Eitem Rhaglen

Monitro Cyllideb Refeniw – Chwarter 3, 2021/22

I gyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol gwasanaethau'r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 3 blwyddyn ariannol 2021/22 i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Adroddodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, fod y Cyngor, ar 9 Mawrth 2021, wedi pennu cyllideb ar gyfer 2021/22 gyda gwariant gwasanaeth net o £147.420m, i'w ariannu o incwm y Dreth Gyngor, Ardrethi Annomestig a grantiau cyffredinol. Yn wahanol i flynyddoedd blaenorol, nid yw'r gyllideb ar gyfer 2021/22 yn cynnwys unrhyw ofynion ar y gwasanaethau i wneud arbedion. Roedd y cynnydd o 3.4% mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru yn gynnydd i'w groesawu. Mae'r sefyllfa ariannol gyffredinol a ragwelir ar gyfer 2021/22 gan gynnwys Cyllid Corfforaethol a chronfa'r Dreth Gyngor yn danwariant o £3.528m, sef 2.4% o gyllideb net y Cyngor ar gyfer 2021/22. Er bod mwy o sicrwydd wrth i ddiwedd y flwyddyn ariannol agosáu, dylid nodi y gall y sefyllfa newid yn gyflym yn yr argyfwng presennol wrth i'r Cyngor barhau i ymateb i'r pandemig. Hefyd, gall costau cynyddol a'r potensial ar gyfer galw cynyddol am wasanaethau yn ystod y chwarter olaf leihau'r sefyllfa refeniw derfynol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Fodd bynnag, yng ngoleuni'r gwarged a ragwelir ar y gyllideb refeniw ar gyfer 2021/22, roedd yn cynnig buddsoddi £500k ychwanegol mewn cynnal a chadw Priffyrdd er budd holl ddefnyddwyr ffyrdd yr Ynys.

 

Croesawodd y Cynghorydd R.G. Parry, OBE, FRAgS, Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo y cynnig gan ddweud, er bod adroddiad cenedlaethol yn dangos bod priffyrdd Ynys Môn yn cymharu'n dda iawn â rhai cynghorau eraill yng Nghymru, y gellir gwneud mwy i wella rhwydwaith ffyrdd yr Ynys a'u codi i safon yr hoffai'r Cyngor ei gweld.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod blwyddyn ariannol 2021/22 yn eithriadol. Cafodd cyllid ei gynnwys yn y gyllideb i fynd i'r afael â chynnydd posibl yn y galw wrth i'r Cyngor ddod allan o'r pandemig ac mae pwysau Covid 19 wedi'u talu gan arian grant ychwanegol gan Lywodraeth Cymru sydd wedi cyfrannu at y sefyllfa gadarnhaol y mae'r Cyngor ynddi. Nid yw cyfnod y gaeaf, sydd bob amser yn creu ansicrwydd ynglŷn â’r galw am wasanaethau, wedi bod yn arw o ran y tywydd ar y cyfan ac mae hynny hefyd wedi helpu o ran rheoli costau. Mae un o'r risgiau a nodwyd yn ystod ail ran y flwyddyn ar ffurf dyfarniad cyflog staff nad ydynt yn addysgu bellach wedi'i ddileu gyda chynnydd cyflog o 1.75% yn cael ei dderbyn. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 at y sefyllfa o ran cyllidebau gwasanaeth a thynnodd sylw at y prif amrywiadau yn y sefyllfa hon. I orffen, nodwyd, er bod risg o hyd na fydd y sefyllfa derfynol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol mor gadarnhaol â'r hyn a ragwelir, bod y risg yn lleihau wrth i ddiwedd y flwyddyn agosáu. 

 

Penderfynwyd –

 

·         Nodi’r sefyllfa a amlinellir yn Atodiadau A a B mewn perthynas â pherfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro disgwyliedig ar gyfer 2021/22. Mae’r sefyllfa hon yn dibynnu ar gymorth parhaus gan Lywodraeth Cymru i gyllido’r incwm ariannol a gollir a’r costau ychwanegol sy’n wynebu’r Cyngor yn ystod gweddill y flwyddyn ariannol o ganlyniad i’r Coronafeirws.

·         Nodi’r crynodeb o’r cyllidebau wrth gefn ar gyfer 2021/22 fel y manylir arnynt yn Atodiad C;

·         Nodi’r sefyllfa mewn perthynas â’r rhaglenni buddsoddi i Arbed yn Atodiad CH;

·         Nodi’r modd y caiff costau asiantaeth ac ymgynghorwyr eu monitro yn 2021/22 yn Atodiadau D a DD.

·         Yng ngoleuni'r tanwariant a ragwelir ar Gyllideb Refeniw 2021/22, argymell y dylid buddsoddi £500k yn ychwanegol mewn cynnal a chadw Priffyrdd.

 

Dogfennau ategol: