12.1 – FPL/2021/316 – Bryn Glas, Llanrhuddlad https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00 000QbZfjUAF/fpl2021316?language=cy
12.2 – HHP/2021/331 - Glan y Mor, Ffordd y Traeth, Porthaethwy https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00 000O5fyLUAR/hhp2021331?language=cy
12.3 – FPL/2021/337 - Hen Safle Roadking, Stop Tryciau, Parc Cybi, Caergybi https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00 000Qc641UAB/fpl2021337?language=cy
12.4 – FPL/2021/332 – Traeth Coch https://ioacc.force.com/s/papplication/a1G4H00 000QbzgKUAR/fpl2021332?language=cy
Cofnodion:
12.1 FPL/2021/316 - Cais llawn i newid defnydd ac adnewyddu dau adeilad amaethyddol yn olchfa fasnachol ynghyd â gwella'r fynedfa yn 'Bryn Glas', Llanrhuddlad
(Wedi datgan diddordeb personol mewn perthynas â'r cais, dywedodd y Cynghorydd K Hughes, yn dilyn cyngor cyfreithiol, y câi siarad mewn perthynas â'r cais).
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais aelod lleol.
Gofynnodd y Cynghorydd K P Hughes, aelod lleol, am gael ymweld â’r safle oherwydd pryderon lleol bod y ffyrdd sy'n arwain at safle'r cais yn gul. Cynigiodd y Cynghorydd Hughes ymweld yn rhithwir â'r safle. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd John Griffith.
PENDERFYNWYD ymweld yn rhithwir â’r safle, yn unol â chais yr Aelod Lleol am y rhesymau a roddir.
12.2 HHP/2021/331 – Cais ôl-weithredol i gadw gwaith altro ac estyniadau sy’n cynnwys balconi yn ‘Glan y Môr’, Ffordd y Traeth, Porthaethwy
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais Aelod Lleol.
Dywedodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Robin Williams, ei fod, fel aelod lleol, wedi cyfeirio'r cais i'r Pwyllgor oherwydd gwrthwynebiad gan yr eiddo cyfagos i'r cais. Aeth yn ei flaen i ddweud fod trigolion yr eiddo cyfagos bellach wedi tynnu eu gwrthwynebiad i'r cais yn ôl.
Siaradwr Cyhoeddus
Wrth gefnogi ei gais, dywedodd Mr Craig Bonnington y dymunai egluro mai’r rheswm bod y disgrifiad o'r datblygiad yn cyfeirio at y gwaith fel gwaith rhannol ôl-weithredol yn deillio o gamddealltwriaeth ar eu rhan nhw a’u bod wedi credu bod y newidiadau yn ddatblygiad a ganiateir. Pan ddaeth y camgymeriad i'r amlwg, roeddynt wedi gweithio gyda Swyddogion y Cyngor i sicrhau fod y bwriad yn dderbyniol o ran effaith ar yr Ardal Gadwraeth ac ar gymdogion. Yn adroddiad y pwyllgor, cyn y cyfarfod hwn, roedd ganddynt nawr gynnig oedd yn gwella’r adeilad hwn mewn modd oedd yn gydnaws â’r Ardal Gadwraeth. Fe’i cefnogid gan eich Swyddog Cadwraeth, a hefyd, ni chodwyd unrhyw wrthwynebiad gan Gyngor Tref Porthaethwy. Yn ogystal â mesurau i sicrhau fod dyluniad y bwriad yn dderbyniol, bu cyfaddawdu i sicrhau y diogelid preifatrwydd eu cymydog. Yn naturiol, roeddynt yn dymuno manteisio ar y golygfeydd tuag at y Fenai, fel y byddai pawb yn y lleoliad hwn. Eisoes, roedd ffenestri mawr yn wynebu'r de tuag at y Fenai ac roedd y bwriad yn newid y rhain i ddrysau Ffrengig oedd yn arwain allan i falconi cul. Byddai’r olygfa'n dal i wynebu’r Fenai yn hytrach na'u cymydog i'r ochr. Er mwyn sicrhau y cynhelid eu preifatrwydd, roedd y bwriad bellach yn ychwanegu sgrîn gwydr tywyll 1.8 medr i ochr y balconi bach. Y gobaith oedd bod y ffaith nad oedd yr un o’r cymdogion wedi penderfynu annerch y pwyllgor heddiw, bellach, yn arwydd bod y bwriad yn dderbyniol iddynt, o gofio’r cyfaddawdu a fu o ran dyluniad a diogelu preifatrwydd,
