Eitem Rhaglen

Ymateb i'r Her Dai Lleol - Strategaeth Tai 2022-27

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai. 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Alun Mummery, Aelod Portffolio Tai a Chefnogi Cymunedau, yr adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Tai yn cynnwys y Strategaeth Dai ar gyfer 2022/27 fel rhan o ymateb y Gwasanaeth i'r her tai lleol.

 

Canmolodd Aelod Portffolio Tai a Chefnogi Cymunedau y ddogfen fel ymateb cadarnhaol i'r her tai lleol gan ganolbwyntio ar chwe thema allweddol a fydd yn sail ar gyfer nodi beth yw'r materion a sut y mae'r Strategaeth yn bwriadu mynd i'r afael â'r materion hynny yn y tymor byr o 1 i 2 flynedd a'r tymor canolig i'r tymor hir yn ystod oes y Strategaeth. Diolchodd i'r holl Swyddogion sydd wedi bod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu'r Strategaeth ar gyfer y gwaith a wnaed i baratoi dogfen ystyriol a phellgyrhaeddol. Roedd yn falch o ddweud ei bod wedi dal sylw'r wasg leol gan adlewyrchu'r mesurau sydd wedi ac sy'n cael eu cymryd gan yr Awdurdod i ymateb i'r her tai lleol.

 

Dywedodd Swyddog Comisiynu a Pholisi'r Strategaeth Dai fod y Strategaeth Dai wedi'i chyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith i'w chymeradwyo ar ôl cyfnod o ymgynghori a chydweithredu; mae'n cyflwyno chwe thema sy'n dangos yr hyn y mae'r Awdurdod yn mynd i'w wneud o dan bob thema a sut y bydd yn ei wneud. Bydd yr Awdurdod yn awr yn ystyried sut y bydd yn monitro’r gwaith o gyflawni amcanion y Strategaeth ac yn cynnwys ei bartneriaid yn y broses honno.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol safbwynt Sgriwtini ar y Strategaeth Dai o'i gyfarfod ar 24 Ionawr, 2022 a nododd fod y Pwyllgor wedi nodi bod materion ail gartrefi a phwysau'r farchnad dai wedi bod yn amlwg yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad. Roedd y Pwyllgor hefyd yn nodi bod grŵp gorchwyl a gorffen mewnol wedi'i sefydlu i ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar fater ail gartrefi, gan gydnabod bod angen ymyrraeth a chamau cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru i helpu i sicrhau bod cartrefi lleol ar gael i bobl leol. Cododd y Pwyllgor bryderon hefyd am effaith costau ynni cynyddol ar gartrefi wrth yrru mwy o bobl i dlodi tanwydd.  Ar ôl ystyried y dogfennau a gyflwynwyd a'r ymatebion i faterion a godwyd, cadarnhaodd y Cynghorydd Aled Morris Jones fod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn gefnogol i'r Strategaeth Dai ac wedi argymell ei chymeradwyo i'r Pwyllgor Gwaith.

 

Croesawodd y Pwyllgor Gwaith y strategaeth fel elfen allweddol o'r dull o ymateb i'r her tai lleol a mynd i'r afael â materion tai ar yr Ynys gan gydnabod hefyd y cyswllt â'r Cynllun Datblygu Lleol a'r Cynllun Siapio Lle a phwysigrwydd cael y tai priodol yn y llefydd priodol. Ystyrid hefyd bod y ffaith bod y strategaeth yn ystyried mewnbwn y cyhoedd ehangach yn bwysig a chydnabuwyd y broses ymgynghori. Dywedodd y Cadeirydd fod y Strategaeth yn y pen draw yn ymwneud â rhoi to uwch ben pennau pobl ac oherwydd ei bod yn bellgyrhaeddol, mae'r strategaeth yn ceisio helpu pobl mewn amryw o amgylchiadau yn ogystal â chydnabod bod pobl am fyw yn eu cymunedau ar Ynys Môn.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r Strategaeth Dai ar gyfer 2022 i 2027.

 

Dogfennau ategol: