Eitem Rhaglen

I dderbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd, Arweinydd y Cyngor neu’r Prif Weithredwr

Cofnodion:

 Gwnaeth y Cadeirydd y Cyhoeddiadau a ganlyn:-

·                Llongyfarch criw bad achub RNLI Trearddur oedd wedi eu cydnabod am eu dewrder. Roedd criw gwirfoddol cwch gwyllt Atlantic 85 Dosbarth B, yn cynnwys y llywiwr, Lee Duncan, Dafydd Griffiths, Leigh McCann a Michael Doran, wedi achub syrffiwr benywaidd a fu mewn helynt yn ystod gwyntoedd cryfion yn ddiweddar. Derbyniodd Mr Duncan Fedal Arian er Dewrder i gydnabod ei arweinyddiaeth, ei forwriaeth ac am y ffordd ragorol a feddai wrth drin cychod. Derbyniodd gweddill y criw Fedalau Efydd i gydnabod eu dewrder yn ystod y gwaith achub. Canmolodd y Prif Weithredwr hefyd holl dîm Trearddur a fu’n rhan o’r gwaith achub.

·                Llongyfarch Ysgol Esceifiog oedd wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Dewi Sant am y gefnogaeth a roddwyd gan staff i deulu yn yr ysgol yn dilyn y diagnosis terfynol a roddwyd i Ania, un o ddisgyblion yr ysgol ym mis Hydref 2020. Er gwaethaf heriau’r pandemig Covid, cefnogodd yr ysgol Ania a’i chwaer 7 oed a gwnaethant bopeth o fewn eu gallu i sicrhau fod Ania yn cael ei chefnogi yn yr ysgol. Gwnaethant, hefyd, bopeth posibl i gefnogi’r plant eraill yr effeithiodd salwch eu ffrind arnynt, gan helpu i wneud atgofion a fyddai’n aros gyda chwaer a ffrindiau Ania am byth. Collodd Ania ei brwydr ym mis Mehefin 2021 ac, er ei bod hi bron yn wyliau’r haf, bu staff yr ysgol yn gefnogol iawn i’r ysgol a’r teulu drwy weithio gydag asiantaethau allanol i gynnig cefnogaeth i chwaer a ffrindiau Ania a chodi arian at elusennau oedd yn parhau i gefnogi’r teulu a’r ysgol.

 

*          *          *         *          *

 

Dymunodd y Cadeirydd yn dda i'r Prif Weithredwr, Mrs Annwen Morgan ar ei hymddeoliad ar ôl 39 mlynedd o wasanaeth i'r Awdurdod. Dywedodd iddi ddechrau ei gyrfa gyda’r Cyngor yn Ysgol Uwchradd Bodedern a symud ymlaen i fod yn Bennaeth yn 2007. Daeth Mrs Morgan yn Ddirprwy Brif Weithredwr y Cyngor yn 2016 ac yna symud ymlaen i fod yn Brif Weithredwr yn 2019. Treuliodd y rhan fwyaf o’i hamser yn Brif Weithredwr yn ystod y cyfnod pandemig ac, er gwaethaf yr holl ansicrwydd a’r heriau niferus, roedd Mrs Morgan wedi dangos arweinyddiaeth amlwg ac ymrwymiad i ddiogelu trigolion Ynys Môn. Dymunodd y Cadeirydd iechyd da a hapusrwydd i Mrs Morgan yn ei hymddeoliad.

Dymunodd Arweinydd y Cyngor ddiolch i Mrs Annwen Morgan am y gwasanaeth yr oedd wedi’i roi i’r Cyngor Sir ac am ei hymrwymiad a’i gwaith caled yn Brif Weithredwr ac yn enwedig yn ystod cyfnod anodd y pandemig. Dywedodd mai Mrs Morgan oedd y ferch gyntaf i gael ei phenodi yn Brif Weithredwr y Cyngor hwn a'i bod wedi bod yn fraint gweithio gyda hi yn Arweinydd benywaidd y Cyngor.

 

Roedd aelodau'r Cyngor hefyd yn dymuno diolch i Mrs Morgan a dymuno'n dda iddi ar ei hymddeoliad.

 

Dymunodd y Cadeirydd y gorau i Mr Dylan Williams oedd wedi'i benodi'n Brif Weithredwr.

 

*          *          *         *          *

 

Dywedodd y Cadeirydd mai hwn fyddai’r cyfarfod olaf o’r Cyngor Sir i'r weinyddiaeth bresennol. Roedd yn dymuno diolch i'r Aelodau Etholedig a'r Swyddogion am eu cydweithrediad a'u gwaith caled dros y pum mlynedd diwethaf. Dymunodd y gorau i'r holl Aelodau Etholedig nad oeddynt yn sefyll yn yr etholiad a hefyd i’r rhai oedd.

 

*          *          *          *          *

Cydymdeimlwydâ chyn-Aelod Ward Seiriol, Mr Alwyn Rowlands a’i deulu, ar golli eu merch yn ddiweddar.

Cydymdeimlwydag unrhyw Aelod o'r Cyngor neu Staff oedd wedi cael profedigaeth.

Safoddyr Aelodau a'r Swyddogion yn dawel yn arwydd o gydymdeimlad.