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai gwaith i gadw’r balconi yng nghefn y tŷ, oedd yn cael ei adnewyddu ar hyn o bryd, oedd y gwaith datblygu arfaethedig. Y bwriad oedd tynnu to brig a gosod balconi / rhodfa yn ei le fyddai’n arwain i ffwrdd o'r ddwy ystafell wely. Roedd balconi yn ymestyn 1 medr o ffasâd cefn yr eiddo ac yn mesur 7.3 medr ar hyd ei edrychiad cefn. Byddai dau ddrws Ffrengig yn cymryd lle'r ddwy ffenestr bresennol nad oeddynt yn agor. O gofio pa mor agos oedd y balconi a'r eiddo cyfagos, câi sgrin gwydr tywyll 1.8 medr o uchder ei gosod ar y naill ben a'r llall i'r bwriad er mwyn lliniaru unrhyw effeithiau posibl o edrych drosodd.
Cynigiodd y Cynghorydd K P Hughes ganiatáu’r cais. Eiliodd y Cynghorydd Eric W Jones y cynnig hwn.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.
12.3 FPL/2021/337 – Cais llawn i godi Cyfleuster Ffiniau Mewndirol (IBF) yn hen Arhosfan Dryciau Roadking, Parc Cybi, Caergybi
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gan fod y datblygiad arfaethedig yn rhan o seilwaith cenedlaethol yn ymwneud â gwirio nwyddau a gâi eu mewnforio o’r Undeb Ewropeaidd a’u hallforio iddo.
Siaradwyr Cyhoeddus
Roedd Mr Iain Leech a Mr Barry Chadwick yn bresennol yn y cyfarfod er mwyn cefnogi'r cais. Dywedodd Mr Iain Leach fod y datblygiad o bwysigrwydd cenedlaethol o ran gwaith hanfodol o wirio nwyddau a ddeuai i mewn i'r wlad ac allan ohoni, gyda chefnogaeth Porthladd Caergybi. Roedd lleoliad y safle’n gynaliadwy gan ei fod ger y Porthladd; roedd yn safle tir llwyd a ger y rhwydwaith priffyrdd. Cyflwynwyd Asesiad o’r Effaith Economaidd gyda’r cais cynllunio a chanfuwyd y byddai’r datblygiad o fudd sylweddol i’r ardal leol a fyddai’n arwain at fuddsoddiad lleol sylweddol a hefyd yn creu cannoedd o swyddi, dros dro yn ystod y cyfnod adeiladu a chyflogaeth barhaol yn rhan o’r datblygiad. Mae gwaith wedi'i wneud gydag asiantaethau lleol i roi cyfleoedd cyflogaeth i bobl leol. Cafwyd canlyniad llwyddiannus gydag ymgeiswyr yn cael eu cyflogi o'r ardal leol gyda rhai o staff blaenorol RoadKing yn cael eu hailgyflogi. Byddai cyfleoedd cyflogaeth hefyd yn helpu gyda cholli swyddi neu oedi o fewn diwydiannau mawr yn yr ardal leol. Aeth Mr Leech yn ei flaen i ddweud y byddid yn hyrwyddo'r iaith Gymraeg, gyda holl arwyddion y safle yn Gymraeg yn gyntaf gyda chyfieithiad Saesneg. Dywedodd ymhellach fod ystod eang o asesiadau technegol ac amgylcheddol manwl wedi'u cynnal i gefnogi'r datblygiad nad oedd wedi arwain at unrhyw effaith amgylcheddol andwyol sylweddol ar yr ardal leol.
Gofynnodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE faint o gyfleoedd swyddi a fyddai’r datblygiad yn eu creu. Ymatebodd Mr Leech y bu gwaith dros dro ar y safle ers mis Ionawr 2022, gyda 150 o staff yn cael eu cyflogi ar hyn o bryd. Roedd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) wedi ymrwymo i hysbysebu unrhyw swyddi gwag pellach yn lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts y câi’r safle ei ddefnyddio’n flaenorol gan Roadking fel parc lorïau a gofynnodd a fyddai mesurau lliniaru yn eu lle i liniaru’r ffaith nad oedd gan gerbydau nwyddau trwm gyfleusterau i barcio. Ymatebodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio drwy ddweud bod disgwyl cais cynllunio mewn perthynas â Llain 9 ym Mharc Cybi am faes parcio parhaol ar gyfer cerbydau nwyddau trwm, fyddai’n lleddfu effeithiau symud o gyfleuster Roadking.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio bod y bwriad ym mhrif safle cyflogaeth warchodedig Parc Cybi. Yn unol â Pholisi CYFF 1, roedd y safle wedi ei ddiogelu ar gyfer defnydd tir oedd yn disgyn o fewn dosbarth defnydd B1, B2, B8 ac ychydig ‘ddefnydd unigryw’ (sui generis). Roedd y safle yn Safle Rhanbarthol Strategol o fewn Strategaeth Tir Cyflogaeth Ranbarthol Gogledd Cymru, a olygai y câi ei weld yn safle o bwysigrwydd rhanbarthol gyda rôl hanfodol o wneud cyfraniad rhanbarthol i amcanion datblygu economaidd cenedlaethol a chefnogi datblygiad sector allweddol. Deuai’r defnydd arfaethedig a wneid o’r safle o fewn y dosbarth defnydd unigryw (sui generis). Fel y nodid ym Mholisi Strategol PS13 (Darparu Cyfleoedd ar gyfer economi llewyrchus) y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, gallai rhai defnyddiau unigryw fod yn addas ar safleoedd cyflogaeth a ddiogelir. Defnyddiwyd y safle gan Roadking yn barc lorïau tebyg i'r defnydd arfaethedig. Ystyrid, felly, bod egwyddor y datblygiad yn cyd-fynd â Pholisi Strategol 13 a pholisi CYFF 1 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, a phrif fyrdwn y Polisi Cenedlaethol. Roedd safle'r cais ar stad ddiwydiannol ac roedd yn dir oedd eisoes wedi’i ddatblygu. Ar sail cynaliadwyedd, roedd Polisi Cynllunio Cymru yn hyrwyddo ailddefnyddio safleoedd o’r fath mewn aneddiadau presennol, lle'r oedd tir gwag neu dir na ddefnyddid digon arno, ar gyfer defnyddiau addas. Aeth ymlaen i ddweud fod y safle o fewn ffin datblygu Caergybi, lle'r oedd digon o gyfleusterau cyhoeddus gerllaw. Gwasanaethid y safle gan lwybrau cerdded a llwybrau beicio a gysylltai â gwasanaethau cyhoeddus eraill cyfagos, megis yr orsaf drenau a'r porthladd. Yn rhan o'r cais, roedd y datblygwr yn cynnig y ddau faes parcio beiciau a mannau gwefru cerbydau trydan yn rhan o'r bwriad. Gellid casglu, felly, y byddai’r datblygiad arfaethedig yn unol â Pholisi Cynllunio Cymru, NCT18 a’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd, o ran bod mewn lleoliad cynaliadwy.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio ymhellach, yn unol â Deddf Cynllunio (Cymru) 2015, bod dyletswydd ar Awdurdodau Cynllunio Lleol i roi ystyriaeth i’r iaith Gymraeg wrth wneud penderfyniad ar gais cynllunio, pan oedd yn berthnasol i’r cais hwnnw. Cefnogid hyn ymhellach gan Baragraff 3.28 Polisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 11, 2021) ynghyd â Nodyn Cyngor Technegol 20. Roedd angen Datganiad Iaith Gymraeg ar gyfer datblygiadau diwydiannol oedd yn mesur mwy na 1,000m2 neu'n cyflogi mwy na 50 o bobl. Roedd CThEM wedi dweud y byddai’r bwriad yn arwain at greu dros 200 o swyddi newydd. Ystyrid bod y mesurau a fwriadwyd gan y datblygwr yn ddigonol i hybu'r Gymraeg drwy annog cyflogaeth i bobl leol oedd yn byw yn yr ardal leol. Cyfeiriodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio at fudd economaidd y cais a nododd y byddai'r cynnig yn arwain at greu tua 390 o swyddi dros dro yn ystod y gwaith adeiladu a 175 o swyddi parhaol ychwanegol yn ystod y cyfnod gweithredu. Byddai'r swyddi fyddai'n cael eu creu yn agored i bawb ac roedd disgwyl y byddai nifer ohonynt yn cael eu llenwi gan weithwyr o ymhellach i ffwrdd. Fodd bynnag, roedd CThEM wedi cadarnhau y byddent yn ceisio annog cyflogaeth i bobl leol, lle bo modd. Yn ogystal, roedd CThEM wedi ymrwymo i gefnogi cyfleoedd ar gyfer prentisiaethau, lle'r oedd cyfleoedd i wneud hynny. Roedd Asesiad o’r Effaith Economaidd wedi'i gynnal ar gyfer y cynllun oedd wedi cyfrifo y byddai'r cynnig yn arwain at fuddsoddiad o tua £240m+ yn y DU, i'w ganoli ar Ynys Môn. Byddai hyn yn dod â nifer o fanteision economaidd yn ystod cyfnodau adeiladu a gweithredu'r datblygiad. Byddai unrhyw ganiatâd a roddid gan yr Awdurdod yn cynnwys amodau yn gofyn am gyflwyno Cynllun Cyflogaeth Leol a Chynllun Cadwyn Gyflenwi Leol i sicrhau y byddai’r datblygiad arfaethedig o fudd i'r ardal leol.
Cyfeiriodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio at effeithiau tirwedd a gweledol y datblygiad. Tra bod y safle o fewn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, câi rhan helaeth o’r datblygiad presennol ei gadw yn rhan o'r cais. Y rhain fyddai’r adeilad deulawr a mannau parcio. Byddai'r estyniad arfaethedig yn rhan ddeheuol yr adeilad presennol yn mesur oddeutu 17.6m o hyd ac oddeutu 13 medr o led gydag uchder crib o 6.4 medr. Byddai'r estyniad yn estyniad cyswllt i'r adeilad presennol. Ystyrid mai eilaidd fyddai’r datblygiad newydd hwn ac mai nodwedd fechan fyddai yng nghyd-destun cyffredinol y safle. Roedd datblygiadau newydd eraill yn cynnwys bloc archwilio a gyrwyr a fyddai'n adeilad mawr, tebyg i sied ar oleddf isel, ynghyd â mynedfa a phorthdai. Roedd Asesiad o'r Effaith ar y Dirwedd a Gweledol yn cyd-fynd â'r cais. Roedd yr Asesiad wedi dod i'r casgliad y byddai'r safle, ar ôl ei ddatblygu, yn dod yn rhan annatod o'r dirwedd o fewn ardal ddatblygu ehangach Parc Cybi. Câi amod ei atodi i sicrhau fod cynllun tirlunio a lliwiau allanol yn cael eu cyflwyno cyn dechrau gweithio ar y safle. Roedd Asesiad Ecolegol wedi'i gynnal ar gyfer y safle oedd yn cyd-fynd â'r cais cynllunio. Yn seiliedig ar ganfyddiad manwl Asiantaeth yr Amgylchedd, fel y nodwyd yn adroddiad y Swyddog, ystyriwyd y gellid ymgymryd â’r datblygiad, fel y’i bwriedid, heb amharu ar werth cadwraeth natur y safle a’r ardal o’i amgylch, gan gynnwys y safle dynodedig statudol agosaf. Byddai amod ynghlwm wrth unrhyw ganiatâd i’r cais mewn perthynas â’r uchod.
Cyfeiriwyd bod y bwriad am ddefnyddio'r safle 24 awr y dydd ac, felly, bod sicrhau golau allanol priodol a chydnaws yn ffactor pwysig. Er bod y safle presennol hefyd yn cael ei ddefnyddio 24 awr y dydd, roedd asesiad helaeth wedi ei wneud fel rhan o'r cais presennol. Roedd Asesiad Goleuadau yn cyd-fynd â'r cais ac roedd yr asesiad wedi dangos bod y cynllun goleuo arfaethedig yn welliant, o'i gymharu â'r cynllun presennol. Ymgynghorwyd ag Adain Gwarchod y Cyhoedd yr Awdurdod ynghylch y cais a daethant i'r casgliad y byddai'r datblygiad yn mabwysiadu arferion gorau fel rhan o'r gweithrediadau. Cydnabuwyd hefyd bod y bwriad yn golygu lleihau'r golau talaf ar y safle, fyddai'n sicrhau cyn lleied â phosibl o olau’n gollwng oddi ar y safle. Câi’r unedau goleuo eu cyfeirio at i lawr, ni fyddai unrhyw oleuo at i fyny. Byddai’r holl oleuadau allanol yn cael eu rheoli gan ffotogell a chloc amser, gyda chyfleuster lle byddai modd newid y goleuo gyda llaw er mwyn osgoi golau anfwriadol yn ystod golau dydd. Ystyrid na fyddai’r cynllun arfaethedig yn arwain at ollwng golau na llygredd golau - rhywbeth a fyddai’n cael effaith andwyol ar yr ardal leol uniongyrchol ac ehangach/amgylchedd lleol ac ar fwynder eiddo preswyl cyfagos. Câi amodau eu gosod ar unrhyw ganiatâd i sicrhau bod y goleuadau'n cael eu rheoli'n foddhaol.
Adroddodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y byddai’n rhaid rhoi ystyriaeth ofalus i'r effeithiau, yn enwedig i’r sŵn a ddeuai o'r safle, ar y defnyddiau cyfagos a’r preswylwyr, er bod y defnydd a wnaed o’r safle ar hyn o bryd yn barc lorïau tebyg i'r hyn a fwriedid. Roedd yr eiddo preswyl agosaf i'r safle oddeutu 250 medr i'r gorllewin o'r safle. Roedd eiddo preswyl cyfagos eraill oddeutu 400 medr i'r de. Roedd Premier Inn hefyd oddeutu 130 medr i'r gogledd-ddwyrain o'r safle. O ystyried y pellteroedd rhwng y safle a'r eiddo agosaf, ynghyd â defnyddiau tir yn y canol a'r tirlunio a fwriadwyd yn rhan o'r cynllun, ystyriwyd na fyddai unrhyw golli preifatrwydd na golau ac na fyddai’r strwythurau arfaethedig yn nodweddion gormesol. Roedd Asesiad Sŵn a Goleuadau wedi ei gynnal a'i gyflwyno yn rhan o'r cais. Daeth yr asesiad i'r casgliad na fyddai unrhyw effaith andwyol o'r lefelau sŵn a ragfynegwyd a, chan ystyried y cyd-destun, ystyrid y byddai lefelau sŵn yn isel. O ran y cerbydau nwyddau trwm oedd yn sefyll yn segur ar y safle, byddai gan CThEM bolisi dim segura. Yn ogystal, byddai pwyntiau cyswllt trydan yn cael eu cyflwyno ar y safle ar gyfer unrhyw gerbydau rheweiddiedig a allai fod ar y safle am gyfnod helaeth o amser ac y byddai angen eu rheweiddio'n barhaus. Roedd yr Asesiad Sŵn wedi dangos na fyddai'r datblygiad arfaethedig yn cael effaith andwyol ar yr amgylchedd sŵn ar y safle nac yn yr ardal leol. Roedd Adran Gwarchod y Cyhoedd wedi asesu’r cais ac nid oedd wedi codi unrhyw wrthwynebiad i’r datblygiad arfaethedig, gan eu bod yn fodlon gyda chasgliad yr Asesiad Sŵn ynghyd â gosodiad baeau’r cerbydau nwyddau trwm a’r ffaith fod yr ymgeisydd yn mabwysiadu arferion gorau o ran cyfyngu ar nifer y cerbydau nwyddau trwm fyddai’n sefyll yn segur. Fodd bynnag, câi amodau eu gosod yn rhan o unrhyw ganiatâd i sicrhau y câi materion, megis sŵn a golau, eu rheoli i sicrhau nad oedd datblygiad arfaethedig yn cael effaith andwyol ar fwynderau preswyl.
Dywedwyd mai drwy hen fynedfa Road King i'r dwyrain o'r adeilad presennol y byddai’r mynediad i'r safle i’r holl gerbydau nwyddau trwm. Byddai cerbydau nwyddau trwm yn mynd drwy'r safle i'r mannau parcio ac archwilio. Byddai cyfanswm o 87 o leoedd parcio i’r cerbydau hyn ynghyd ag 20 llecyn ar gyfer faniau. Byddai cerbydau hyn yn gadael y safle drwy allanfa bresennol y safle i gornel de-ddwyreiniol y safle. Roedd CThEM yn rhagweld y gellid prosesu 350 o gerbydau o fewn 24 awr ar y safle. Dywedwyd ymhellach bod Asesiad o Drafnidiaeth a gyflwynwyd yn wreiddiol yn seiliedig ar ddata Arolwg Traffig a gafwyd yn ystod 2021, pan oedd y cyfyngiadau cysylltiedig â’r pandemig ar waith. O'r herwydd, roedd Llywodraeth Cymru wedi gofyn i'r ymgeisydd gyflwyno Asesiad diweddar o Drafnidiaeth gyda data Arolwg Traffig wedi'i ddiweddaru i adlewyrchu'n well yr amodau traffig gwaethaf ar gyfer amgylchedd cwbl weithredol. Yn ogystal, gofynnid hefyd i'r Arolwg Traffig ystyried effaith traffig yn gorfod oedi oherwydd gwaith, nid yn unig ar Gyffordd 2 a phrif reilffordd yr A55, ond hefyd effaith oedi o'r fath ar y Porthladd a'r cymunedau lleol o fewn cyffiniau'r datblygiad. Roedd Llywodraeth Cymru, hefyd, wedi gofyn i asesiad risg gael ei gyflwyno ar gyfer amrywiol sefyllfaoedd gweithredol ar y safle, gan gynnwys materion TGCh a phrinder staff ac y byddai’n ofynnol i’r ymgeisydd gynnal arolwg o gyflwr yr holl ffyrdd ymuno/ymadael oedd yn gysylltiedig â Chyffordd 2 yr A55.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio fod effaith gronnus y datblygiad arfaethedig gan gynnwys y cyfnod adeiladu yn fater pwysig i'w asesu yng ngoleuni datblygiadau eraill, nawr ac yn y dyfodol, yn enwedig prosiectau mawr. Roedd symud mannau parcio cerbydau nwyddau trwm ar ôl cau Arhosfan Lorïau Roadking yn fater pwysig yn yr ardal hon o Gaergybi. Câi Plot 9 ym Mharc Cybi ei ddefnyddio ar hyn o bryd ar gyfer parcio cerbydau nwyddau trwm dros dro, yn dilyn cau Road King. Cydnabyddid bod Adroddiad Ymgynghori Cyn Ymgeisio (PAC) wedi'i gynnal yn ddiweddar ac, felly, roedd yn bosibl y cyflwynid cais. Roedd y safle yn Safle Rhanbarthol Strategol o fewn Strategaeth Tir Cyflogaeth Ranbarthol Gogledd Cymru, a olygai y caiff ei weld yn safle o bwysigrwydd rhanbarthol gyda rôl hanfodol mewn gwneud cyfraniad rhanbarthol i amcanion datblygu economaidd cenedlaethol a chefnogi datblygiad sector allweddol. Byddai ailddatblygu'r arhosfan lorïau, na châi ei defnyddio bellach, ar gyfer defnydd tebyg, yn dod â nifer o fuddion drwy greu swyddi a darparu cyfleuster ffiniau pwysig. Byddai hefyd yn atal y safle a'r adeilad rhag dadfeilio a chreu dolur i’r llygad ar y dirwedd. Byddai amodau a mesurau lliniaru a gaiff eu cynnig yn sicrhau na fyddai’r datblygiad yn cael effaith andwyol ar ddiogelwch priffyrdd na'r rhwydwaith priffyrdd. Yr argymhelliad oedd caniatáu'r cais gydag amodau a rhoi pwerau dirprwyedig i'r Pennaeth Gwasanaeth wneud unrhyw fân newidiadau i’r amodau, yn ôl yr angen.
Dywedodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE fod trigolion lleol wedi mynegi pryderon/cwynion ynghylch y goleuadau ar y safle. Dywedodd, hefyd, fod cwynion wedi bod ynghylch y sŵn o unedau rheweiddio’r cerbydau nwyddau trwm a’r problemau parcio a gafwyd yn dilyn cau cyfleuster Road King gyda cherbydau nwyddau trwm yn parcio ar balmentydd ac mewn cyfleusterau siopa lleol gerllaw. Dywedodd y gellid gosod amod ar CThEM i dalu am blismona’r ardal o amgylch y datblygiad, er mwyn atal cerbydau nwyddau trwm rhag parcio’n anghyfreithlon. Aeth y Cynghorydd Hughes yn ei flaen i ddweud fod angen gorfodi amodau llym ar y goleuadau a'r sŵn o'r safle. Ymatebodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio drwy ddweud bod amodau yn ymwneud â golau a sŵn ar gyfer y cyfleuster wedi cael sylw fel rhan o unrhyw ganiatâd i'r cais. Fodd bynnag, nid oedd yn ystyried y gellid gosod amodau mewn perthynas â phlismona parcio cerbydau nwyddau trwm yn rhan o’r cais hwn. Dylid ystyried amodau o’r fath pan gâi cais cynllunio ei gyflwyno yng nghyswllt Llain 9 ym Mharc Cybi i barcio cerbydau nwyddau trwm ar y safle.
Gofynnodd y Cynghorydd Dafydd Roberts a oedd CThEM yn cyfrannu at Lain 9 ym Mharc Cybi. Ymatebodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio y câi’r cais mewn perthynas â Llain 9 ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru er mwyn mynd i’r afael â pharcio cerbydau nwyddau trwm yn anghyfreithlon yn yr ardal.
Dywedodd y Cynghorydd Eric Jones nad oedd yn credu bod y safle’n ddigon mawr yn sgil nifer y cerbydau nwyddau trwm fyddai’n mynd drwy’r cyfleuster. Dywedodd ymhellach fod digon o erwau ar y safle i ehangu'r cyfleuster er mwyn caniatáu i draffig symud yn gyflym.
Cynigiodd y Cynghorydd T Ll Hughes MBE gymeradwyo’r cais. Eiliodd y Cynghorydd K P Hughes y cynnig i ganiatáu.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig a dirprwyo pwerau i’r Pennaeth Gwasanaeth wneud unrhyw fân newidiadau i’r amodau, fel bo raid.
12.4 FPL/2021/332 – Cais llawn ar gyfer gwaith amddiffyn rhag llifogydd arfordirol yn Nhraeth Coch
Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion oherwydd iddo gael ei gyflwyno gan yr awdurdod lleol.
Dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynllunio mai cais oedd hwn am waith gwella amddiffynfeydd rhag llifogydd arfordirol yn Nhraeth Coch. Roedd y gwaith arfaethedig yn ymestyn o ‘Seagarth’ i'r gogledd i ychydig y tu hwnt i Dafarn Rhestredig Gradd II y Ship Inn i'r de. Roedd y safle mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ddynodedig ar hyd Llwybr Arfordir Cymru mewn parth llifogydd C2 a gerllaw Ardal Gwarchodaeth Arbennig Môr-wenoliaid Môn, o fewn 170 medr i Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig/GCR Trwyn Dwlban ac o fewn 850 medr i Ardaloedd Cadwraeth Arbennig y Fenai a Bae Conwy ac Ardal Gwarchodaeth Arbennig Bae Lerpwl. Roedd yr amddiffynfeydd arfordirol presennol wedi’u hadeiladu ar wahanol adegau ac wedi hindreulio, colli eu lliw a'u difrodi. Roedd y ffiniau presennol yn gymysgedd o goncrit rhag-gastiedig, waliau cerrig morter gyda darnau o reiliau metel a phren ar eu pen yn anghydnaws â'r lleoliad gwledig. Byddai'r wal/amddiffynfa yn 6.06 uwchlaw Datwm Ordnans a fyddai, gan ddibynnu ar lefelau ffordd/llwybrau presennol, yn golygu y byddai'r strwythurau amddiffyn arfaethedig, at ei gilydd, yn 1.2 - 1.3 metr uwchlaw lefelau presennol I er, mewn lleoliadau (i'r de-ddwyrain o Adran 3), byddai tua 1.7 metr o uchder. O'r mathau o waliau a fwriedid: Roedd mathau A ac C wedi'u gorchuddio â gwaith maen, gyda math B yn banel gwydr ar ben sylfaen wedi'i rhag-gastio. Y bwriad oedd i uchder y panel gwydr fod rhwng 600cm a 1300cm gyda'r raddfa / dyluniad yn dibynnu ar eraill. Ychwanegodd y byddai’r gwaith amddiffyn mewn 6 rhan, fel y nodwyd yn adroddiad y Swyddog, gyda gwahanol ddeunyddiau’n cael eu defnyddio i wneud y gwaith. Byddai’r wal a'r paneli arfaethedig yn uwch na'r strwythurau terfyn presennol ac, felly, yn dod yn nodwedd amlycach. Byddai'n lleihau rhywfaint o'r natur agored rhwng y Llwybr Arfordirol presennol rhyw fymryn. Ar ôl pwyso a mesur, ni ystyrid y byddai’r bwriad yn effeithio ar harddwch naturiol, nodweddion AHNE na rhinweddau arbennig yn ymwneud â’r dirwedd pe ceid amodau. Byddai’r amodau hyn yn ymwneud â manylion priodol deunyddiau/ymddangosiad y wal a fyddai’n cynorthwyo i gyfyngu ar newid gweledol andwyol i gymeriad lleol yn sgil y gwaith arfaethedig, ac arwain at well cydlyniant yn nyluniad y darn hwn o ffin arfordirol nag a geid ar hyn o bryd. Roedd y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr a Gyflwynwyd yn cadarnhau y câi Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu ei baratoi ar ôl penodi contractwr i sicrhau yr eid i’r afael ag atal llygredd yn effeithiol. Awgrymwyd neu bwriadwyd cael mesurau lliniaru yn yr amrywiol adroddiadau a gyflwynwyd, gan gynnwys trosolwg manwl o'r datblygiad arfaethedig a mesurau atal llygredd. Ynghlwm wrth y caniatâd, felly, byddai amod cyn-cychwyn fyddai’n ei gwneud yn ofynnol cyflwyno Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu manwl. Roedd Asesiad Canlyniad Llifogydd hefyd yn cyd-fynd â'r cais. Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi adolygu’r asesiad hwn ac yn cytuno y byddai’r cynllun arfaethedig yn welliant sylweddol ar gyfer amddiffyn yr eiddo preswyl, masnachol rhag llifogydd llanw, ynghyd â’r seilwaith a fyddai’n elwa o’r gwaith hwn. Daeth y Rheolwr Datblygu Cynllunio i’r casgliad yr ystyrid, felly, fod y datblygiad yn dderbyniol ac yn cydymffurfio â’r polisïau a grybwyllwyd yn adroddiad y Swyddog a, chydag amodau, ni ystyrid y byddai’r datblygiad yn cael effaith annerbyniol ar gymeriad ac edrychiad yr adeilad rhestredig AHNE dynodedig.
Cynigiodd y Cynghorydd Ieuan Williams ganiatáu’r cais. Eiliodd y Cynghorydd Vaughan Hughes y cynnig i ganiatáu.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig.
Dogfennau ategol: