Eitem Rhaglen

Ffioedd Cartrefi Gofal y Sector Annibynnol 2022/23

I gyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Gwasanaethau Oedolion mewn perthynas â lefel arfaethedig ffioedd cartrefi gofal yn y sector annibynnol ar gyfer 2022/23 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Ar ôl datgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu yn y mater hwn, gadawodd y Cynghorydd Richard Dew y cyfarfod tra bod y mater yn cael ei drafod ac aelodau’n bwrw pleidlais arno.

 

Cyflwynodd y Cadeirydd ac Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol yr adroddiad a'r argymhellion ynddo i'r Pwyllgor Gwaith yn datgan ei bod yn ofynnol i'r Awdurdod Lleol adolygu ffioedd cartrefi gofal y sector annibynnol yn flynyddol i gyd-fynd â newidiadau'r Llywodraeth Ganolog i fudd-daliadau a lefelau pensiwn. Wrth bennu lefelau ar gyfer cartrefi gofal y sector annibynnol, mae angen i'r Cyngor ddangos ei fod wedi ystyried costau'r ddarpariaeth yn llawn wrth bennu ei ffioedd gofal safonol. Gwneir hyn mewn cydweithrediad â'r Awdurdodau eraill yng Ngogledd Cymru a'r Bwrdd Iechyd drwy ddefnyddio Methodoleg Ffioedd Ranbarthol fel y gwnaed mewn blynyddoedd blaenorol.  Bydd yr Awdurdod yn parhau i ddefnyddio'r model hwn ar gyfer 2022/23 sydd wedi adlewyrchu newidiadau mewn deddfwriaeth o ran pensiynau, cyflog byw cenedlaethol a chwyddiant. Dangosir argymhellion Methodoleg Ffioedd Gogledd Cymru yn Nhabl 1 yr adroddiad.

 

Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau Oedolion fod yr Awdurdod, yn dilyn trafodaeth gyda'r Swyddog Adran 151, yn bwriadu defnyddio'r fethodoleg Ranbarthol ar gyfer Gofal Preswyl ac ar gyfer yr elfen Gofal Nyrsio (Gofal Cymdeithasol). Mae'r Gwasanaeth yn argymell y dylid cynyddu’r ffioedd ar gyfer Gofal Preswyl Pobl Hŷn bregus eu meddwl (EMI) a Nyrsio EMI 12% gan ei fod wedi'i nodi fel maes lle mae galw a dymuna’r Awdurdod annog darpariaeth bellach. Mae’r gwasanaeth yn argymell bod y ROI ar gyfer lleoliadau EMI Nyrsio yn aros ar 12%, tra bod y ROI ar gyfer EMI Preswyl yn aros ar 10%, mae hyn yn cydnabod y pwysau yn y maes hwn. Yn gyson gyda’r cyfeiriad strategol mae’r Cyngor yn ei gymryd wrth ddatblygu opsiynau amgen i ofal preswyl ar ffurf Tai Gofal Ychwanegol a gofal yn y cartref, a gan roi ystyriaeth ddyledus i fforddiadwyedd y cynnydd arfaethedig ar gyfer Cartrefi Gofal Preswyl, rydym yn cynnig cadw adenillion buddsoddiad is o 9%, fel yn y blynyddoedd blaenorol. Nodir ffioedd arfaethedig Ynys Môn ar gyfer 2022/23 yn Nhabl 2 yr adroddiad ond nid ydynt yn cynnwys yr elfen Gofal Nyrsio am Ddim yr Awdurdod Lleol ar ffioedd nyrsio gan nad yw'r cynnydd canrannol wedi'i gytuno eto.

 

Efallai y bydd angen ystyried ceisiadau unigol gan ddarparwyr ynghylch y ffioedd arfaethedig. Os bydd tystiolaeth glir i ddangos nad yw'r ffi a osodwyd yn ddigonol mewn unrhyw achos unigol, bydd angen i'r Cyngor ystyried eithriadau i'r cyfraddau ffioedd. Cynigir bod unrhyw benderfyniadau o'r fath yn cael eu dirprwyo i'r Aelod Portffolio, y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a Phennaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion.

 

Penderfynwyd –

 

·         Cydnabod Methodoleg Ffioedd Gogledd Cymru fel y'i gweithredwyd hyd yma gan yr Awdurdodau yng Ngogledd Cymru fel sail ar gyfer pennu ffioedd yn Ynys Môn yn ystod 2022/23 (Atodiad 1 yn yr adroddiad).

·         Cymeradwyo'r argymhelliad i gynyddu lefel y ffioedd fel a ganlyn:

 

Gofal Preswyl (Oedolion) £636.80

Preswyl EMI £707.17

Gofal Nyrsio (Elfen Gofal Cymdeithasol) £703.79 + Elfen FNC Awdurdodau Lleol (I'w gadarnhau)

Nyrsio (EMI) (Elfen Gofal Cymdeithasol) £800.88 + Elfen FNC Awdurdod Lleol

(I'w gadarnhau)

 

·         Yn unol ag awdurdodau eraill, awdurdodi'r Gwasanaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Chyllid i ymateb i unrhyw geisiadau gan gartrefi unigol i archwilio eu cyfrifon penodol ac i ddefnyddio'r ymarfer fel sail i ystyried unrhyw eithriadau i'r ffioedd y cytunwyd arnynt. Unrhyw eithriadau i'w cytuno gyda’r Aelod Portffolio, y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Swyddog Adnoddau/Adran 151 a Phennaeth Gwasanaethau Oedolion o'r cyllidebau presennol.

 

 

Dogfennau ategol: