Cyflwyno adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr.
Cofnodion:
Cyflwynwyd - adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr mewn perthynas â’r uchod.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod gan y Cyngor ddyletswyddau ar gyfer cynllunio ac ymateb i argyfyngau o dan Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004, Rheoliadau Ymbelydredd (Parodrwydd Argyfwng a Gwybodaeth Gyhoeddus) 2001, a Rheoliadau Diogelwch Piblinellau 1996. Mae'r Cyngor yn brif ymatebwr ac yn cwrdd â’i ddyletswyddau drwy gydweithio ag Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru drwy Wasanaeth Cynllunio Argyfwng Rhanbarthol Cyngor Gogledd Cymru.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr mai Gogledd Cymru yw’r rhanbarth cyntaf yng Nghymru i ffurfio gwasanaeth cwbl integredig i gefnogi’r holl Gynghorau i gyflawni eu dyletswyddau. Fe'i cefnogir gan Fwrdd Gweithredol o bob un o'r chwe Chyngor. Ategir hyn gan Gytundeb Lefel Gwasanaeth a Chytundeb Rhwng Awdurdodau. O fewn y Cyngor, rhennir cyfrifoldebau ar gyfer cynllunio ac ymateb i argyfyngau ar draws gwasanaethau a chaiff cynrychiolwyr gwasanaeth enwebedig eu nodi o fewn strwythur y Tîm Rheoli Ymateb i Argyfwng. Dywedodd ymhellach fod gweithio mewn partneriaeth â’r gwasanaethau brys, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn hanfodol i fynd i’r afael ag unrhyw argyfwng sy’n codi. Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr mai’r gobaith yw y bydd mesurau brys yn ymwneud â’r pandemig yn lleddfu a’i bod yn amserol i’r Gwasanaethau Cynllunio at Argyfwng adolygu’r gweithdrefnau a dysgu a gwella unrhyw weithdrefnau brys yn y dyfodol yn dilyn y pandemig.
Dywedodd y Rheolwr Rhanbarthol – Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng Rhanbarthol Cyngor Gogledd Cymru fod y Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng Rhanbarthol yn gallu cydymffurfio â’i ddyletswyddau statudol yn ystod y pandemig. Roedd y Gwasanaeth yn cefnogi awdurdodau lleol a’r gwasanaethau iechyd i nodi canolfannau brechu, mynychu grŵp gwytnwch lleol a grwpiau cydgysylltu strategol ar ran yr awdurdodau lleol. Parhaodd gwaith aml-asiantaeth a rhoddwyd cynllun profi ymchwydd ar waith oherwydd y lefelau uchel o covid a nodwyd mewn rhai ardaloedd.
Dywedodd y Swyddog Rhanbarthol Cynllunio Argyfwng fod y Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng Rhanbarthol wedi gweithio ar y cyd gyda'r awdurdod lleol ac asiantaethau eraill yn ystod y stormydd diweddar. Mae’r Gwasanaeth hefyd wedi cefnogi’r awdurdodau lleol gyda’r streic bysiau a’r argyfwng tanwydd llynedd.
Cyflwynwyd - adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr mewn perthynas â’r uchod:-
· Gofynnodd y Cadeirydd a oedd gan gwmnïau ar yr Ynys eu gweithdrefnau argyfwng eu hunain yn yr un modd ag yng Ngorsaf Ynni Niwclear Wylfa pan gynhaliwyd ymarferion brys. Ymatebodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod y cwmnïau ar yr Ynys yn ymwybodol o'u dyletswydd statudol a'u bod yn cynnal ymarferion brys a gweithdrefnau hyfforddi. Mae’r sefydliadau a fyddai’n ymateb i unrhyw ddigwyddiad yn rhan o’r ymarferion hyn ac i wneud yn siŵr bod y broses ymateb mor gadarn â phosibl. Dywedodd y Rheolwr Rhanbarthol fod y Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng yn rhan o'r ymarfer brys gyda sefydliadau brys eraill. Mae hyn yn caniatáu i'r asiantaethau ar y cyd adeiladu perthynas waith dda â'i gilydd i fynd i'r afael ag unrhyw argyfwng a all godi;
· Nodwyd bod y stormydd diweddar wedi effeithio ar lawer o ardaloedd yn y DU gan arwain at golli trydan am nifer o ddyddiau. Holwyd a oes darpariaeth yn ei lle gan y Gwasanaeth Argyfwng Rhanbarthol i fynd i'r afael â cholli trydan o'r fath ar yr Ynys. Ymatebodd y Swyddog Rhanbarthol Cynllunio at Argyfwng y byddai pob asiantaeth yn cydweithio mewn argyfwng o'r fath gyda cholli pŵer oherwydd stormydd. Mae cydweithio yn digwydd gyda Scottish Power i fynd i'r afael â'u rôl;
· Cyfeiriwyd at y ddamwain ffordd ddifrifol ddiweddar ar ffordd Biwmares ac roedd y tagfeydd traffig yn peri pryder. Gofynnwyd a yw cyfathrebu â'r cyhoedd yn ddigonol. Ymatebodd y Dirprwy Brif Weithredwr gan ddweud bod angen rhoi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath i fodurwyr sy’n teithio yn yr ardal cyn gynted â phosibl. Fodd bynnag, er y gall cyfryngau cymdeithasol fod o fantais, gall difrod stormydd effeithio ar gysylltiadau rhyngrwyd ac mae angen rhoi prosesau wrth gefn ar waith.
PENDERFYNWYD nodi cynnydd gwaith Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng Rhanbarthol Cyngor Gogledd Cymru hyd yma.
GWEITHRED : Fel y nodwyd uchod.
Dogfennau ategol: