Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2020/21 Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid yr adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn cynnwys Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn ar gyfer y flwyddyn 2020/21 fel y nodir yn Atodiad A ac adroddodd ar sut y defnyddiwyd y Gronfa yn ystod 2020/21.

 

Ym mis Hydref, 2019, penderfynodd y Pwyllgor Gwaith ddyrannu swm untro o £55,000 i bob ysgol uwchradd i ariannu costau Anogwyr Dysgu ym mhob ysgol. Byddai'r Anogwyr Dysgu yn cefnogi uwch ddisgyblion sy'n dilyn cyrsiau TGAU a Lefel A. Mater i bob ysgol fyddai penderfynu dros ba gyfnod y byddai'r cyllid yn cael ei ddefnyddio. Roedd hyn i'w ariannu o Gronfa Ymddiriedolaeth Addysg Bellach 1/3 Ynys Môn a'i diben yw rhoi cymorth ariannol i uwch ddisgyblion y 5 ysgol uwchradd i gwblhau eu cwrs. Nodir manylion y gwariant gan bob ysgol yn y tabl ym mharagraff 5.2 o'r adroddiad.  Penderfynodd y Pwyllgor Gwaith hefyd ddyrannu £8,000 ychwanegol fesul ysgol uwchradd i ddarparu grantiau i gynorthwyo myfyrwyr sydd o dan anfantais ariannol i gael lleoedd mewn colegau a phrifysgolion a/neu i helpu gyda phrynu llyfrau ac offer sydd eu hangen i ddilyn cyrsiau yn y flwyddyn gyntaf. Roedd cyfanswm y gost o £40,000 i'w ariannu o Gronfa Gyfyngedig 2/3 Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn a oedd â balans o £151, 216 ar 1 Ebrill, 2020. Byddai'r ysgolion eu hunain yn gweinyddu’r gwaith o ddyfarnu'r grantiau; fodd bynnag, oherwydd y pandemig, nid oedd ysgolion mewn sefyllfa i wahodd ceisiadau yn ystod blwyddyn ysgol 2020/21 ac o ganlyniad ni ddyfarnwyd unrhyw grantiau.

 

Yn ystod 2020/21 dyfarnwyd yr ychydig ysgoloriaethau newydd a gynigir drwy'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol gyda phedwar cyn-ddisgybl yr un yn derbyn £500. Rhoddwyd grant o £7,452 hefyd i gyn-ddisgybl er mwyn gallu cwblhau ei (h)addysg uwch. Mae'r balans o £172,729 ar gael i'w ddosbarthu naill ai drwy'r ysgolion neu drwy'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 at gyfansoddiad Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn sy'n cynnwys tair cronfa – Cronfa Waddol David Hughes, Cronfa Addysg Bellach Ynys Môn 1/3 a Chronfa Addysg Bellach Ynys Môn 2/3 y mae'r ddwy ohonynt yn cynnig budd addysgol penodol. Telir chwarter unrhyw incwm dros ben net ar y Gronfa Waddol i Elusen David Hughes ar gyfer y Tlodion sydd heb gysylltiad â'r Cyngor ac yna trosglwyddir gweddill yr incwm i Gronfa Addysg Bellach Ynys Môn (a rennir i’r ddwy gronfa uchod). Gwerth Ystâd Elusennol David Hughes (Cronfa Waddol) ar 31 Mawrth, 2021 oedd £4.276m sy'n cynnwys gwerth eiddo, buddsoddiadau ac asedau cyfredol net. Mae hyn yn gynnydd o £26,194 ar y gwerth ar 21 Mawrth, 2020. Y Gronfa Ymddiriedolaeth Addysg Bellach ar 31 Mawrth, 2021 oedd £339,347 gyda gwerth y Gronfa 1/3 yn £166,618 a gwerth y Gronfa 2/3 yn £172,729. Defnyddiwyd £108, 173 at ddibenion elusennol.

 

Croesawodd y Cynghorydd R. Meirion Jones, Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Ieuenctid a Diwylliant yr adroddiad a'r defnydd cadarnhaol o Gronfa'r Ymddiriedolaeth er budd myfyrwyr Ynys Môn sy’n cael ei gydnabod. Diolchodd i bawb a fu'n rhan o'r dasg o adolygu ac ailstrwythuro Cronfa'r Ymddiriedolaeth a oedd wedi galluogi'r Gronfa i gael ei defnyddio'n effeithiol at y dibenion elusennol y'i bwriadwyd ar eu cyfer, gan ddweud ei fod yn ystyried hyn yn un o lwyddiannau'r Weinyddiaeth bresennol.

 

Penderfynwyd cymeradwyo Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn ar gyfer y flwyddyn 2020/21 fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad.

 

Dogfennau ategol: