Eitem Rhaglen

Cynllun Tuag at Carbon Sero Net Cyngor Sir Ynys Môn 2022-2025

I gyflwyno adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr yn ymgorffori Cynllun tuag at Net Sero Cyngor Sir Ynys Môn 2022-25 er ystyriaeth a sgrwitini’r Pwyllgor.

Dywedodd Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol, ei bod yn bleser fel Pencampwr Newid Hinsawdd y Cyngor, cael cyflwyno’r Cynllun Tuag at Sero Net sydd yn cynrychioli cam cyntaf ar daith y Cyngor i drawsnewid i sefydliad carbon sero net erbyn 2030. Er y bydd cyrraedd y targed hwn yn heriol a bydd angen buddsoddiad ariannol sylweddol, mae'r Cyngor eisoes wedi bod yn gwneud cynnydd i leihau ei allyriadau carbon a bydd y Cynllun yn adeiladu ar lwyddiant strategaethau a phrosiectau presennol, er enghraifft y Strategaeth Effeithlonrwydd Ynni a'r cynllun Ail-osod sef y buddsoddiad mwyaf a wnaed gan y Cyngor i leihau defnydd ynni ac allyriadau carbon, werth £2.4m. Mae angen cynllun clir a hyblyg sy’n mynd i’r afael â phob agwedd ar waith y Cyngor er mwyn galluogi’r Cyngor i gyflawni ei uchelgeisiau sero net erbyn 2030; cam pwysig yw sefydlu llinell sylfaen a system ar gyfer monitro ac adrodd ar gynnydd. Dylid ystyried y prosiect hwn yrrwr newid cadarnhaol, yn debygol o greu cyfleoedd ar ffurf sgiliau, hyfforddiant a rolau arbenigol yn ogystal â diwydiannau newydd ac mae'n bosibl mai dyma'r newid diwylliant mwyaf y bydd y Cyngor yn ei wynebu. Mae gan y Cyngor, ei bartneriaid, trigolion a busnesau i gyd ran i'w chwarae a bydd angen iddynt weithio gyda'i gilydd i gyflawni statws sero net.

Cytunodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod y newid arfaethedig yn sylweddol ac yn bellgyrhaeddol a bod yr amserlen yn heriol o ran y gwaith sydd i’w wneud. Mae’r Cynllun Tuag at Sero Net yn dynodi ymrwymiad y Cyngor i’r dasg ac yn gosod cyfeiriad i’r gwaith. Mae'n gynllun uchelgeisiol ond ar yr un pryd, yn gyraeddadwy ac mae'n nodi'n glir sut y bydd y Cyngor yn dod yn sero net erbyn 2030. Bydd cyflawni'r Cynllun yn golygu bod yn rhaid blaenoriaethu a bydd yn rhaid gwneud penderfyniadau, dewisiadau a chyfaddawdau anodd ar hyd y ffordd. Os caiff y Cynllun ei gymeradwyo, y camau nesaf fydd llunio cynllun gweithredu a chynllun monitro yn ogystal â chryfhau’r llinell sylfaen. Wrth osod cyfeiriad i'r gwaith y gobaith yw y gall y Cyngor ddatblygu'r cynllun yn rhaglen ehangach - un maes sy'n cael ei drafod ar hyn o bryd yw cynnwys ysgolion a phobl ifanc yn yr agenda hon.

Dywedodd y Rheolwr Newid Hinsawdd fod y Cynllun yn gam cyntaf ar y daith tuag at ddod yn Gyngor sero net erbyn 2030.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn y cyfarfod ar 28 Chwefror, 2022 yn gefnogol o’r Cynllun ac wedi ei argymell i'r Pwyllgor Gwaith.

 

Wrth groesawu’r Cynllun Tuag at Sero Net fel un a fydd yn dylanwadu ar weithrediadau’r Cyngor dros y blynyddoedd nesaf, cydnabu’r Pwyllgor Gwaith hefyd y bydd goblygiadau o ran arian ac adnoddau y bydd yn rhaid eu hystyried wrth gyflawni’r Cynllun yn llwyddiannus.

 

Penderfynwyd cefnogi Cynllun Tuag at Carbon Sero Net Cyngor Sir Ynys Môn 2022-2025.

 

Dogfennau ategol: