig a bod hyn wedi arwain at fethu â chyflawni’n llawn 5 o'r 28 o gamau gweithredu ar ddiwedd y flwyddyn. 

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a gwnaeth y prif bwyntiau canlynol:-

 

·           Codwyd cwestiynau ynghylch a yw colli grantiau wedi effeithio ar effeithlonrwydd y Bwrdd Diogelwch Cymunedol.  Mewn ymateb, dywedodd y Swyddog Gweithredu a Phrosiectau nad yw colli grantiau wedi cael effaith sylweddol ar weithgareddau'r Bwrdd gan fod y dyraniad ariannol bellach wedi'i roi'n rhanbarthol;

·           Cyfeiriwyd at y ffaith bod y Bartneriaeth yn gweithio ar sail Cynllun Blynyddol ac mae ganddi saith blaenoriaeth a nodwyd gan Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol.  Codwyd y cwestiwn a yw'r Bwrdd yn adolygu ei flaenoriaethau ac yn enwedig yn ystod y pandemig lle bu cynnydd mewn Cam-drin Domestig.  Mewn ymateb, dywedodd y Swyddog Gweithredu a Phrosiectau fod blaenoriaethau'r Bwrdd yn cael eu llywio gan yr Adolygiad Strategol gan Heddlu Gogledd Cymru a Bwrdd Rhanbarthol Gogledd Cymru Mwy Diogel, PCB a'r Cynllun Trechu Troseddu gan Lywodraeth Cymru;

·           Codwyd cwestiynau ynghylch i ba raddau y mae'r sefydliadau partner o fewn y Bwrdd yn cytuno o ran y blaenoriaethau sy'n seiliedig ar y broses asesu anghenion lleol ac a oes materion eraill y mae angen eu blaenoriaethu.  Mewn ymateb, dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr ei fod yn credu bod y sefydliadau partner yn cytuno â'r blaenoriaethau a nodwyd gan fod y data strategol yn cael ei lywio gan y blaenoriaethau hyn.  Nododd fod sefydliadau partner yn canolbwyntio ar weithio mewn partneriaeth ac nad oes unrhyw newidiadau yn digwydd i'r blaenoriaethau yn ystod y flwyddyn gyfredol.  Fodd bynnag, gall y ffocws a'r gweithgareddau newid os yw data'n dangos yr angen i flaenoriaethu cynnydd penodol mewn trosedd benodol mewn cymunedau;

·           Codwyd cwestiynau ynglŷn â'r sefyllfa o ran problemau llinellau sirol yn y Sir mewn cymunedau lleol. Mewn ymateb, dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod Heddlu Gogledd Cymru yn gweithio i leihau problemau’n ymwneud â llinellau Sirol a bu cryn lwyddiant yn ddiweddar i ddelio â phroblem masnachu cyffuriau.  Nododd, yng nghyfarfod diweddar y Bwrdd Diogelwch Cymunedol, adroddwyd nad oes unrhyw ymgyrch masnachu mewn cyffuriau ar yr Ynys ar hyn o bryd sydd i'w chroesawu. 

 

Mae'r Dirprwy Brif Weithredwr yn dymuno nodi, er bod y ffigurau data yn yr adroddiad yn goch ar hyn o bryd, rhaid sylweddoli fodd bynnag, bod angen cymharu'r data mewn perthynas â ffigurau data 2019 'fesul blwyddyn' oherwydd y cyfyngiadau symud yn sgil y pandemig a bydd pobl yn dychwelyd i'w patrwm arferol o weithio a chymdeithasu. Cyfeiriodd hefyd y dylai ffigurau data gael eu gwerthuso yn ôl ffigurau poblogaeth yn yr haf a'r gaeaf ar yr Ynys oherwydd y mewnlifiad o ymwelwyr. 

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad a chefnogi blaenoriaethau a chyfeiriad gwaith y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn y dyfodol.

 

GWEITHREDU: Fel y nodwyd uchod.

 

 

Dogfennau ategol: