I gyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 yn nodi cynigion manwl y gyllideb refeniw ar gyfer 2022/23 i’w adolygu gan y Pwyllgor Gwaith, a chytuno arno.
Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, ei bod yn ofynnol i'r Pwyllgor Gwaith gytuno ar nifer o faterion allweddol mewn perthynas â chyllideb 2022/23. Bydd hyn wedyn yn caniatáu i'r argymhellion terfynol gael eu cyflwyno i'r Cyngor Llawn yn ei gyfarfod ar 10 Mawrth, 2022. Y materion y mae angen cytuno arnynt yw Cyllideb Refeniw'r Cyngor a'r Dreth Gyngor sy'n deillio ohoni ar gyfer 2022/23; Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor wedi iddi gael ei diweddaru a'r defnydd o unrhyw arian untro i gefnogi'r gyllideb.
Cyhoeddodd y Cyngor ei gynigion cyllideb ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ar 26 Ionawr, 2022 a daeth y cyfnod ymgynghori i ben ar 9 Chwefror 2022. Amlinellir y broses ymgynghori â'r cyhoedd a'i chanlyniad yn adran 3 yr adroddiad. Ceir crynodeb o fewnbwn sgriwtini i'r broses o bennu'r gyllideb yn adran 4 o'r adroddiad. Cyfeiriodd Aelod Portffolio Cyllid at rai mân newidiadau yn y ffigurau yn dilyn cadarnhad o'r setliad terfynol a grant ychwanegol o £2,254 i Ynys Môn sy'n mynd â'r gyllideb net i £158.367m. Y cynnydd arfaethedig o 2% yn y Dreth Gyngor i bennu cyllideb gytbwys yw'r isaf yng Ngogledd Cymru ac mae'n adfer y Cyngor i'r sefyllfa yr oedd ynddi ar ddechrau'r Weinyddiaeth hon pan oedd yn ddeunawfed allan o'r ddau awdurdod lleol ar hugain yng Nghymru ar gyfer y dreth gyngor.
Tynnodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 sylw at y risgiau i'r gyllideb fel y nodir yn adran 5 o'r adroddiad ac esboniodd eu goblygiadau gyda'r prif risg yn deillio o'r ansicrwydd ynghylch chwyddiant cyflog a phrisiau. Mae'r risgiau eraill yn cynnwys symudiad mewn cyfraddau llog; parhad neu ddiffyg incwm grant ar y lefelau presennol; cyflawni targedau incwm neu beidio; incwm o bremiwm Treth y Cyngor ac o'r Dreth Gyngor safonol a lefel y galw am wasanaethau. Ar ôl ystyried yr holl risgiau fel y'u cofnodwyd a'r camau lliniaru, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151 ei fod o'r farn bod y cyllidebau'n gadarn a bod modd eu cyflawni.
Ar ddechrau blwyddyn ariannol 2021/22 pennwyd lefel y balansau cyffredinol ar £9m er mwyn lliniaru'r risg sy'n deillio o ansicrwydd ynghylch lefel y galw am wasanaethau wrth i'r Cyngor ddod allan o bandemig Covid-19. Ers hynny, mae'r risg hon wedi gwella ac yn seiliedig ar y sefyllfa ariannol bresennol, argymhellir y dylid cynnal y balansau cyffredinol ar gyfer 2022/23 ar 5% o'r gyllideb refeniw net, sef tua £8m. Nodir newidiadau i lefel y balansau cyffredinol yn ystod 2021/22 oherwydd penderfyniadau a wnaed i'w defnyddio a/neu resymau eraill yn adran 6 o'r adroddiad.
Mae'r sefyllfa economaidd wedi newid yn sylweddol ers i'r Cyngor gymeradwyo'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (SATC) ym mis Medi 2021. Hefyd, mae'r setliad llywodraeth leol ar gyfer 2022/23 hefyd yn newid y strategaeth yn sylweddol. Mae’r cynnydd a ragwelir yn yr AEF yn rhoi tipyn mwy o sicrwydd ynglŷn â chyllid y Cyngor dros y ddwy flynedd nesaf, sy’n caniatáu i ni ddiweddaru’r SATC. Mae Adran 10 yr adroddiad yn tynnu sylw at y ffactorau hynny sy'n debygol o effeithio ar gyllideb y Cyngor yn 2023/24 a thu hwnt. Bydd SATC wedi'i diweddaru yn cael ei chyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith ym mis Medi, 2022.
Darparwyd adborth o’r pwyllgor sgriwtini gan y Rheolwr Sgriwtini a nododd fod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wrth ystyried cynigion terfynol y gyllideb refeniw ddrafft ar gyfer 2022/23 yn ei gyfarfod ar 28 Chwefror, 2022 wedi trafod lefel yr incwm sy'n deillio o bremiwm y Dreth Gyngor ar ail gartrefi a chartrefi gwag, gan lunio cwestiynau o fewn y broses ymgynghori â'r cyhoedd i ychwanegu gwerth at y broses, y rhagolygon ariannol ar gyfer y tymor canolig a'r defnydd a wnaed o falansau'r Gronfa Gyffredinol. Cadarnhaodd y Rheolwr Sgriwtini fod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, ar ôl ystyried yr holl wybodaeth a gyflwynwyd ar lafar ac ar bapur, wedi cymeradwyo cynigion terfynol y gyllideb refeniw ddrafft ar gyfer 2022/23 ac wedi argymell hyn i'r Pwyllgor Gwaith gyda dau aelod yn ymatal.
Adroddodd y Cynghorydd Dafydd Roberts Cadeirydd Panel Sgriwtini Cyllid fod y Panel, yn ei gyfarfod ar 14 Chwefror 2022, wedi archwilio'r cynigion buddsoddi mewn gwasanaethau yn fanwl ac wedi cyflwyno adroddiad i gyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 28 Chwefror yn cadarnhau ei argymhelliad o gynigion terfynol y gyllideb refeniw ddrafft ar gyfer 2022/23.
Cydnabu'r Pwyllgor Gwaith y gwaith sy'n gysylltiedig â pharatoi cynigion y gyllideb a diolchodd i'r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a'r Gwasanaeth Cyllid am hyn a'r adroddiadau eraill sy'n gysylltiedig â'r gyllideb/cyllid ar yr agenda heddiw.
1.
Penderfynwyd -
· Nodi'r cyfarfodydd ymgynghori ffurfiol ar y gyllideb a’r adborth a gafwyd, fel yr amlinellir yn Adran 3 o Atodiad 1
· Cytuno ar fanylion terfynol cyllideb arfaethedig y Cyngor, fel y dangosir yn Adran 7 o Atodiad 1 ac Atodiad 2
· Nodi argymhelliad y Swyddog Adran 151 y dylai'r Cyngor fod yn gweithio tuag at sicrhau balansau cyffredinol o £7.9m ar y lleiaf
· Nodi'r sylwadau a wnaed gan y Swyddog Adran 151 ar gadernid yr amcangyfrifon, fel y nodir hwy yn Adran 5 o Atodiad 1
· Argymell cyllideb net o £158.367m ar gyfer y Cyngor Sir a chynnydd o 2.00% yn lefel y Dreth Gyngor yn sgil hynny (£26.82 – Band D) i’r Cyngor llawn, gan nodi y bydd penderfyniad ffurfiol, gan gynnwys praeseptau a godir gan Heddlu Gogledd Cymru a Chynghorau Cymuned, yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor ar 10 Mawrth 2022
· Gwneud addasiadau ar gyfer unrhyw wahaniaethau rhwng y setliad dros dro a'r setliad terfynol trwy ddefnyddio'r gronfa hapddigwyddiadau gyffredinol sydd wedi'i chynnwys yng nghyllideb 2022/23, neu drwy wneud cyfraniad i / o arian wrth gefn cyffredinol y Cyngor er mwyn gosod cyllideb gytbwys
· Awdurdodi'r Swyddog Adran 151 i wneud unrhyw newidiadau a all fod yn angenrheidiol cyn cyflwyno'r cynigion terfynol i'r Cyngor
· Cytuno y gellir defnyddio'r gyllideb hapddigwyddiadau gyffredinol i gwrdd ag unrhyw bwysau annisgwyl ar gyllidebau a arweinir gan y galw yn ystod y flwyddyn ariannol
· Gofyn i'r Cyngor awdurdodi'r Pwyllgor Gwaith i ryddhau hyd at £250k o'r balansau cyffredinol os yw'r gyllideb hapddigwyddiadau gyffredinol wedi'i hymrwymo'n llawn yn ystod y flwyddyn
· Dirprwyo grym i'r Swyddog Adran 151 ryddhau cyllid o'r gronfa hapddigwyddiadau gyffredinol, sef hyd at £50k ar gyfer unrhyw eitem unigol. Ni cheir cymeradwyo unrhyw eitem sy'n fwy na £50k heb gytundeb y Pwyllgor Gwaith ymlaen llaw
· Cadarnhau bod lefel Premiwm y Dreth Gyngor ar gyfer ail gartrefi yn cynyddu i 50% ac yn parhau i fod yn 100% ar gyfer cartrefi gwag.
Dogfennau ategol: