Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Alun Mummery, Aelod Portffolio Tai a Chefnogi Cymunedau yr adroddiad gan Bennaeth Gwasanaethau Tai yn gofyn i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo’r cynnydd mewn rhent a thaliadau gwasanaeth ar gyfer 2022/23.
Wrth gydnabod ei bod yn anodd cynnig cynnydd mewn rhent yn yr hinsawdd economaidd bresennol, tynnodd yr Aelod Portffolio sylw at y ffaith ei bod yn ofynnol i bob awdurdod lleol, yn unol â chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru, weithredu'r Polisi Rhenti. Byddai gwrthod y polisi hwn yn y pen draw yn golygu colli incwm i'r Awdurdod a byddai’n anochel yn effeithio ar y gwasanaethau a ddarperir. Gallai gwrthod y polisi hefyd beryglu'r Lwfans Atgyweiriadau Mawr blynyddol o £2.66m gan Lywodraeth Cymru oherwydd y gellid ystyried nad ydym yn gwneud y mwyaf o'n cyfleoedd i gynhyrchu incwm.
Cadarnhaodd Pennaeth Gwasanaethau Tai y derbyniwyd llythyr gan Lywodraeth Cymru yn
cadarnhau, gan fod mynegai prisiau defnyddwyr (MPD) am fis Medi 2021 yn syrthio tu allan i’r ystod o 0% i 3%, y Gweinidog sy’n gyfrifol am Dai fydd yn penderfynu ar y newid priodol ar gyfer Rhenti Tai Cymdeithasol ar gyfer 2022/23. Mae’r Gweinidog wedi penderfynu y dylai pob Awdurdod Lleol ddefnyddio’r mynegai prisiau defnyddwyr (MPD) yn unig gyda gwerth MDP ym mis Medi 2021 yn 3.1%. Unwaith eto, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu atal y Bandiau Rhent Targed ar gyfer 2022/23 a byddai'r cynnydd cyffredinol o 3.1% yn cynhyrchu tua £574,000 o incwm rhent ychwanegol i'r Awdurdod. Eglurodd Pennaeth Gwasanaethau Tai sut y byddai'r cynnydd blynyddol mewn rhent yn cael ei gymhwyso i sicrhau tegwch a chydraddoldeb ymhlith tenantiaid heb fynd yn uwch na’r trothwy cynnydd blynyddol wrth barhau i weithio tuag at gyflawni cydgyfeiriant rhent gyda darparwyr
tai cymdeithasol eraill fel yr amlinellir o dan baragraff 2.4 o'r adroddiad. Ar gyfer tenantiaid a allai wynebu caledi ariannol o ganlyniad i'r cynnydd yn eu costau rhent wythnosol, mae Swyddogion Cynhwysiant Ariannol y Gwasanaeth ar gael i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth. Dylid nodi hefyd na fydd y 2,765 o denantiaid Cyngor sydd ar hyn o bryd yn derbyn Budd-dal Tai llawn neu ran ohono neu Gredyd Cynhwysol yn wynebu unrhyw galedi ychwanegol o ganlyniad i'r cynnydd arfaethedig mewn rhent a thaliadau gwasanaeth.
Mewn ymateb i gwestiwn am oblygiadau peidio â gweithredu'r cynnydd arfaethedig mewn rhent, dywedodd Pennaeth Gwasanaethau Tai fod lefel y cynnydd mewn rhent yn cael ei ddefnyddio fel y model sylfaenol ar gyfer y Cynllun Busnes Tai. Os na ddilynir y dull hwn, efallai y bydd angen dulliau eraill o ariannu'r cynllun busnes. Hefyd, disgwylir i'r Awdurdod gynnal ei stoc tai i Safon Tai Ansawdd Cymru (a gyflawnodd yn 2012) yn barhaus ac mae'n cael lwfans atgyweiriadau mawr gan Lywodraeth Cymru i helpu gyda'i dai cyngor. Gallai peidio â gweithredu'r cynnydd mewn rhent godi cwestiynau am angen yr Awdurdod am y lwfans ychwanegol hwn. Mae'r Awdurdod hefyd yn gweithio tuag at ddatgarboneiddio ei stoc tai erbyn 2030 sy'n golygu bod cynhyrchu incwm rhent ychwanegol yn bwysicach fyth.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y fformiwla cynyddu rhent yn yr un modd yn berthnasol i ddarparwyr tai cymdeithasol eraill ag y mae i awdurdodau lleol sydd â stoc tai ac y byddai peidio â gweithredu'r cynnydd mewn rhent felly yn ehangu'r bwlch rhwng lefelau rhent y Cyngor a rhai darparwyr tai cymdeithasol eraill ar Ynys Môn.
Penderfynwyd cymeradwyo'r canlynol –
· Cynnydd rhent yn unol â pholisi rhent Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar gasglu dros 51 wythnos.
· Cynnydd o 2.25% + £2.00 yr wythnos yn yr holl renti sydd islaw’r bandiau targed er mwyn parhau i weithio tuag at gyflawni’r rhent targed.
· Cynnydd o 2.25% yn yr holl renti sydd ar darged.
· Bod y rhent ar gyfer y 226 eiddo sydd â rhent uwch na’r lefel targed yn aros fel y mae.
· Cynnydd o 27c yr wythnos ar gyfer rhenti pob garej.
Bod y taliadau gwasanaeth a nodir yn adran 3.3 o'r adroddiad yn cael eu codi ar bob tenant sy'n derbyn y gwasanaethau perthnasol.
Dogfennau ategol: