Eitem Rhaglen

Cynllun Gwefru Cerbydau Trydan Ynys Môn

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo a oedd yn nodi cynllun tymor hir y Cyngor ar gyfer datblygu ac ariannu’r seilwaith pwyntiau gwefru Cerbydau Trydan ar hyd a lled yr Ynys i’r Pwyllgor ei ystyried a chyflwyno sylwadau.  Roedd yr adroddiad yn rhoi trosolwg o Gynllun Gweithredu Gwefru Cerbydau Trydan Ynys Môn.

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Bob Parry, OBE, FRAgS, Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo a dywedodd y bydd y Cynllun yn datblygu pwyntiau gwefru cerbydau trydan newydd, modern ledled yr Ynys, ac y byddant ar gael i staff y Cyngor, trigolion ac ymwelwyr. Bydd y math o seilwaith gwefru - Chwim/Uwch, Cyflym neu Araf - yn amrywio ar draws leoliadau gwahanol. Mae’r Cyngor eisoes wedi dechrau darparu Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan gyda seilwaith o’r fath ar gael yng Nghanolfan Busnes Ynys Môn a Chanolfan Byron. Mae yna hefyd Bwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan ar gyfer nifer cyfyngedig o gerbydau fflyd ym mhrif Swyddfeydd y Cyngor yn Llangefni. Mae gwaith datblygu wedi dechrau yn barod i osod darpariaeth gwefru chwim cyhoeddus yn Amlwch, Llangefni, Caergybi a Phorthaethwy yn 2022 drwy Gronfa Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel Iawn Llywodraeth Cymru.  Mae llawer o waith i’w wneud o hyd i ddarparu cyfleusterau gwefru amrywiol i gwrdd â’r galw ac mae’r Cynllun Gweithredu’n cynrychioli’r cam cyntaf yn y siwrnai i osod seilwaith Cerbydau Trydan mewn lleoliadau allweddol.

Cadarnhaodd Rheolwr Busnes y Gwasanaeth Priffyrdd bod y Cynllun Gweithredu’n rhoi’r Cyngor mewn sefyllfa gadarn i wneud cais am gyllid pellach gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu rhwydwaith seilwaith pwyntiau gwefru cerbydau trydanol ledled yr Ynys.

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor, cafwyd cadarnhad gan y Swyddogion ynglŷn â’r canlynol -

·         Cadarnhawyd bod prosiect ar waith i greu hwb hydrogen yng Nghaergybi er mwyn datblygu technoleg hydrogen yn Ynys Môn.  Wrth gymharu cerbydau hydrogen a cherbydau trydan, dengys ymchwil bod ceir a faniau bach yn fwy addas i gael eu pweru gan drydan tra bod technoleg hydrogen yn dwy addas ar gyfer pweru cerbydau nwyddau trwm neu gerbydau casglu gwastraff er enghraifft; rhaid ystyried ffactorau fel y rhain wrth geisio dod o hyd i gydbwysedd rhwng cerbydau trydan a hydrogen. Mae’r rhain yn dechnolegau newydd a bydd rhaid eu monitro wrth iddynt ddatblygu dros amser.

·         Cadarnhawyd y bydd rhaid ystyried gwahanol fodelau ar gyfer codi ffi ar y cyhoedd i ddefnyddio’r pwyntiau gwefru cerbydau trydan yn ogystal â sut y bydd unrhyw incwm yn cael ei ddefnyddio/fuddsoddi; bydd y drafodaeth honno’n cael ei llywio gan adolygiad sydd ar y gweill. 

·         Eglurwyd y bydd rhaid ystyried dulliau gorfodi yn ogystal ar gyfer gyrwyr sy’n mynd tu hwnt i’r terfyn amser a sy’n gadael eu car yn y plwg er ei fod wedi gorffen gwefru.

 

Penderfynwyd cefnogi argymhellion yr adroddiad fel a ganlyn ac argymell bod y Pwyllgor Gwaith yn eu cymeradwyo –

 

·         Cymeradwyo Crynodeb Cynllun Gwefru Cerbydau Trydan Ynys Môn

·         Cymeradwyo datblygu a chyflwyno ceisiadau am gyllid allanol er mwyn gwireddu’r cynllun.

·         Cymeradwyo bod gofynion seilwaith pwyntiau gwefru cerbydau trydan yn cael eu hystyried yn Strategaeth Gyfalaf newydd y Cyngor (i’w datblygu) ac ar sail achos wrth achos pan fydd prosiectau seilwaith cyfalaf yn cael eu datblygu a’u gweithredu (gan gynnwys tai, unedau busnes, moderneiddio ysgolion, darpariaeth gofal ychwanegol, adfywio canol trefi a seilwaith arfordirol / twristiaeth ac ati.)

                        

 

 

Dogfennau ategol: