Eitem Rhaglen

Effaith Rheoliadau ‘Public Service Vehicle Accessibility Regulations 2000’ ar werthu seddi gwag ar drafnidiaeth ysgol / coleg

Cyflwyno adroddiad ar y cyd gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc a’r Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd R.G.Parry, OBE, FRAgS, Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo yr adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo ynghylch effaith Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus 2000 (PSVAR) ar werthu seddi gwag ar drafnidiaeth i'r ysgol a'r coleg. Mae'r adroddiad yn nodi sut y mae'r Awdurdod yn bwriadu mynd i'r afael ag effaith y rheoliadau ar y cludiant a ddarperir o'r cartref i'r ysgol.

 

Mae Adran 40 o Ddeddf Gwahaniaethu (DDA) 1995 yn rhoi’r hawl i’r Ysgrifennydd Gwladol

wneud rheoliadau i sicrhau bod Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus yn hygyrch i bobl

anabl. Defnyddiodd y Llywodraeth Genedlaethol y pwerau hyn i sefydlu ‘Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaethau Cyhoeddus 2000 (PSVAR). O 1 Ionawr 2020 ymlaen mae PSVAR wedi bod yn berthnasol i fysys gyda mwy na 22 o seddi ac roedd angen i’r cerbyd fod yn hygyrch i bobl anabl. Fodd bynnag, roedd yr Adran Drafnidiaeth yn cynnig tystysgrif eithrio sy'n cynnig eithriad o’r rheoliadau hyn tan 1 Ionawr 2022. Mae'r rhan fwyaf o gytundebau presennol yr Awdurdod ar gyfer cludiant i'r ysgol gyda chwmnïau bysys lleol ac nid yw eu cerbydau'n bodloni'r manylebau newydd. Yn flaenorol, cymeradwyodd y Pwyllgor Gwaith y penderfyniad i beidio â chodi tâl ar ddisgyblion anstatudol Ynys Môn a myfyrwyr addysg bellach ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22 a olygai nad oedd y rheoliadau'n gymwys ar ôl 1 Ionawr, 2022; y cynnig yw parhau â'r trefniant hwn. Byddai ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr ddarparu cerbydau o'r fath yn rhoi'r dewis i ddisgyblion ag anableddau deithio ar fws, ond mewn sefyllfaoedd tebyg mae'r Awdurdod hwn ac awdurdodau eraill ledled Cymru darparu trafnidiaeth addas drwy dacsi beth bynnag a hynny o ddrws cartref y disgyblion i iard y sefydliad addysgol. Mae cynnig cludiant bws am ddim hefyd yn cyd-fynd â gweledigaeth trafnidiaeth y Llywodraeth - Y Llwybr Newydd - gan y bydd yn arwain at lai o gerbydau ar ffyrdd ac yn gwneud cludiant bws ysgol yn opsiwn mwy deniadol. Er y gallai peidio â chodi ffi olygu bod mwy o ddisgyblion am ddefnyddio'r ddarpariaeth, ychydig iawn o gynnydd a fu yn y galw ym mlwyddyn academaidd 2021/22 ac mae camau ar waith i reoli'r risg o gamddefnyddio.

 

Tynnodd y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) sylw at y ffaith y dylid dod i benderfyniad amserol er mwyn sicrhau bod manylebau tendro a chontractau yn gywir cyn gweithredu contractau bysys ysgol newydd ym mis Medi, 2022. Dywedodd ei bod yn amheus a fyddai gweithredwyr lleol yn y farchnad fysys ansicr bresennol yn gallu fforddio addasu eu cerbydau presennol neu brynu cerbydau newydd i ddiwallu anghenion disgyblion ag anableddau pe bai'r Awdurdod yn ei gwneud yn ofynnol iddynt wneud hynny gyda'r risg sy'n deillio o hynny na fydd yr Awdurdod o bosibl yn gallu cynnig cludiant i ddisgyblion. Ers penderfyniad y Pwyllgor Gwaith y llynedd i beidio â chodi ffi deithio ar gyfer disgyblion anstatudol Ynys Môn a disgyblion addysg bellach am y flwyddyn academaidd gyfredol, mae'r amcangyfrifon o'r hyn y byddai'n ei gostio i uwchraddio bws gweithredwr wedi codi o £5,000 i £7,000 y flwyddyn i oddeutu £10,000 i £15,000 y flwyddyn fesul contract sy'n golygu bod y gwahaniaeth rhwng y gost o ddarparu bysiau sy'n bodloni'r rheoliadau ar gyfer dros 50 o gontractau fesul contract yn golygu bod y gwahaniaeth rhwng y gost o ddarparu bysiau sy'n bodloni'r rheoliadau ar gyfer dros 50 o gontractau y flwyddyn a cholli incwm tocynnau yn sylweddol fel y gwelir yn yr adroddiad.

 

Bu i’r Cynghorydd Carwyn Jones a’r Cynghorydd Llinos Medi ddatgan diddordeb personol ar hyn o bryd ar y sail y gallai'r penderfyniad effeithio ar eu cartrefi eu hunain yn y flwyddyn ysgol nesaf a dywedodd na fyddent felly'n pleidleisio ar y mater.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) gan fod yr Awdurdod yn darparu cludiant am ddim i ddisgyblion ysgol uwchradd sy'n byw o leiaf 3 milltir o'u hysgol addas agosaf, bod y penderfyniad yn y mater hwn ond yn effeithio ar y disgyblion ysgol uwchradd hynny sy'n byw llai na 3 milltir o'u hysgol addas agosaf ac ar gyfer disgyblion ysgol gynradd,  llai na 2 filltir. Yn seiliedig ar y cyngor hwn, cadarnhaodd y Pennaeth Swyddogaeth Dros Dro (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro y gallai'r ddau Aelod bleidleisio ar y mater pe baent yn credu eu bod yn bodloni'r meini prawf. Dywedodd y Cynghorwyr Carwyn Jones a Llinos Medi ei bod yn well ganddynt beidio â phleidleisio.

 

Penderfynwyd na ddylai'r Awdurdod godi ffi deithio ar gyfer disgyblion anstatudol Ynys Môn a myfyrwyr addysg bellach -

 

·         tan ddechrau fis Hydref 2025 gydag opsiwn o ymestyn am hyd at ddwy flynedd arall (os bydd rheoliadau PSVAR yn newid yn ystod y cyfnod yma gellir ail edrych ar hyn)

·         Bod yr Awdurdod yn parhau gyda’r cynllun seddi gwag yn seiliedig ar gapasiti ar gyfer y blynyddoedd hynny. Ar gyfer y flwyddyn academaidd yma mae’r Awdurdod wedi cynnig y Cynllun Seddi Gwag ar fysys ysgol (dyma’r Cynllun, cyn y flwyddyn academaidd yma a oedd yn gwerthu seddi gwag ar drafnidiaeth ysgol i ddisgyblion anstatudol) am ddim.

 

(Ni phleidleisiodd y Cynghorwyr Carwyn Jones a Llinos Medi ar y mater)

 

 

Dogfennau ategol: