Eitem Rhaglen

Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb- 2020/21

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro Dros Dro.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – yr Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2020/21 i’w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod yr Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol yn dangos ymrwymiad y Cyngor i sicrhau fod cydraddoldeb yn rhan o brif ffrwd waith yr Awdurdod. Mae hyn yn cynnwys amlinelliad o gynnydd yn erbyn gwaith sy’n ymwneud â blaenoriaeth y Cyngor i sefydlu proses gorfforaethol effeithiol i sicrhau asesiad parhaus o effaith ar draws gwasanaethau.

 

Dywedodd y Rheolwr Polisi a’r Gymraeg fod Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED) yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod cyhoeddus sy’n dod o dan Reoliadau Dyletswyddau Statudol Deddf Cydraddoldeb 2010 (Cymru) 2011 gyhoeddi adroddiad cydraddoldeb blynyddol erbyn 31 Mawrth y flwyddyn ar ôl pob cyfnod adrodd. Cyflwynodd Llywodraeth Cymru ddyletswyddau penodol i gynorthwyo cyrff cyhoeddus yng Nghymru i gyflawni’r ddyletswydd gyffredinol hon. Mae'r dyletswyddau penodol hyn yn cynnwys gofyniad i ddatblygu a chyhoeddi amcanion cydraddoldeb a Chynlluniau Cydraddoldeb Strategol o leiaf unwaith bob pedair blynedd. Pwrpas yr Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol yw dangos sut mae'r Cyngor wedi cyflawni'r dyletswyddau cydraddoldeb cyffredinol a phenodol. Dywedodd ymhellach fod y data cyflogaeth yn yr adroddiad yn cwmpasu’r cyfnod rhwng 1 Ebrill, 2020 a 31 Mawrth, 2021.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a gwnaeth y prif bwyntiau a ganlyn: -

 

·      Gofynnwyd a oes modd addasu'r Adroddiad Blynyddol i fod yn hygyrch a'i ysgrifennu mewn ffordd sy'n haws ei ddeall. Ymatebodd y Rheolwr Polisi a'r Gymraeg y gellir addasu'r ddogfennaeth ond bod angen cynnwys y data a'r wybodaeth benodol. Fodd bynnag, pwysleisiodd fod angen mynd i'r afael â'r prif negeseuon mewn perthynas â chydraddoldeb ac y bydd ystyriaeth yn cael ei roi i sut i gyflwyno'r wybodaeth o fewn yr adroddiad er mwyn rhoi sylw i fyfyrio priodol o fewn y fframwaith a osodwyd;

·      Cyfeiriwyd at y graffiau gwybodaeth cyflogaeth yn yr adroddiad a mynegwyd pryderon y gallai unigolion wrthwynebu cael eu labelu gan nodwedd warchodedig. Ymatebodd Arweinydd y Cyngor er ei bod yn derbyn y sylwadau a wnaed, bod Llywodraeth Cymru yn disgwyl y data;

·      Holwyd pa gamau sydd wedi eu rhoi ar waith i sicrhau nad yw plant a phobl fregus yn profi anghydraddoldeb o ganlyniad i'r pandemig. Ymatebodd Arweinydd y Cyngor fel y gwelir o fewn yr adroddiad ynglŷn â’r modd y mae’r Adran Addysg wedi ymateb yn ystod y pandemig gyda Chromebooks yn cael eu rhoi i’r plant a mynediad i’r rhyngrwyd wedi ei ddiogelu er mwyn i’r plant allu derbyn addysg gartref. Dywedodd ymhellach fod y Gwasanaeth Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi gweithio i adnabod plant bregus gyda chynlluniau ar y cyd a Swyddogion Lles yn cydweithio i gwrdd â’u hanghenion. Pob ysgol wedi derbyn grant ‘Carlam Cymru’ er mwyn hwyluso’r ysgolion i fynd i’r afael â’r heriau yn eu hysgolion;

·      Gofynnwyd a yw'r Cyngor wedi cyflawni'r amcanion cydraddoldeb. Ymatebodd Arweinydd y Cyngor fod yr Awdurdod wedi cyflawni ei nodau cydraddoldeb fel oedd yn bosibl, tra bod y pandemig wedi bod yn heriol gyda phobl yn gorfod hunan-ynysu ac yn methu â chymdeithasu. Mae'r amcan cydraddoldeb yn rhan annatod o waith y Cyngor a chaiff cynnydd ei fesur dros gyfnod estynedig yn hytrach na chyfnod o ddeuddeng mis;

·      Codwyd cwestiynau ynghylch sut y bwriedir sicrhau bod y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn dod yn rhan annatod o waith y Cyngor. Ymatebodd Arweinydd y Cyngor fod trafodaethau wedi eu cynnal yn y ‘sesiynau briffio aelodau etholedig’ i godi ymwybyddiaeth o ddyletswydd economaidd-gymdeithasol y Cyngor. Nododd fod y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol wedi'i chodi ym Mwrdd Uchelgais Gogledd Cymru er mwyn gallu gwneud gwahaniaeth i gymunedau lleol pan fydd darpar ddatblygwyr yn buddsoddi yn ardaloedd lleol yr Ynys;

·      Nodwyd y gall tlodi o fewn cymunedau gael effaith ar addysg. Pwysleisiwyd ei bod yn hollbwysig i blant a phobl ifanc gael y cyfle i gyrraedd eu llawn botensial a'u galluogi i ymgeisio am gyfleoedd cyflogaeth. Ymatebodd Arweinydd y Cyngor y byddai agor yr ysgolion newydd ar yr Ynys mewn ardaloedd difreintiedig yn annog ac yn datblygu plant a phobl ifanc i allu cyrraedd eu llawn botensial.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2020/21.

 

GWEITHRED : Fel y nodwyd uchod.

 

 

Dogfennau ategol: