Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini i'r Pwyllgor ei ystyried. Ynghlwm wrth yr adroddiad oedd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth / Swyddog Adran 151 a fyddai’n cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ar 3 Mawrth, 2022 ar y cynigion drafft terfynol ar gyfer cyllideb refeniw 2022/23 (roedd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wedi craffu ar y cynigion drafft cychwynnol ar gyfer y gyllideb refeniw yn ei gyfarfod ar 24 Ionawr, 2022).
Wrth gyflwyno’r adroddiad cadarnhaodd y Cynghorydd Robin Williams, Deilydd Portffolio Cyllid bod cynigion drafft cychwynnol y Pwyllgor Gwaith wedi bod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ond oherwydd bod y setliad dros dro wedi’i gyhoeddi mor hwyr roedd yr ymgynghoriad yn agored am gyfnod cyfyngedig yn unig, a hynny rhwng 26ain Ionawr, a 9fed Chwefror 2022. Roedd yr ymgynghoriad yn nodi sefyllfa ariannol y Cyngor a’r risgiau ariannol y mae’r Cyngor yn eu hwynebu ac roedd yn ceisio barn trethdalwyr Ynys Môn ar gynnig y Pwyllgor Gwaith i fynd i'r afael â'r risgiau hynny drwy ail-fuddsoddi mewn gwasanaethau a ariennir yn rhannol gan gynnydd o 2% yn y Dreth Gyngor. Ceir dadansoddiad manwl o’r broses yn yr adroddiad ond yn gryno gellir adrodd bod 115 o ymatebion wedi dod i law ac o’r ymatebion hynny roedd 31% yn cytuno y dylid cael cynnydd o 2% yn y Dreth Gyngor a 69% yn anghytuno.
Nid yw’r cynnig drafft terfynol ar gyfer y gyllideb wedi newid ers i’r cynnig cychwynnol gael ei gyflwyno ym mis Ionawr, 2022 sef cyllideb net o £158.365m ar gyfer y Cyngor Sir a chynnydd o 2% yn y Dreth Gyngor o ganlyniad, sef y cynnydd isaf yng Ngogledd Cymru a sy’n rhoi Ynys Môn yn y deunawfed safle allan o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.
Fe ganolbwyntiodd y Cyfarwyddwr Risg (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 ar y risgiau cyllidebol a’u goblygiadau yn ogystal â’r ffactorau a all liniaru’r risgiau hynny a thrwy hynny leihau’r effaith. Roedd y risgiau wedi’u nodi ym mharagraff 5.3 yn yr adroddiad a’r risgiau mwyaf amlwg yw’r ansicrwydd ynglŷn â thâl a chwyddiant prisiau yn ystod 2022/23. Mae’r risgiau eraill yn cynnwys newidiadau mewn cyfraddau llog; llai o gyllid grant neu dynnu cyllid grant yn ôl; methu â chyrraedd targedau incwm; peidio â/neu osgoi talu premiwm y Dreth Gyngor; newid yn sylfaen y Dreth Gyngor a all effeithio ar incwm o’r Dreth Gyngor yn ogystal â chyfraddau casglu is o ganlyniad i’r pandemig; a newid yn y galw am wasanaeth. Fodd bynnag, ar ôl ystyried y risgiau a’r mesurau lliniaru, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 ei fod o’r farn bod y cyllidebau’n gadarn a bod modd eu cyflawni.
Ar 31 Mawrth 2021, roedd cronfeydd wrth gefn cyffredinol y Cyngor yn £11.437m, sy’n cyfateb i 7.77% o gyllideb refeniw net y Cyngor ar gyfer 2020/21. 10.94% os nad yw'r gyllideb ddatganoledig ysgolion yn cael ei chynnwys. Yn ystod y flwyddyn, clustnodwyd £4.5m ar gyfer y dibenion a nodwyd ym mharagraff 6.5 ac mae 643k wedi cael ei drosglwyddo’n ôl i falansau cyffredinol, sy’n golygu mai £7.554m ydi lefel ddiwygiedig y cronfeydd wrth gefn ar hyn o bryd.
Clustnodwyd £1.681m o falansau cyffredinol y Cyngor i gyllido’r rhaglen gyfalaf yn 2022/23. Fodd bynnag, rhagwelir tanwariant sylweddol o oddeutu £2m o leiaf yn 2021/22 (o ganlyniad i dderbyn cyllid grant ychwanegol gan Lywodraeth Cymru). Bydd hyn yn cynyddu’r balansau cyffredinol, ac felly ar ddiwedd y flwyddyn ariannol bydd y balansau cyffredinol oddeutu £8m, sef tua 5% o’r gyllideb refeniw net ar gyfer 2022/23, a ystyrir yn lefel dderbyniol.
Mae’r risgiau ariannol hefyd yn cael eu lliniaru drwy gadw cronfeydd wrth gefn clustnodedig, sydd yn cael eu cadw er mwyn lliniaru risgiau penodol neu i gyllido prosiectau penodol. Ar ddechrau’r flwyddyn ariannol roedd gan y Cyngor £15.455m o gronfeydd wrth gefn clustnodedig a gellid dychwelyd cyfran sylweddol o’r cronfeydd wrth gefn yn ôl i’r balansau cyffredinol os bydd sefyllfa ariannol y Cyngor yn gwaethygu’n sylweddol yn ystod 2022/23.
Ar ôl ystyried lefel balansau cyffredinol y Cyngor, balansau ysgolion, cronfeydd wrth gefn clustnodedig a’r cyllidebau hapddigwyddiadau, mae’r Swyddog Adran 151 yn fodlon bod sefyllfa ariannol y Cyngor yn ddigon cadarn i’w alluogi i wrthsefyll unrhyw anawsterau a all godi yn ystod 2022/23 os na fydd y gyllideb refeniw arfaethedig yn ddigonol i gwrdd â chostau gwirioneddol y Cyngor yn ystod 2022/23.
Ers cwblhau'r cynigion cychwynnol ar gyfer y gyllideb, gwnaed gwaith pellach i adolygu a diwygio'r gyllideb derfynol ar gyfer 2022/23, yn cynnwys adolygiad llawn o’r holl fuddsoddiadau mewn gwasanaethau gan y Pwyllgor Gwaith. O ganlyniad, newidiwyd y cynnig cychwynnol ar gyfer y gyllideb o ran penawdau cyllidebau unigol a’r dyraniadau cyllid rhwng gwasanaethau, ond ni wnaeth yr adolygiad effeithio ar y gofynion ar gyfer y gyllideb net derfynol, sydd dal yr un fath sef £158.365m gyda £114.549 wedi’i gyllido gan yr AEF a £43.816m gan y Dreth Gyngor.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei setliad terfynol ar gyfer llywodraeth leol ar 2 Mawrth 2022, ac er na ragwelir y bydd unrhyw newid sylweddol rhwng y setliad dros dro a'r setliad terfynol, gwneir cyfrif am unrhyw newid trwy addasu lefel y gronfa hapddigwyddiadau gyffredinol os yw'r gwahaniaeth yn fach, neu drwy gyllido o / cyfrannu at falansau cyffredinol y Cyngor pe bai'r gwahaniaeth yn fwy. O'r herwydd, ni fydd lefel arfaethedig y Dreth Gyngor yn newid hyd yn oed os yw'r AEF terfynol yn wahanol i'r ffigwr a ddangosir yn y setliad dros dro.
Wrth edrych ymhellach i’r dyfodol ac yn seiliedig ar y ffigurau dangosol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru mae’n ymddangos fel petai rywfaint o le i ail-fuddsoddi mewn gwasanaethau yn 2023/34 cyn i’r sefyllfa ariannol waethygu eto yn 2024/25. Bydd y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn cael ei diweddaru a’i chyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ym mis Medi, 2022. Mewn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor, cadarnhaodd y Swyddogion y canlynol -
· O’r £43.816m o incwm a gynhyrchir o’r Dreth Gyngor yn 2022/23 cynhyrchir £1.5m gan y premiwm ail gartrefi ac oddeutu £400k gan y premiwm tai gwag. Mae nifer yr eiddo sy'n cael eu nodi fel llety hunanarlwyo a'u trosglwyddo i'r gofrestr trethi busnes wedi cynyddu o 927 eiddo ym mis Chwefror 2021 i 1,000 eiddo ym mis Chwefror 2022, sef cynnydd o 83 eiddo. Mae nifer o ail gartrefi ar y gofrestr Dreth Gyngor yn ogystal. Tra bod y Cyngor yn cadw cofnod o eiddo sy’n talu’r premiwm mae’n anodd rhoi naratif i’r ffigurau yn nhermau symudiadau a throsglwyddiadau i’r gofrestr trethi busnes.
· Mewn perthynas â’r broses o ymgynghori â’r cyhoedd a llunio cwestiynau y mae’r cyhoedd yn eu deall gan gyfeirio’n benodol at yr ymatebwyr nad oedd yn cytuno â’r cynnydd yn y Dreth Gyngor ond a oedd yn dal yn dymuno gweld y Cyngor yn buddsoddi mewn gwasanaethau, roedd yr ymgynghoriad yn gofyn a oedd y cyhoedd yn cytuno â’r cynnydd o 2% yn y Dreth Gyngor ai peidio, ac os ddim, pa wasanaethau y dylai’r Cyngor eu blaenoriaeth yn eu tyb hwy.
· Bod y Cyngor yn debygol o fod wedi’i amddiffyn rhag yr effaith andwyol ar yr economi o ganlyniad i ddigwyddiadau’r byd a ffactorau eraill yn y tymor byr. Fodd bynnag, os bydd yr economi’n dod dan bwysau ar ôl 2022/23, fe all hyn effeithio ar y dyraniadau cyllid gan y Llywodraeth Ganolog a Llywodraeth Cymru ac o ganlyniad y setliad llywodraeth leol yng Nghymru. Fe all cynnydd parhaus mewn chwyddiant effeithio ar gontractau’r Cyngor ac ar ei gostau yn y pen draw; bydd rhaid i’r Cyngor gadw llygaid ar y sefyllfa a pharatoi ar gyfer y gwaethaf, sef paratoi i wneud arbedion. Efallai y bydd galw ar lywodraeth leol o ganlyniad i’r sefyllfa yn Wcráin e.e. efallai y bydd rhaid darparu cartrefi i ffoaduriaid ac fe all hyn gynyddu’r galw am wasanaethau. Er y byddai cymorth ariannol ychwanegol ar gael gan y Llywodraeth yn achos digwyddiadau o’r fath, byddai balansau cyffredinol digonol yn cynorthwyo’r Cyngor i gwrdd ag unrhyw gynnydd yn y galw.
· Bod y lleihad yng nghronfeydd cyffredinol wrth gefn y Cyngor o £11.437m ar 31 Mawrth, 2021 i oddeutu £8m a’r ddiwedd y flwyddyn ariannol o ganlyniad i glustnodi £3m i atgyweirio’r to yng Nghanolfan Addysg y Bont; trosglwyddo £1.376m i gronfeydd wrth gefn gwasanaethau penodol a defnyddio £0.150m at ddibenion eraill. Fodd bynnag, mae £0.643m o gronfeydd wrth gefn a oedd wedi eu clustnodi wedi cael eu trosglwyddo’n ôl i falansau cyffredinol, sydd ar hyn o bryd yn £7.554m. Hefyd, er bod £1.681m o falansau cyffredinol wedi cael eu clustnodi i gyllido’r rhaglen gyfalaf yn 2022/23, rhagwelir tanwariant o £2m o leiaf yng nghyllideb 2021/22 ac felly gellir defnyddio’r swm yma i gynyddu’r balansau cyffredinol i oddeutu £8m.
Ar ôl ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd yn y cyfarfod, yn ysgrifenedig ac ar lafar, penderfynwyd cefnogi’r gyllideb refeniw ddrafft derfynol ar gyfer 2022/23, yn cynnwys cynnydd o 2% yn y Dreth Gyngor, ac argymell y gyllideb i’r Pwyllgor Gwaith.
(Bu i’r Cynghorwyr Aled M. Jones a Bryan Owen ymatal rhag pleidleisio)
Dogfennau ategol: