Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n Codi

7.1 - FPL/2021/136 – Wylfa, Ffordd Bangor, Benllech

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OKf7JUAT/fpl2021136?language=cy

 

7.2 – FPL/2021/302 - Bunwerth, Bae Trearddur, Caergybi

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000QbN4uUAF/fpl2021302?language=cy

 

7.3 – FPL/2021/304 - The Lodge, Capel Bach, Rhosybol

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000QbNP3UAN/fpl2021304?language=cy

 

Cofnodion:

7.1 FPL/2021/136 – Cais llawn ar gyfer addasu adeilad allanol yn llety gwyliau ynghyd a'i addasu ac ehangu yn Wylfa, Ffordd Bangor, Benllech

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i 'swyddog perthnasol' fel y'i diffinnir ym mharagraff 4.6.10 o Gyfansoddiad y Cyngor.  Craffwyd ar y cais gan Swyddog Monitro'r Cyngor fel sy'n ofynnol o dan baragraff 4.6.10.4 y Cyfansoddiad.  Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr 2021, penderfynodd y Pwyllgor y dylid cynnal ymweliad safle rhithwir â safle’r cais.  Cynhaliwyd ymweliad rhithwir â'r safle ar 15 Rhagfyr, 2021.  Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Ionawr, 2022, penderfynodd y Pwyllgor gymeradwyo'r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gan yr ystyriwyd bod y datblygiad yn cydymffurfio â pholisïau cynllunio PCYFF 1, PCYFF 2 a PCYFF 3 ac ystyriwyd na fyddai'r datblygiad yn arwain at orddarpariaeth o lety gwyliau yn yr ardal.  Roedd y Rheolwr Rheoli Datblygu yn awyddus i gofnodi bod fersiwn Gymraeg yr adroddiad yn nodi bod y cais wedi'i wrthod yn groes i argymhelliad y Swyddog yn hytrach na bod y cais wedi'i gymeradwyo’n groes i argymhelliad y Swyddog. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Margaret M Roberts, Aelod Lleol, ei bod yn ailadrodd ei sylwadau fel yng nghyfarfod blaenorol y Pwyllgor hwn bod y cais ar gyfer trosi adeilad allanol yng nghefn yr eiddo ar gyfer uned wyliau un ystafell wely.  Mae lleoliad yr adeilad allanol o fewn cwrtil yr ymgeisydd ac mae digon o le parcio i ddarparu ar gyfer datblygiad o'r fath.  Gofynnodd i'r Pwyllgor ailddatgan ei benderfyniad i gymeradwyo'r cais.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y safle'n gynaliadwy o fewn y pentref ac nad yw'r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi codi unrhyw bryderon ynglŷn â chynaliadwyedd y safle ac yn cytuno bod y safle mewn lleoliad addas, fodd bynnag, dim ond un ystyriaeth yw hon ar gyfer ystyried y datblygiad.  Dim ffactorau cynllunio eraill yn erbyn y cynnig – fel pryderon traffig.  Rhaid i gynigion datblygu fod yn dderbyniol gan roi sylw i holl bolisïau perthnasol y cynllun datblygu ac ystyriaethau cynllunio perthnasol.  Ni fydd datblygiad sy'n groes i bolisi neu faen prawf polisi penodol o reidrwydd yn dderbyniol dim ond am y gallai gydymffurfio â pholisïau perthnasol eraill.  Mae effeithiau economaidd-gymdeithasol a diwylliannol ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr ar gymunedau yn hynod o ddadleuol a sensitif ar hyn o bryd, sydd wedi dwysáu ymhellach ers dechrau'r Pandemig; ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar gynigion i gyflwyno deddfwriaeth a pholisi cynllunio newydd i fynd i'r afael ag effeithiau negyddol perchnogaeth ail gartrefi a gwyliau tymor byr.  Yn y cyfarfod diwethaf, cyfeiriodd yr Aelodau at y ffaith fod y ddarpariaeth bresennol o 18.47% ond ychydig yn uwch na'r trothwy o 15% a gynhwysir yn y CCA ac mai dim ond datblygiad bach o un uned wyliau un ystafell wely yw hon a fyddai ond yn gynnydd bach yn y ddarpariaeth gyffredinol ac na fyddai'n cael effaith sylweddol nac yn tanseilio amcan polisi.  Er ei fod yn cydnabod bod y ddarpariaeth bresennol o 18.47% yn yr ardal ychydig yn uwch na'r trothwy o 15%, rhaid ystyried hyn yn ei gyd-destun, ei fod yn cyfateb i bron i 1 ym mhob 5 eiddo sy'n ail gartrefi neu'n llety wyliau tymor byr.  At hynny, gallai cymeradwyo'r cais osod cynsail a fyddai'n arwain at anawsterau wrth wrthod cais tebyg yn yr ardal leol ac ardaloedd eraill lle ceir lefel uchel o or-ddarpariaeth o ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr. Mae'r datblygiad yn groes i Faen prawf TWR 2 gan na ddylai'r datblygiad arwain at or-ddarpariaeth o lety gwyliau yn yr ardal.   Yr argymhelliad o hyd yw gwrthod y cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts nad yw gorddarpariaeth o unedau gwyliau yn ardal Benllech yn deillio’n benodol o addasu adeiladau allan yn llety wyliau.  Dywedodd hefyd nad oes gan yr awdurdod unrhyw bwerau i atal anheddau presennol rhag cael eu defnyddio fel 'AirB&B'.   Nid yw'r broblem leol o ail gartrefi a llety gwyliau’n gysylltiedig â throi adeiladau allanol bach yn llety gwyliau un ystafell wely.  Ni fydd y broblem yn cael ei datrys drwy wrthod ceisiadau o'r math hwn.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd K P Hughes at gynllun Llywodraeth Cymru 'Croeso Cymru' sy'n hyrwyddo'r economi ac ymwelwyr i Gymru.  Dywedodd hefyd ei fod o'r farn ei bod yn ddyletswydd ar yr Awdurdod i wella economi'r Ynys a chynigiodd y dylid cymeradwyo'r cais.  Eiliodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y cynnig i gymeradwyo’r cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd John Griffith y gallai cymeradwyo'r cais osod cynsail a fyddai'n arwain at anawsterau wrth wrthod ceisiadau tebyg yn yr ardal leol ac ardaloedd eraill a chynigiodd y dylid gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Eiliodd y Cynghorydd Nicola Roberts y cynnig i wrthod y cais. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Ieuan Williams fod y Pwyllgor yn cael ei atgoffa i ystyried pob cais ar sail ei rinweddau ei hun.  Dywedodd ymhellach ei fod yn anghytuno y byddai cymeradwyo'r cais yn gosod cynsail i orfod cymeradwyo ceisiadau tebyg yn y dyfodol.  Gofynnodd y Cadeirydd am farn gyfreithiol ynghylch a fyddai cymeradwyo'r cais yn gosod cynsail o ran ceisiadau tebyg yn y dyfodol.  Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol nad oedd o'r farn y byddai cymeradwyo'r cais hwn yn gosod cynsail gan fod yr uned wyliau arfaethedig hon o fewn cwrtil eiddo'r perchennog a’i fod ar gyfer uned gosod un ystafell wely.

 

PENDERFYNWYD ailddatgan cymeradwyaeth flaenorol y Pwyllgor i'r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog.

 

7.2 FPL/2021/302 – Cais llawn am newid defnydd tir o dir amaethyddiaeth i ddarparu safle ar gyfer 10 carafán deithiol yn Bunwerth, Bae Trearddur

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais dau aelod lleol.  Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Ionawr, 2022, argymhellodd y Pwyllgor y dylid cynnal ymweliad safle rhithwir â safle’r cais.  Cynhaliwyd ymweliad rhithwir â'r safle ar 26 Ionawr, 2022.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod safle'r cais yn cynnwys tir amaethyddol o fewn ardal AHNE.  Mae'r cais wedi'i leoli mewn lleoliad gwledig agored ar gyrion Bae Trearddur.  Dywedodd fod cais ar gyfer 10 carafán deithiol ar y safle wedi'i wrthod ym mis Rhagfyr 2020.  Mae polisïau cynllunio yn mynnu yn datgan bod rhaid i’r datblygiad arfaethedig fod  o ansawdd uchel o ran dyluniad, gosodiad ac edrychiad, a’i fod wedi’i leoli mewn lleoliad anymwthiol, sydd wedi’i guddio’n dda ac y gellir ei gydweddu’n hawdd yn y dirwedd mewn modd nad yw’n peri niwed sylweddol i ansawdd gweledol y dirwedd. 

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio at Ganllawiau Cynllunio Atodol - Cyfleusterau a Llety i Dwristiaid - Paragraff 3.1.3 fel y nodwyd yn adroddiad y Swyddog sy'n diffinio'r angen am ddatblygiad o ansawdd uchel o ran ystyriaethau defnydd tir.  Dywedodd ymhellach gan fod y sgrinio presennol ar y safle yn fylchog a bod y gwrychoedd yn isel; rhan gogledd ddwyreiniol y safle

fyddai fwyaf gweledol mewn golygfeydd o ddarn byr o’r briffordd.  Gan fod y cynnig ar gyfer carafanau teithiol, sydd yn wyn yn bennaf, asesiad yr Awdurdod Cynllunio Lleol yw bod golygfeydd o’r safle yn tueddu i fod yn ymwthiol, hyd yn oed pe na fyddai’r holl garafanau teithiol i’w gweld. Mae siawns y byddai modd gweld rhan o bob un ohonynt ac mae hynny’n dangos ehangder y datblygiad arfaethedig.  Darparwyd cynllun tirweddu gyda'r cais cynllunio; byddai'r cynllun tirweddu’n atgyfnerthu'r sgrinio presennol a rhagwelir yn yr asesiad y bydd yn cymryd 5 - 10 mlynedd i gael effaith sylweddol.  Mae safle’r cais hefyd yn greigiog ac mae pryderon wedi'u codi ynghylch a fydd y coed yn tyfu ar y safle o ran y bwriad i sgrinio'r safle.  Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio ymhellach fod y manylion tirweddu a dderbyniwyd gyda'r cais cynllunio yn nodi bod y safle wedi'i sgrinio'n dda ar hyn o bryd, fodd bynnag mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn anghytuno ac felly mae'r datblygiad yn groes i Faen Prawf 1 o'r Polisi TWR 5 sy'n datgan bod rhaid i ddatblygiadau fod wedi’i leoli mewn lleoliad anymwthiol, sydd wedi’i guddio’n dda ac y gellir ei gydweddu’n hawdd yn y dirwedd mewn modd nad yw’n peri niwed sylweddol i ansawdd gweledol y dirwedd.  Ni ystyrir bod y cynnig yn cynnwys datblygiad o ansawdd uchel a byddai hefyd yn niweidiol i gymeriad ac ymddangosiad yr ardal sy'n rhan o'r AHNE.  Byddai'n groes i ddarpariaethau polisïau TWR 5, PCYFF 3 ac AMG 1 o'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, Polisi Cynllunio Cymru a'r Canllawiau Cynllunio Atodol. Yr argymhelliad oedd gwrthod y cais.

 

Darllenodd y Cadeirydd e-bost a dderbyniwyd gan y Cynghorydd Dafydd R Thomas, Aelod Lleol gan nad oedd yn gallu mynychu'r cyfarfod.  Roedd y Cynghorydd Thomas wedi cyfeirio at y ffaith bod safle'r cais yn bell o'r briffordd ac na fyddai'n niweidiol i gymeriad a thirwedd yr ardal.  Roedd wedi nodi bod safleoedd carafanau tebyg eraill sydd wedi'u cymeradwyo ar yr Ynys yn ddiweddar ac sydd mewn ardaloedd llawer mwy sensitif.  Mae'r ymgeiswyr yn bobl leol ac yn siaradwyr Cymraeg ac mae ganddynt ddau fab sy'n dymuno ffermio'r tir ac aros o fewn eu cymuned leol; byddai cymeradwyo'r cais hwn yn cyfrannu at gefnogi'r teulu ar gyfer y dyfodol.

 

Dywedodd y Cynghorydd J Arwel Roberts, Aelod Lleol mai dim ond Cyfoeth Naturiol Cymru sydd wedi mynegi pryderon ynglŷn â'r datblygiad arfaethedig hwn.  Ni chafwyd unrhyw wrthwynebiad gan eiddo cyfagos nac unrhyw wrthwynebiadau gan Gyngor Cymuned Trearddur.  Cyfeiriwyd at effaith weledol y datblygiad ond mae'r ymgeisydd wedi cyflwyno cynllun tirweddu, a fydd ymhen amser yn sgrinio'r safle.  Dywedodd hefyd mai ardal SoDdGA yw rhan o'r tir ym mherchnogaeth yr ymgeisydd a bod yr ymgeisydd wedi plannu coed i ddiogelu'r ardal.  Dywedodd y Cynghorydd Roberts ymhellach ei fod yn anghytuno ag adroddiad y Swyddog y byddai'r datblygiad yn cael effaith ar yr AHNE gan mai dim ond yn un cae amaethyddol y lleolir y maes carafanau arfaethedig ac nad yw i'w weld o'r briffordd.  Dywedodd hefyd fod safle carafanau a man storio gyferbyn â'r safle sy’n weladwy; byddai cymeradwyo'r cais fod yn cefnogi'r busnes teuluol lleol.  

 

Dywedodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE y byddai’r cynnig hwn yn safle carafanau teithiol tymhorol.  Dywedodd hefyd nad yw'r safle i'w weld o'r briffordd a bod safle carafanau mawr gyferbyn â'r safle hwn.  Cynigiodd y Cynghorydd Hughes y dylid cymeradwyo'r cais.  Eiliodd y Cynghorydd Glyn Haynes y cynnig i gymeradwyo’r cais. 

 

Er ei fod yn cefnogi teuluoedd lleol sy'n dymuno gwella eu busnesau, dywedodd y Cynghorydd John Griffith, gan fod y safle o fewn AHNE, ei fod yn cynnig gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog.  Nid eiliwyd y cynnig i wrthod gan unrhyw un. 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gan yr ysytyrir na fydd y carafanau ar y safle yn barhaol ac y bydd yr ymgeisydd yn sgrinio'r safle ymhellach.

 

(Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais yn awtomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i'r Swyddog baratoi adroddiad mewn perthynas â'r rhesymau a roddwyd dros gymeradwyo'r cais).

 

7.3 FPL/2021/304 – Cais ôl-weithredol ar gyfer defnyddio carafán statig ar gyfer defnydd gwyliau yn The Lodge, Capel, Bach, Rhosybol

 

(Ar ôl datgan diddordeb personol yn y cais hwn ni chymerodd y Cynghorydd Robin William ran yn y drafodaeth na’r bleidlais maes o law).

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.  Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Ionawr, 2022, argymhellodd y Pwyllgor y dylid cynnal ymweliad safle rhithwir â safle’r cais.  Cynhaliwyd ymweliad rhithwir â'r safle ar 26 Ionawr, 2022. 

 

Siaradwr Cyhoeddus

 

Dywedodd Mr Mark Davies, asiant yr ymgeisydd, y dylid nodi bod y garafán yn bodoli ar y safle a'i bod yn gyfreithlon ac y gall barhau ar y safle beth bynnag fo canlyniad y cais hwn; y defnydd o'r garafán sydd dan sylw nid y ffaith ei bod ar y safle.  Mae adroddiad y Swyddogion yn rhoi un rheswm dros wrthod ac mae hynny'n ymwneud ag a yw'r cynnig o ansawdd uchel.  Mae'r adroddiad hefyd yn dyfynnu Canllawiau Cynllunio Atodol ar lety gwyliau sy'n datgan na ellir ystyried carafanau unigol yng ngerddi pobl o ansawdd uchel. Rhaid nodi mai canllawiau yw’r rhain ac nid y polisi.  Er gwaethaf hyn, dylid nodi, nad oes sôn yn yr adroddiad bod gan yr ymgeisydd drwydded clwb carafanau ar gyfer 5 carafán ar y safle.   Yn ogystal â hyn, mae uned wyliau arall, sef adeilad a addaswyd, a gafodd ganiatâd cynllunio yn 2019 wrth ymyl y garafán dan sylw. At hynny, ceir salon trin gwallt wrth ymyl y garafán; rhoddwyd caniatâd cynllunio i'r salon trin gwallt yn 2018.  Mae'r awgrym yn adroddiad y Swyddogion fod hon yn uned wyliau unigol mewn gardd yn anghywir, mae'n rhan o ddefnydd gwyliau/masnachol sy'n bodoli eisoes.  Y Polisi perthnasol yn y Cynllun Datblygu yw TWR a dyma’r prif bwyntiau; (i) Nid yw'n arwain at ormodedd o safleoedd carafanau statig neu chalet neu safleoedd gwersylla amgen parhaol yn yr ardal leol.  Ni fydd hyn yn arwain at ormodedd o’r fath ac nid oes unrhyw sôn am hyn yn adroddiad y swyddogion - (ii)  Mae o ansawdd uchel o ran dyluniad, gosodiad ac edrychiad, a’i fod wedi’i leoli mewn lleoliad anymwthiol sydd wedi’i guddio’n dda gan nodweddion presennol y dirwedd.  Mae hwn yn lleoliad anymwthiol a dylid nodi bod y garafán yn gyfreithlon ac yn gallu aros ar y safle. (iii) Bod mynediad digonol - Dim gwrthwynebiad gan briffyrdd.

 

Dywedodd Mr Davies ymhellach ei bod yn amlwg bod y cynigion yn cydymffurfio â'r polisïau perthnasol a Chanllawiau Cynllunio Atodol, mae hwn yn fath cynaliadwy o ddatblygiad a gofynnir yn barchus iddo gael ei gefnogi.  Bydd y datblygiad hwn yn darparu cyflogaeth yn yr ardal leol a bydd o fudd i fusnesau lleol yn yr ardal.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Aled M Jones, Aelod Lleol a fyddai'r Pwyllgor yn caniatáu i'r ymweliad rhithwir gael ei ddangos yn y cyfarfod gan y byddai’n dangos safonau uchel y busnes presennol sydd wedi'i leoli ar y safle ac y byddai'r cynnig yn rhan integredig o'r busnes presennol ar y safle.  Roedd yr Aelodau o'r farn bod yr ymweliad safle rhithwir wedi'i weld o'r blaen a gwrthodwyd y cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd Aled M Jones fod y garafán ar y safle a rhaid ystyried bod y garafán yn rhan o'r busnes ar y safle.  Mae'r safle'n glwb carafanau cofrestredig, mae ganddo uned osod a salon trin gwallt ar y safle.    Mae lleoliad y safle yn gynaliadwy gan ei fod ym mhentref Rhosybol a bydd yn cynnig cyfleoedd gwaith.  Dywedodd hefyd nad yw'r cynnig yn niweidiol i'r dirwedd a bod y mynediad i'r safle yn ddiogel ac o safon uchel.  Dywedodd y Cynghorydd Jones fod polisïau cynllunio sy'n cefnogi ceisiadau o'r fath a gofynnodd i'r Pwyllgor gymeradwyo'r cais.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod hwn yn gais i newid defnydd carafán statig bresennol a ddefnyddir yn ategol i’r annedd yn llety

gwyliau.  Mae safle’r cais wedi'i leoli yng nghefn gwlad agored, y tu allan i unrhyw ffin ddatblygu ddiffiniedig neu glwstwr dynodedig.  Nid yw safle’r cais o fewn ffin ddatblygu ac felly nid yw'n cyd-fynd â pholisi cynllunio PCYFF 1.  Felly, mae angen ystyried a yw'r cynnig yn cydymffurfio â pholisïau perthnasol y cynllun a pholisi a chanllawiau cynllunio cenedlaethol.  Mae Polisi Cynllunio TWR 3 o'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn ymwneud â Charafanau Statig a Safleoedd Chalet ac mae'n nodi, wrth gymeradwyo ceisiadau o'r fath, bod yn rhaid dangos nad yw'n arwain at ormodedd sylweddol o garafanau statig neu chalet neu safleoedd gwersylla amgen parhaol yn yr ardal leol a bod y datblygiad arfaethedig o ansawdd uchel o ran dyluniad, gosodiad ac edrychiad, a’i fod wedi’i leoli mewn lleoliad anymwthiol, sydd wedi’i guddio’n dda ac y gellir ei gydweddu’n hawdd yn y dirwedd mewn modd nad yw’n peri niwed sylweddol i ansawdd gweledol y dirwedd. At hynny, bod y safle wedi'i leoli'n agos at y prif rwydwaith priffyrdd ac y gellir darparu mynediad digonol heb niweidio nodweddion a nodweddion y dirwedd yn sylweddol.    Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio ymhellach fod a wnelo’r cais arfaethedig â pharhau i ddefnyddio un garafán sefydlog at ddibenion gwyliau.  Rhaid i geisiadau am garafanau parhaol newydd gydymffurfio â Pholisi TWR 3 (Safleoedd Carafanau Statig a Chalet a Llety Gwersylla Amgen Parhaol) o'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.  Mae Polisi TWR 3 yn caniatáu ar gyfer datblygiadau carafán newydd ar yr amod fod y cais yn cydymffurfio â’r meini prawf perthnasol fel y nodir yn adroddiad y Swyddog; esbonnir hyn ymhellach o dan ganllawiau mewn perthynas ag 'ansawdd uchel' a nodir yn y CCA 'Llety a Chyfleusterau i Dwristiaid' o dan adran 5.2.1.   Er y cydnabyddir bod gan y safle Drwydded Clwb Carafanau ar gyfer 5 carafán deithiol ac un llety gwyliau wedi'i addasu ar y safle, ystyrir bod y rhain yn opsiynau llety gwyliau amgen yn hytrach na bod yn gyfleusterau cysylltiedig, felly ni fyddai'r cynnig yn cydymffurfio â'r canllawiau sydd yn y CCA.  Yr argymhelliad oedd gwrthod y cais gan yr ystyrid ei fod yn groes i ddarpariaeth TWR 3 o'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Ieuan Williams ei fod o'r farn bod safle'r cais o fewn lleoliad cynaliadwy.  Nododd fod asiant yr ymgeisydd wedi nodi mai'r unig resymau dros wrthod yw p’un ai a yw'r garafán statig o ansawdd uchel, ond roedd yn amlwg ar yr ymweliad safle rhithwir fod y cynnig wedi'i gynnwys mewn ardal gynaliadwy ac y byddai'n cydymffurfio â'r fenter wyliau bresennol ar y safle.  Cynigiodd y Cynghorydd Williams y dylid cymeradwyo'r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gan ei fod yn rhan o fenter dwristiaeth bresennol a’i fod o ansawdd uchel, a’i fod felly yn cydymffurfio â pholisïau cynllunio PCYFF 1 a TWR 3 o'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.   Eiliodd y Cynghorydd K P Hughes y cynnig i gymeradwyo'r cais. 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog gan yr ystyrir ei fod yn rhan o fenter dwristiaeth bresennol a’i fod o ansawdd uchel, a’i fod felly’n cydymffurfio â pholisïau cynllunio PCYFF 1 a TWR 3 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.

 

(Yn unol â gofynion Cyfansoddiad y Cyngor, gohiriwyd y cais yn awtomatig i'r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi cyfle i'r Swyddog baratoi adroddiad mewn perthynas â'r rhesymau a roddwyd dros gymeradwyo'r cais).

 

Dogfennau ategol: