Eitem Rhaglen

Adroddiad Drafft Asesiad Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru 2022

I gyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) yn ymgorffori Crynodeb o Gynllun Gweithredu Gwefru Cerbydau Trydan Ynys Môn er ystyriaeth y Pwyllgor Gwaith.

 

Dywedodd y Cynghorydd  Bob Parry, OBE, FRAgS, wrth gyflwyno’r Crynodeb o’r Cynllun Gweithredu Gwefru Cerbydau Trydan, ei fod yn cysylltu â’r eitem flaenorol o ran cefnogi amcan y Cyngor o ddod yn sefydliad sero net erbyn 2030. Mae cyflawni’r Cynllun Gweithredu Gwefru Cerbydau Trydan yn dibynnu ar sicrhau cyllid allanol; bydd mabwysiadu'r Cynllun yn rhoi llwyfan i'r Cyngor wneud bidiau cryf yn seiliedig ar dystiolaeth am gyllid o'r fath a darparu dull gweithredu cyson ar gyfer y cyfnod cyflawni.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) fod y Cynllun Gweithredu Cerbydau Trydan yn ymwneud â gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan yn asedau’r Cyngor i’w defnyddio gan staff a cherbydau’r Cyngor a hefyd lle bo’n briodol, i’r cyhoedd eu defnyddio; bydd unrhyw ddarpariaeth breifat yn ychwanegol at ddarpariaeth y Cyngor. O ystyried bod bwriad dod a gwerthu cerbydau petrol a disel i ben yn 2030, mae'n bwysig bod gan y Cyngor gynllun yn ei le i fod yn barod ar gyfer y newid i gerbydau trydan; mae Cynllun Trawsnewid Fflyd yn cael ei baratoi ar wahân i egluro a dangos sut y bydd y Cyngor yn datgarboneiddio ei gerbydau fflyd ei hun. Mae'r Cynllun Gweithredu Cerbydau Trydan yn uchelgeisiol ac mae ei gyflawni yn amodol ar sicrhau cyllid grant allanol, mae'r costau llawn yn amodol ar gadarnhad a gwaith ymchwil pellach sydd ei angen o ran y mathau o seilwaith gwefru sydd eu hangen ac argaeledd cyflenwad pŵer. Mae’r Cyngor mewn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a Scottish Power ynghylch y materion hyn. Mae'r Cynllun Gweithredu wrth ddangos ymrwymiad y Cyngor i weithredu isadeiledd gwefru sy'n cwrdd â gofynion trigolion ac ymwelwyr yr Ynys, ac wrth fod yn glir sut y mae'n bwriadu gwneud i hynny ddigwydd, yn golygu y bydd y Cyngor mewn sefyllfa dda i fanteisio ar gyfleoedd cyllid  grant pan fyddant ar gael. Dylid nodi hefyd y bydd seilwaith gwefru cerbydau trydan y Cyngor yn gwbl ddwyieithog ac yn cydymffurfio â deddfwriaeth yr iaith Gymraeg.

 

Dywedodd yr Uwch Beiriannydd (Cludiant Strategol a Chynaliadwy) y bydd y Cynllun Gwefru Cerbydau Trydan yn cyfrannu at ddatgarboneiddio’r sector trafnidiaeth o safbwynt Ynys Môn a’i fod yn cyd-fynd â Llwybr Newydd – Strategaeth Trafnidiaeth Cymru sy’n gosod y fframwaith ar gyfer datgarboneiddio’r sector trafnidiaeth yng Nghymru gyfan a Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan i Gymru. Cyfeiriodd at yr heriau wrth gyflawni'r Cynllun gyda chyllid a chyflenwad pŵer ymhlith yr heriau mwyaf sylweddol. Bydd monitro datblygiadau wrth i dechnolegau esblygu a rhai newydd gael eu cyflwyno hefyd yn bwysig er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn parhau i fod yn gyfredol o ran y sector newydd hon sy’n newid o hyd. Fodd bynnag, bydd y Cynllun Gweithredu yn darparu llinell sylfaen gadarn i adeiladu arni a symud ymlaen.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn y cyfarfod ar 28 Chwefror, 2022 wedi cymeradwyo'r Cynllun Gweithredu gyda chwestiynau'n cael eu gofyn am ddatblygu technolegau amgen megis hydrogen, tariffau ar gyfer defnydd cyhoeddus o bwyntiau gwefru ac agwedd y Cyngor at orfodi mewn achosion lle mae cerbydau'n aros yn hirach na'r amseroedd gwefru.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Datblygu Economaidd a Phrosiectau Mawr at yr wyth egwyddor a nodir yn y cynllun a fydd yn llywio dull y Cyngor o ddarparu ystod o gyfleusterau gwefru a oedd, yn ei farn ef, yn cynnwys yr ystyriaethau allweddol ac yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer symud ymlaen. Tynnodd sylw at y ffaith bod y Cyngor wedi bod yn ymwneud â gweithgareddau datgarboneiddio ers nifer o flynyddoedd a bod y gwaith hwn bellach yn cael ei ddwyn ynghyd mewn cynlluniau a fydd yn symud y Cyngor yn ei flaen ac yn ei helpu i gwrdd â'r her o ehangu'r seilwaith gwefru cerbydau trydan ar yr Ynys fel mae nifer y cerbydau trydan yn cynyddu.

 

Penderfynwyd –

 

·         Cymeradwyo’r Grynodeb o Gynllun Gwefru Cerbydau Trydan Ynys Môn (mae’r ddogfen dechnegol fanylach Cynllun Gwefru Cerbydau Trydan Ynys Môn, ar gael ar gais).

·         Cymeradwyo datblygu a chyflwyno ceisiadau am gyllid allanol i symud ymlaen â’r cyflawni.

·         Cefnogi ystyriaeth o ofynion seilwaith gwefru cerbydau trydan yn Strategaeth Gyfalaf newydd y Cyngor (i’w datblygu) ac ar sail achosion unigol pan fydd prosiectau seilwaith cyfalaf yn cael eu datblygu a’u gweithredu (gan gynnwys tai, unedau busnes, moderneiddio ysgolion, darpariaeth gofal ychwanegol, adfywio canol trefi a seilwaith arfordirol / twristiaeth ac ati.)

 

 

Dogfennau ategol: