Eitem Rhaglen

Datblygiad Gofal Ychwanegol - Tyddyn Mostyn, Porthaethwy

Cyflwyno adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai ar y cynnig i ddatblygu cynllun Gofal Ychwanegol ar dir y  Cyngor yn Nhyddyn Mostyn, Porthaethwy er mwyn i’r Pwyllgor ei ystyried a chyflwyno sylwadau.

Mae Cynllun y Cyngor yn nodi bod angen cynllun Gofal Ychwanegol yn Ne’r Ynys. Bydd y Cynllun yn helpu i fynd i’r afael â’r galw hwn drwy ddarparu 40 o fflatiau yn cynnwys efallai 15 ystafell gofal preswyl arbenigol, yn ogystal â gofod ar gyfer y Tîm Adnoddau Cymunedol sy’n cynnwys staff iechyd a gofal cymdeithasol sy’n gwasanaethu De’r Ynys. Byddai’r cynllun hwn yn cyflawni un o amcanion y Cynllun Corfforaethol, sef cefnogi oedolion bregus a’u teuluoedd i’w cadw’n ddiogel, iach ac mor annibynnol â phosibl. Byddai’r Cynllun yn ehangu’r adnodd cymunedol i gefnogi cyfleoedd i fyw’n annibynnol.  Mae safle ar dir ger Tyddyn Mostyn, Porthaethwy wedi’i nodi fel y lleoliad gorau allan o’r chwe safle a oedd dan ystyriaeth ac a gafodd eu hasesu yn erbyn cyfres o feini prawf penodol.

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion bod dau gynllun Gofal Ychwanegol wedi cael eu datblygu hyd yma, un ym Mhenucheldre, Caergybi a’r llall yn Hafan Cefni, Llangefni. Mae’r datblygiadau hyn yn cael ei gwerthuso’n rheolaidd ac mae’r adborth gan breswylwyr wedi bod yn hynod gadarnhaol. Mae’r Cyngor yn awyddus i ddatblygu cynllun o’r fath yn Ne’r Ynys gan ddefnyddio’r agweddau sydd wedi gweithio’n dda yn ystod y cynlluniau blaenorol a dysgu o’r agweddau y gallem fod wedi’u gwneud yn wahanol, ac i’r perwyl hwn nodwyd safle addas ym Mhorthaethwy.  Os caiff y datblygiad ei gymeradwyo, y Cyngor fydd berchen arno. Mae’r Rhwydwaith Dysgu a Gwella Tai, a gomisiynwyd gan Gyfarwyddiaeth Tai Llywodraeth Cymru, yn nodi’r galw am wahanol fathau o dai/llety arbenigol ar gyfer pobl hŷn ar Ynys Môn ar hyn o bryd a hyd at 2035 a chadarnhawyd y bydd angen 127 o leoliadau gofal ychwanegol erbyn 2035. Bydd y cynnig arfaethedig  yn  helpu i fynd i’r afael â’r bwlch hwn yn enwedig gan fod y cyfleusterau ym Mhenucheldre a Hafan Cefni yn llawn a bod rhestr aros ar gyfer darpar breswylwyr.  Mae’r cynlluniau hyn wedi bod yn llwyddiannus o ran galluogi unigolion i fyw’n annibynnol ac maent yn cyd-fynd â Strategaeth Pobl Hŷn y Cyngor.  Mae’r cynnig wedi cael ei werthuso o safbwynt fforddiadwyedd yn unol â’r model ariannol a ddefnyddir i asesu hyfywedd ariannol ein cynlluniau tai – mae’r model cychwynnol yn dangos ei fod yn gynllun hyfyw ac yn cyd-fynd â chanllawiau’r Awdurdod ar gyfer ei gynlluniau tai newydd.  Mae’r Cyngor wedi llwyddo i ddiogelu cyllid grant HCF gan Lywodraeth Cymru tuag at gostau’r prosiect ac fe all ymgeisio am ychwaneg o grantiau; bydd gweddill y costau’n cael eu hariannu gan y Cyngor drwy’r Cyfrif Refeniw Tai. 

Roedd y Pwyllgor yn croesawu ac yn cefnogi’r cynllun ond gofynnwyd am eglurhad ynglŷn â phwy fyddai’n gyfrifol am ddarparu’r gofal – cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Oedolion y byddai’r opsiynau yn cael eu hystyried ac yn cael eu cytuno wrth i’r prosiect fynd rhagddo.

Penderfynwyd argymell i’r Pwyllgor Gwaith ei fod yn cymeradwyo datblygu Cynllun Gofal Ychwanegol ar dir Cyngor Sir Ynys Môn yn Nhyddyn Mostyn, Porthaethwy.