Eitem Rhaglen

Cofnodion

Cyflwyno i’w cadarnhau, cofnodion drafft cyfarfod blaenorol CYSAG a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2021.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod CYSAG blaenorol a gynhaliwyd 23 Tachwedd 2021 ac fe gadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

Materion yn codi o’r cofnodion:-

 

Eitem 3 –

 

  Cyfeiriwyd at arweinwyr mewn ysgolion uwchradd yn rhannu eu harbenigedd mewn cynllunio'r cwricwlwm gyda'r sector cynradd yn Ne Ynys Môn. Codwyd cwestiwn a oedd ymgysylltu â'r sector cynradd yn digwydd ar hyn o bryd yn y pedair ysgol uwchradd arall ar Ynys Môn?

 

Ymatebodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol fod dwy athrawes CYSAG yn arweinwyr yn Ysgol Syr Thomas Jones ac Ysgol Bodedern. Adroddodd y byddai’n gofyn am eglurhad gan GwE ynghylch a oes arbenigedd athrawon mewn AG ar gael ym mhob ysgol yn Ynys Môn, ac adrodd yn ôl i gyfarfod nesaf y CYSAG.

 

Adroddodd yr Uwch Reolwr Cynradd bod GwE wedi sefydlu byrddau rhanbarthol ym mhob un o’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau, ac mae athrawon o ysgolion Ynys Môn ar y byrddau hyn. Amlygodd yr angen am gydweithio lleol rhwng y sector uwchradd a chynradd, a dywedodd fod trefniadau eisoes yn eu lle.

 

Nodwyd y bydd GwE yn penodi cynrychiolydd Dyniaethau i gefnogi ysgolion, ond ni fydd cefnogaeth arbenigol mewn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn cael ei ddarparu i'r CYSAG. Awgrymwyd bod y CYSAG yn gofyn am gefnogaeth arbenigol gan GwE, i gyflawni ei swyddogaeth o gefnogi ysgolion. Mae angen tegwch ym Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau, neu gellir colli Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, os na roddir yr un statws iddo â phynciau eraill y Dyniaethau.

 

PENDERFYNWYD bod yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol yn cysylltu â GwE i ofyn am wybodaeth ac eglurder ynglŷn â threfniadau rhwng y sector uwchradd a chynradd yn ysgolion Môn.

 

  Gan gyfeirio at bryderon y CYSAG ynghylch addysg yn y cartref, adroddodd y Cynghorydd Gwilym Jones bod y mater hwn wedi’i godi mewn cyfarfod o’r Panel Adolygu Rhaglen Ysgolion ar 25 Tachwedd 2021. Derbyniwyd cyflwyniad hefyd, fel y cadarnhawyd yng nghofnodion y Panel isod:-

           

   Cyfeiriwyd at drafodaeth fu yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor

 Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) a gynhaliwyd ar 23

 Tachwedd, 2021 a chyfeiriad wnaed at gynnydd yn nifer y plant a phobl

 ifanc a addysgir gartref

    Nodwyd bod heddiw yn gyfle i’r Gwasanaeth Addysg rannu datblygiadau’r

 misoedd diwethaf gydag Aelodau Etholedig a hefyd yn gyfle i’r Aelodau

 ofyn cwestiynau

 Roedd y maes hwn yn un sy’n pontio rhwng y Gwasanaeth Addysg a’r Gwasanaethau Cymdeithasol a nodwyd bod sawl sylw ynghylch addysg ddewisol yn y cartref wedi bod mewn cyfarfodydd blaenorol o’r Panel Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol.  Hyn oherwydd y potensial am faterion diogelu yn codi

  Cyfeiriwyd at y gweithdrefnau mewn lle i weithio’n rhagweithiol er mwyn sicrhau trefniadau diogelu cadarn.  Teulu Môn yn bwynt cyswllt os oes pryder.  Sylw strategol hefyd i’r maes drwy Fwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru

  Trefniadau’r Gogledd OrllewinLefel Weithredol: swydd newydd Athrawes Arweiniol Addysg Ddewisol Gartref wedi’i chreu yn Chwefror, 2021 (cyllidir drwy arian grant Llywodraeth Cymru) yn y Tîm Lles Addysg.  Prif amcan y swyddcreu cyswllt positif gyda theuluoedd.  Prosesau a gweithdrefnau mewn lle ers Medi, 2021 i asesu darpariaeth addysg y plant / bobl ifanc a addysgir gartref.  Cydweithio rhwng yr Athrawes Arweiniol a’r Swyddog Ansawdd Addysghyn yn cynnwys ymweliadau ar y cyd ble mae hynny’n briodol

  Data Cyswllt:  92 o blant / bobl ifanc a addysgir gartref a 58 wedi derbyn cyswllt ar y ffôn, drwy e-bost neu ymweliad gan yr Athrawes Arbenigol.  Nod - magu cyswllt cadarnhaol a chynnig cefnogaeth i rieni (ee drwy dudalen Facebook sydd mewn bodolaeth gan grŵp o rieni ac ati).  Mae sefydlu a chynnal perthynas gyda’r rhieni yn allweddol i lwyddiant y cyswllt.  Swyddogion Lles yn gwirio unrhyw faterion lles ble mae pryder yn codi ar yr ochr addysgol.  Ni all y Cyngor orfodi cyswllt

  Gofyn statudol i’r unigolyn â chyfrifoldeb am addysgu i ddarparu adroddiad addysgol blynyddol.  Nifer o enghreifftiau o addysg o safon uchel yn cael ei darparu i blant gartref

  Fforwm mewn lle i drafod y plant ble mae pryder.  Y trefniadau mewn lle yn cynnwys yr angen i greu cynlluniau gweithredu a disgwyliad i adrodd yn ôl / fonitro a chymryd camau pellach yn ôl yr angen.  Gorchymyn Mynychu Ysgol yn gam i’w gymryd os oes achos pryder i wneud hynny

  Trefniadau ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol hefyd yn berthnasol i’r cohort yma o blant / bobl ifanchyn yn cynnwys cynlluniau dysgu ychwanegol a chynnal adolygiadau mewn modd amserol

  Rhwydwaith eang o ddarpariaeth ar gael i blant a addysgir gartref drwy’r Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad megis seicolegwyr, Gyrfa Cymru (darpariaeth ôl 16 oed), arbenigeddau’r Bwrdd Iechyd ayyb

  Rhagwelir manylion gan Lywodraeth Cymru yn y Flwyddyn Newydd ynghylch pa lefel o ddarpariaeth y dylid ei gynnig i blant / bobl ifanc a addysgir gartref

  Wrth symud ymlaenamcan o gynyddu nifer yr ymweliadau â phlant a addysgir yn y cartref.  Hefyd, adolygu ein trefniadau yn sgil cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ynghylch natur y gefnogaeth a gynigir.

 

  Cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol ei bod yn y broses o ddosbarthu'r cyllid grant o £4,000 yn ganolog rhwng 5 ysgol Ynys Môn o fewn pob dalgylch.

 

Eitem 5 - Dywedodd y Cadeirydd nad oedd wedi derbyn enwebiad ar gyfer cynrychiolydd o Undeb yr Annibynwyr Cymraeg i ymuno â'r CYSAG.

 

PENDERFYNWYD bod Clerc y CYSAG yn cysylltu â'r Parch Jim Clarke i ofyn iddo enwebu cynrychiolydd o'r Eglwys i eistedd ar y CYSAG.

 

Eitem 6 – PENDERFYNWYD bod Clerc y CYSAG yn gwahodd aelod o’r Eglwys yng Nghymru i fynychu cyfarfod nesaf y CYSAG i gyflwyno trosolwg o’r Prosiect Pererindod.

Dogfennau ategol: