7.1 – FPL/2021/304 - The Lodge, Capel Bach, Rhosybol https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00 000QbNP3UAN/fpl2021304?language=cy
7.2 – FPL/2021/302 - Bunwerth, Bae Trearddur, Caergybi https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00 000QbN4uUAF/fpl2021302?language=cy
|
Cofnodion:
7.1 FPL/2021/304 – Cais ôl-weithredol i ddefnyddio carafán sefydlog ar gyfer gwyliau yn The Lodge, Capel Bach, Rhosybol
(Ar ôl datgan cysylltiad personol oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â’r cais, gadawodd y Cynghorydd Robin Williams y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r penderfyniad).
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd y 12fed o Ionawr 2022, argymhellodd y Pwyllgor y dylid ymweld yn rhithwir â safle’r cais. Cynhaliwyd ymweliad rhithwir â’r safle wedi hynny,16 Ionawr, 2022. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd 2 Chwefror 2022, penderfynodd y Pwyllgor gymeradwyo'r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog, gan yr ystyriwyd ei fod yn rhan o fenter dwristiaeth gyfredol a'i fod o ansawdd uchel. O’r herwydd, ystyriwyd ei fod yn cydymffurfio â pholisïau cynllunio PCYFF 1 a TWR 3 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y gwnaed y cais i newid y defnydd o fod yn un ar gyfer carafán sefydlog at ddibenion achlysurol yn un ar gyfer llety gwyliau. Cydnabuwyd bod gan y safle Drwydded Clwb Carafanau am bum carafán deithiol a bod lle wedi ei drosi’n lle gwyliau ar y safle ond ystyriwyd y rhain yn opsiynau llety gwyliau amgen yn hytrach na chyfleusterau cysylltiedig. O’r herwydd, nid oedd y bwriad yn cydymffurfio 'r â’r canllawiau yn y Canllawiau Cynllunio Atodol. Nodai Canllawiau Cynllunio Atodol Cyfleusterau a Llety Twristiaeth na châi ceisiadau am garafanau, cabanau neu bodiau unigol oedd wedi’u gosod mewn cae neu o fewn cwrtil anheddau preswyl heb unrhyw gyfleusterau cysylltiedig, eu hystyried yn ddatblygiadau o ansawdd uchel ac, felly, nid oeddynt yn cyd-fynd â Pholisi TWR 3. Nid oedd y math yma o ddatblygiadau yn gwella math ac ansawdd yr hyn a gynigir i dwristiaeth yn ardal y cynllun a gallai effeithiau cronnol datblygiadau o'r fath gael effaith negyddol ar y dirwedd. Aeth y Rheolwr Datblygu Cynllunio ymlaen i ddweud y byddai caniatáu’r cais yn creu cynsail ar gyfer datblygiadau eraill o’r fath ac, felly, nid ystyrid bod y datblygiad arfaethedig yn cydymffurfio â’r polisïau cynllunio perthnasol yma. Dywedodd mai gwrthod y cais oedd yr argymhelliad yn dal i fod.
Dywedodd y Cynghorydd Aled M Jones, Aelod Lleol, bod cyfarfod blaenorol y Pwyllgor hwn wedi caniatáu’r cais oherwydd yr ystyriwyd bod y garafán sefydlog bresennol ar y safle yn rhan o fenter dwristiaeth gyfredol ac yn cynnig llety gwyliau o’r safon uchaf. Roedd lleoliad y safle yn gynaliadwy gan ei fod ym mhentref Rhosybol ac roedd yr ymgeisydd yn lleol i'r ardal. Gofynnodd y Cynghorydd Jones i'r Pwyllgor ailddatgan ei benderfyniad blaenorol i ganiatáu'r cais.
Dywedodd y Cynghorydd Ieuan Williams fod nifer o garafanau sefydlog ar draws yr Ynys yn cael eu defnyddio ar gyfer gwyliau, yn groes i amodau cynllunio. Fodd bynnag, roedd yr ymgeisydd wedi cyflwyno cais ffurfiol i'r awdurdod cynllunio i ddefnyddio carafán sefydlog ar gyfer llety gwyliau. Nododd fod gan y safle lety gwyliau ar y safle ynghyd â Thrwydded Clwb Carafanau ar gyfer pum carafán deithiol. Aeth yn ei flaen i ddweud mai, iddo ef, mater o opsiwn gwahanol yw p’run a oedd y carafanau sefydlog o safon uchel ac roedd yn amlwg ar yr ymweliad rhithwir â’r safle bod y safle o safon uchel ar gyfer llety gwyliau i dwristiaid. Cynigiodd y Cynghorydd Ieuan Williams y dylid ail-gadarnhau penderfyniad blaenorol y Pwyllgor i ganiatáu’r cais. Eiliodd y Cynghorydd Vaughan Hughes ganiatáu’r cais.
PENDERFYNWYD ailddatgan cymeradwyaeth flaenorol y Pwyllgor i'r cais, yn groes i argymhelliad y Swyddog.
7.2 FLP/2021/302 – cais llawn i newid defnydd tir o fod yn un amaethyddol i un i gymryd deg carafán deithiol yn ‘Bunwerth’, Trearddur
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais dau aelod lleol. Yn ei gyfarfod a gynhaliwyd y 12 Ionawr, 2022, argymhellodd y Pwyllgor y dylid ymweld yn rhithwir â safle’r cais. Ymwelwyd yn rhithwir â’r safle wedi hynny, 26 Ionawr, 2022. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd 2 Chwefror, 2022, penderfynodd y Pwyllgor ganiatáu’r cais yn groes i argymhelliad y Swyddog, gan yr ystyrid na fyddai’r bwriad yn cael effaith ar yr AHNE oherwydd ei fod yn safle teithiol oedd wedi'i gyfyngu i ddefnydd tymhorol ac y byddai’r ymgeisydd yn sgrinio rhagor ar y safle.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod bylchau yn y gwrych sgrinio, nid oedd yn uchel, a gogledd-ddwyrain y safle fyddai fwyaf gweladwy o'r briffordd. Byddai'r carafanau teithiol yn wyn ac, felly, yn ymwthiol. Roedd cynllun tirlunio wedi ei gyflwyno gyda'r cais cynllunio i atgyfnerthu'r sgrin bresennol. Roedd yn bwysig nodi, fodd bynnag, y byddai’n cymryd 5 - 10 mlynedd i'r sgrin sefydlu ac iddi ddod yn sylweddol effeithiol. Nid oedd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn ystyried bod y safle presennol wedi ei sgrinio'n dda a byddai hyn yn groes i faen prawf 1 Polisi Cynllunio TWR5 oedd yn datgan y dylai datblygiad fod mewn lleoliad anymwthiol, wedi'i sgrinio'n dda ac y gellid ei gymhathu'n hawdd i'r dirwedd, mewn ffordd nad oedd yn niweidio ansawdd gweledol y dirwedd yn sylweddol. Aeth yn ei flaen i ddweud fod Paragraff 5.3.5 Polisi Cynllunio Cymru yn datgan mai prif amcan dynodi AHNE oedd gwarchod a gwella eu harddwch naturiol ac y dylai penderfyniadau rheoli datblygu ffafrio cadwraeth harddwch naturiol. Cydnabuwyd mai maes carafanau teithiol oedd hwn ond byddai elfen o nodweddion parhaol megis y bloc toiledau, y trac a llain galed dan bob llain carafanau a byddai’r rhain yn cael effaith gydol y flwyddyn ar yr AHNE. Roedd yr argymhelliad yn parhau i fod yn un o wrthod y cais.
Darllenodd y Cadeirydd ohebiaeth yn cefnogi'r cais gan y Cynghorydd J Arwel Roberts, Aelod Lleol oedd yn cael trafferth ymuno â'r cyfarfod.
Dywedodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE, aelod lleol, ei fod yn ategu ei ganiatâd blaenorol i'r cais gan y byddai'r bwriad yn faes carafanau teithiol tymhorol ac nad oedd y safle’n weladwy o'r briffordd. Aeth yn ei flaen i ddweud fod maes carafanau mawr gyferbyn â'r safle ar gyfer storio dros y gaeaf. Cyfeiriodd ymhellach fod maes carafanau mawr yng Nghaergeiliog i'w weld o'r A55 gyda charafanau parhaol ar y safle gydol y flwyddyn. Cynigiodd y Cynghorydd Hughes y dylid ailddatgan penderfyniad blaenorol y Pwyllgor i ganiatáu’r cais. Eiliodd y Cynghorydd Eric Jones ganiatáu’r cais.
Gan fod y safle o fewn AHNE, dywedodd y Cynghorydd John Griffith ei fod yn cynnig bod y cais yn cael ei wrthod yn unol ag argymhelliad y Swyddog. Ni chafodd y cynnig hwn ei eilio.
PENDERFYNWYD ailddatgan cymeradwyaeth flaenorol y Pwyllgor i'r cais, yn groes i argymhelliad y Swyddog.
Dogfennau ategol: