Eitem Rhaglen

Cynllun Tuag At Sero Net

Cyflwyno adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr mewn perthynas â rhoi trefniadau ar waith i sefydlu a mabwysiadu ‘Cynllun Tuag at Garbon Sero Net Cyngor Sir Ynys Môn 2022-2025’ i’w ystyried gan y Pwyllgor.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol ei fod yn falch o gael cyflwyno’r Cynllun Tuag at Sero Net sydd yn cynrychioli’r cam gyntaf yn y siwrne i drawsnewid y Cyngor i fod yn sefydliad carbon sero net erbyn 2030.

Er mwyn cyflawni’r amcan hon a chwrdd â’r her a rhoi newid sylweddol ar waith, mae’n hanfodol cael cynllun clir a dull corfforaethol mewn lle sy’n mynd i’r afael â phob agwedd ar waith y Cyngor.

 

Ynghyd ag adeiladu ar lwyddiannau diweddar a chydlynu cynlluniau eisoes ar waith, mi fydd y Cynllun yn gweithredu prosiectau o’r newydd fydd yn arwain at leihad yn ein hallyriadau carbon.  Er mwyn cyflawni’r cynllun, mi fydd cynllun cyflawni blynyddol, targedau, a fframwaith monitro ac adrodd yn cael ei fabwysiadu. Y cam nesaf fydd sefydlu gwaelodlin fanwl a chyflawn, gyda systemau rheolaeth data. Mi fydd gofynion adnoddau ariannol a phersonél i gyflawni’r newidiadau yn sylweddol dros y cyfnod i ddod. Bydd angen i’r Cyngor fanteisio ar gyfleoedd cyllido (grantiau a benthyciadau) fydd ar gael er mwyn bwrw ymlaen gyda chynlluniau a rhaglenni dros y blynyddoedd i ddod.

 

Amlygodd y Dirprwy Brif Weithredwr bod y Cyngor eisoes wedi cyflawni llawer tuag at ddod yn sefydliad carbon sero net yn enwedig mewn perthynas â lleihau ôl-troed carbon ei ystadau ac eiddo. Yr hyn sydd wedi newid ydi amlygrwydd a phwysigrwydd newid hinsawdd a lleihau carbon sydd yn flaenoriaeth i’r Cyngor, i gymunedau ac i unigolion.  Mae’r Cyngor yn ymateb drwy ddangos arweinyddiaeth gadarn. Er bod y cynllun yn glir ac yn un tymor byr ni fydd yn aros yr un fath a bydd yn cael ei addasu wrth i’r Cyngor symud yn ei flaen. Mae wedi cael ei ddatblygu oddi mewn i gyd-destun cenedlaethol er mwyn sicrhau ei fod yn gyson â’r rôl a ragwelir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer awdurdodau lleol. Bydd rhaid cwblhau gwaith pellach i sefydlu gwaelodlin, targedau a system fonitro llawn a manwl fel y gall rhanddeiliaid gadw llygaid ar y cynnydd a wneir. Er y bydd yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd mae’n hanfodol bod y Cyngor yn gallu mesur effaith amgylcheddol ei benderfyniadau. Bydd rhaid i’r Cyngor hefyd ddangos buddion amgylcheddol ei fuddsoddiadau ac felly bydd rhaid cynnwys hyn fel rhan o’r broses ehangach ar gyfer gwneud penderfyniadau. Er mwyn cyflawni’r amcan hon rhaid i’r Cyngor fod yn uchelgeisiol a dewr a’r gobaith yw y bydd y Cynllun yn cyflawni’r anghenion hyn yn ogystal â bod yn realistig, cyraeddadwy a fforddiadwy; dyma’r cam cyntaf tuag at newid diwylliant ac mae’n adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi’i gyflawni i gefnogi’r siwrnai tuag at y targed yn y pen draw, sef dod yn sefydliad carbon sero erbyn 2030.

Roedd y Rheolwr Newid Hinsawdd yn cytuno nad yw’r Cyngor yn dechrau o’r dechrau a’i fod eisoes wedi cyflawni llawer, ond mae rhagor o waith i’w wneud o hyd ac mae’r Cynllun yn gam ymlaen tuag at sicrhau newid.

Penderfynwyd cefnogi’r Cynllun Sero Net ac argymell y Cynllun i’r Pwyllgor Gwaith.

 

Dogfennau ategol: