Eitem Rhaglen

Gweddill y Ceisiadau

12.1 – FPL/2021/158 - Tir ger Lon Y Bryn, Bae Trearddur

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000OKwL1UAL/fpl2021158?language=cy

 

12.2 – FPL/2021/310 - Haulfryn, Capel Mawr, Llangristiolus

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000QbS2rUAF/fpl2021310?language=cy

 

12.3 – FPL/2021/289 - Ysgol Uwchradd Caergybi, Ffordd Ynys Lawd, Caergybi

https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00000Qb9GHUAZ/fpl2021289?language=cy

Cofnodion:

12.1 FPL/2021/158 – Cais llawn ar gyfer codi annedd ynghyd a chreu mynedfa i gerbydau ar dir yn Lôn y Bryn, Bae Trearddur

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod Bae Trearddur yn cael ei ddyrannu fel pentref gwledig/arfordirol o dan bolisi TAI 5 o'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, sy'n cefnogi codi tai fforddiadwy a thai marchnad leol ar yr amod bod maint yr unedau yn cydymffurfio â'r uchafswm diffiniedig ar gyfer y math penodol o uned a gynigir a bod trefniadau digonol ar gael i gyfyngu ar feddiannaeth unrhyw dŷ marchnad lleol.  Yr uchafswm maint a nodir o dan y polisi ar gyfer eiddo 3 ystafell wely, deulawr yw 100m2 o ofod llawr; mae gan y cynnig arwynebedd llawr o 100m2 a bydd ei ddefnydd yn cael ei gyfyngu i'r defnydd o gytundeb cyfreithiol S106.  Bwriedir i'r annedd gael ei meddiannu gan yr ymgeisydd ac mae gwybodaeth yn cael ei hasesu ar hyn o bryd mewn perthynas â chymhwysedd yr ymgeisydd am dŷ marchnad lleol.  Mae tystiolaeth bod yr ymgeisydd wedi byw yn yr ardal leol ers 2014, ond os nad yw'r ymgeisydd yn gymwys i breswylio yn yr eiddo, bydd ar gael i eraill mewn angen lleol.  Bydd hyn yn cael ei sicrhau gan gytundeb cyfreithiol Adran 106.  

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio ymhellach at y cyflenwad tai dangosol ar gyfer Bae Trearddur fel yr amlinellwyd yn adroddiad y Swyddog Cynllunio.  Dywedodd hefyd fod datganiad wedi'i ddarparu gan asiant tai lleol yn cefnogi’r cais ac mae’n rhoi sicrwydd bod angen lleol yn bodoli eisoes ar gyfer yr eiddo, a’i fod felly’n cydymffurfio â’r polisi ac nad yw’r datblygiad yn un hapfasnachol.  Mae'r annedd arfaethedig yn eiddo deulawr sy'n cynnwys 3 ystafell wely a lle byw ar y llawr cyntaf.  Un o'r materion allweddol a godwyd fel rhan o'r cyhoeddusrwydd oedd dyluniad yr eiddo a'r effaith ar amwynder yr eiddo cyfagos.  Mae'r annedd, sydd wedi'i chyfyngu o ran ei maint oherwydd defnydd y farchnad leol, wedi'i lleoli i'r gogledd-orllewin o'r plot er mwyn sicrhau’r pellter angenrheidiol fel y nodir yng nghanllaw dylunio canllawiau cynllunio atodol yr awdurdod lleol rhwng ffiniau a ffenestri'r eiddo gerllaw.  Felly, ni ellir ystyried bod y cynnig yn arwain at effeithiau ar amwynder gerllaw i'r fath raddau y byddai’n cyfiawnhau gwrthod y cais.  Roedd nifer o’r llythyrau a dderbyniwyd yn gwrthwynebu’r  cais yn codi pryder hefyd y byddai’r cynllun yn gorddatblygu’r safle ac y byddai’r datblygiad yn gyfyng.  Arwynebedd gardd yr annedd yw 92m2 fel y nodir ar y cynllun safle arfaethedig.  O dan y Canllawiau Cynllunio Atodol - Canllawiau Dylunio, rhoddir canllawiau

mewn perthynas â’r ardal amwynder a argymhellir ar gyfer eiddo, a’r argymhelliad yw 30m2 o ofod siâp rhesymol ynghyd â lle ychwanegol ar gyfer lein ddillad a siediau ac ati. Mae’r ardal yn mesur 92m2 ac  felly mae’r cynnig yn darparu digonedd o ardal amwynder sy’n llawer mwy na’r hyn y gofynnir amdano yng nghanllawiau cynllunio atodol yr awdurdod lleol ac, o’r herwydd, nid ystyrir bod y safle’n cael ei orddatblygu. Yn 92m2, mae'r cynnig yn darparu digon o le amwynder uwchlaw a thu hwnt i'r hyn sy'n ofynnol gan CCA yr awdurdod lleol ac felly ni ystyrir bod y safle wedi'i orddatblygu.  Yr argymhelliad oedd cymeradwyo'r cais.

 

Dywedodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE, ac Aelod Lleol ei fod wedi galw'r cais i mewn i’w benderfynu gan y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd pryderon y byddai'r cynllun yn orddatblygiad o'r safle.  Nododd y gallai'r ffordd yn Lôn y Bryn yn gul ac y gallai datblygiadau pellach arwain at faterion priffyrdd.  Dywedodd hefyd fod pryderon lleol ynglŷn â'r datblygiad, fodd bynnag, gan fod y Swyddogion Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais cynigiodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE y dylid ei gymeradwyo. Eiliodd y Cynghorydd Eric W Jones y cynnig i gymeradwyo’r cais.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.2 FPL/2021/310 – Cais llawn ar gyfer newid defnydd yr annedd bresennol i ganolfan dydd ar gyfer plant ac anableddau dysgu yn Haulfryn, Capel Mawr, Llangristiolus

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn cael ei wneud ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y safle wedi'i leoli yng nghymuned wledig Capel Mawr fel y'i diffinnir o dan y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd a bydd yn darparu gwasanaeth hanfodol i'r gymuned leol fel y nodwyd gan yr Adran Dai.   Mae'r annedd bresennol ar y safle yn fyngalo unllawr sydd wedi'i osod o fewn digon o gwrtil ac sy'n cynnwys mynediad preifat o'r briffordd gyhoeddus.  Gwneir y cynnig i newid y defnydd o'r annedd er mwyn darparu gofal dydd i blant ag anableddau dysgu ynghyd â chreu mynediad newydd i gerbydau.  Mae Polisi ISA 2 o fewn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn cefnogi cynnal a gwella cyfleusterau cymunedol. Mae’r safle

mewn lleoliad cyfleus gerllaw’r B4422 sy'n un o'r prif lwybrau i Dde-orllewin yr Ynys o'r A55, gyda 2 safle bws hefyd wedi'u lleoli o fewn 400m i'r safle.   Mae'r adeilad presennol yn gymedrol ei faint ac nid oes bwriad i’w ymestyn fel rhan o’r cynnig. Ystyrir na fydd y defnydd a wneir o’r adeilad yn ormodol o

ystyried cymeriad gwledig a thawel yr ardal ac ystyrir ei fod yn briodol yn unol â maen prawf iv. yn y polisi.  Polisi Cynllunio Nod PCYFF 2 yw diogelu amwynderau eiddo preswyl ond oherwydd maint y gwaith ni chredir y byddai’n achosi lefel o aflonyddwch a fyddai'n niweidiol i annedd breswyl gyfagos.  Ystyrir felly bod y cynnig yn cydymffurfio â pholisi PCYFF 2. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Dafydd Roberts y dylid cymeradwyo'r cais.  Eiliodd y Cynghorydd John Griffith y cynnig i’w gymeradwyo.

 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

12.3 FPL/2021/289 – Cais llawn ar gyfer adeiladu Man Chwarae Amlddefnydd, codi ffensys ynghyd â gwaith tirlunio meddal yn Ysgol Uwchradd Caergybi, Ffordd Ynys Lawd, Caergybi

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y cais yn cael ei wneud ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod y safle wedi'i leoli ar dir Ysgol Uwchradd Caergybi ac arferai fod yn ddarn o laswelltir gyda ffiniau sy’n ymylu ar gwrtilau preswyl yr anheddau cyfagos sy’n cael eu diffinio gan ffensys. Mae’r cynnig ar gyfer cadw man chwarae amlddefnydd fydd yn cael ei defnyddio gan yr ysgol.  Gwneir y cynnig i gadw ardal gemau amlddefnydd a fydd at ddefnydd yr ysgol.  Dywedodd hefyd nad yw'r cynnig yn newid y defnydd o'r safle ac felly o ran defnydd tir, nid ystyrir bod y cynllun yn dwysáu'r defnydd o'r safle gan fod y darn blaenorol o laswelltir yn cael ei ddefnyddio fel man chwarae.  Bydd y man chwarae’n cael ei ddefnyddio gan yr ysgol yn unig ac ni fydd yn agored i’r cyhoedd ac felly ni ystyrir y bydd y cynllun yn creu mwy o aflonyddwch na’r hyn a achosir yn barod wrth ddefnyddio tir yr ysgol. Ni fwriedir cynnwys unrhyw oleuadau fel rhan o’r cynllun. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio ymhellach ei fod yn cael ei ystyried bod y cynllun yn unol â pholisi cynllunio PCYFF 2 o'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd sy'n nodi na ddylai cynigion gael effaith annerbyniol ar amwynderau preswyl.  Bydd y ffens a fydd o amgylch yr ardal y gemau yn 3 metr o uchder ac o ddyluniad nodweddiadol ar gyfer mannau chwarae gan sicrhau fod y cynnig yn addas i leoliad addysg uwchradd.  Yr argymhelliad yw bod y cais yn cael ei gymeradwyo gan ei fod yn cyd-fynd â'r polisïau perthnasol ac nid yw'n cael unrhyw effaith annerbyniol ar amwynderau preswyl. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Robin Williams y dylid cymeradwyo'r cais.  Eiliodd y Cynghorydd Ieuan Williams y cynnig i’w gymeradwyo. 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau a geir yn yr adroddiad ysgrifenedig.

 

Dogfennau ategol: