Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid gan gynnwys y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 3 blwyddyn ariannol 2021/22 ar gyfer ystyriaeth a sylwadau’r Pwyllgor.
Cyflwynodd Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 3, sef un olaf y Weinyddiaeth bresennol. Adroddodd yr Aelod Portffolio ei bod yn braf gallu adrodd am berfformiad cadarnhaol ar gyfer y cerdyn sgorio terfynol gyda 85% o Ddangosyddion Perfformiad Iechyd Corfforaethol (PIs) yn perfformio'n dda yn erbyn targedau (RAYG Gwyrdd neu Felyn) ac 82% o'r DP Rheoli Perfformiad yn perfformio uwchlaw'r targed neu o fewn 5% i'w targedau. Mae rhai o uchafbwyntiau’r perfformiad yn cynnwys y canlynol -
· Dangosydd 10 – Canran y cleientiaid NERS y mae eu hiechyd wedi gwella ar ôl cwblhau'r rhaglen ymarfer corff sydd â pherfformiad o 92% yn erbyn targed o 80%. Gohiriwyd y cynllun y llynedd oherwydd y pandemig a dyma'r tro cyntaf i gleientiaid gwblhau'r rhaglen ers iddi ailddechrau.
· Dangosydd 11 – Nifer yr eiddo gwag sydd yn ôl mewn defnydd, sef 73 eiddo erbyn hyn, yn erbyn targed blynyddol o 50.
· Mae dangosyddion Gwasanaethau Oedolion 16 i 19 i gyd yn Wyrdd yn erbyn y targed ac i gyd wedi gwella yn ystod y chwarter.
· Mae dangosyddion Digartrefedd 26 a 27 ar gyfer y Gwasanaeth Tai hefyd wedi perfformio'n dda gyda’r ddau yn Wyrdd yn erbyn y targed ac wedi gwella yn ystod y chwarter.
· Mae dau ddangosydd rheoli gwastraff – 31 a 33 hefyd wedi perfformio'n dda gyda 96% o strydoedd a arolygwyd yn y chwarter yn rhydd o wastraff a digwyddiadau tipio anghyfreithlon wedi'u clirio o fewn 0.3 diwrnod.
Lle mae achosion o berfformiad sy’n is na’r targed wedi’u nodi yn y Gwasanaethau Plant a Chynllunio, mae amgylchiadau lliniarol yn berthnasol ac mae camau adferol yn cael eu cymryd. Er bod perfformiad Dangosydd 32 – canran y gwastraff sy’n cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio wedi gwella o’i gymharu â’r 60.8% a adroddwyd ar ddiwedd Chwarter 2, ar 61.2% yn erbyn targed o 70% mae’n parhau’n Goch ac yn siomedig o ystyried perfformiad blaenorol cadarnhaol yr Awdurdod yn y maes hwn.
Dywedodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad fod Cyngor Sir Ynys Môn wedi derbyn cydnabyddiaeth fel un o'r awdurdodau lleol sy'n perfformio orau yng Nghymru cyn y pandemig; mae bod mewn sefyllfa i adrodd bod dros 80% o'r targedau a osodwyd wedi eu cwrdd mewn cyfnod sydd wedi bod yn heriol yn hynod o gadarnhaol.
Croesawodd y Pwyllgor yr adroddiad fel un a oedd yn adlewyrchu’n dda ar berfformiad yn gyffredinol ond heriodd y meysydd a ganlyn -
· Y dirywiad mewn perfformiad o ran canran y gwastraff sy'n cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio; er bod y Pwyllgor yn derbyn bod rhesymau dilys dros y tanberfformiad, yr oedd am wybod a oedd tystiolaeth i gysylltu cynnydd mewn gwastraff domestig biniau du â chynnydd yn nifer yr ymwelwyr â’r Ynys ac yn yr un modd a oedd tystiolaeth o bobl yn cael gwared â gwastraff gwyrdd mewn biniau du.
Dywedodd y Cynghorydd Bob Parry, OBE, FRAgS, Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo y gallai’r gostyngiad mewn perfformiad fod oherwydd nifer o resymau gan gynnwys y cynnydd mewn pobl yn gweithio gartref sy’n cynhyrchu gwastraff cartref ychwanegol a bod y blwch ailgylchu papur/cardbord yn rhy fach i ar gyfer y gwastraff gyda'r canlyniad bod unrhyw orlenwi yn mynd i'r bin du. Mae'r rhain yn faterion sy'n cael eu harchwilio gan y grŵp llywio a sefydlwyd yn ystod Chwarter 1 sy'n cynnwys cynrychiolwyr o WRAP Cymru, CLlLC ac aelod etholedig o'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol.
Dywedodd y Prif Swyddog Rheoli Gwastraff bod canran uchel o'r ymwelwyr â'r Ynys yn dod o Loegr, a bod llawer o'r ymwelwyr hyn yn dod o ardaloedd lle mae'r cyfraddau ailgylchu yn is ac o'r herwydd efallai nad yw'r arfer o ailgylchu yn gymaint o arferiad. Gall bod ar wyliau hefyd arwain at wahanol ymddygiad gydag ymwelwyr yn cymryd agwedd fwy hamddenol at ailgylchu/gwaredu gwastraff. Y canlyniad yw bod tunelledd gwastraff bin du wedi cynyddu'n sylweddol er gwaethaf y ffaith bod cyfraddau ailgylchu cartrefi'r Ynys wedi aros yn gyson. Y prif fater yw nodi beth sy'n achosi’r cynnydd mewn gwastraff bin du. Tra bod yr adroddiad yn rhoi esboniadau rhesymol am y cynnydd hwn, bydd y grŵp llywio gyda WRAP Cymru yn ymweld â’r Ynys i gynnal asesiad ymarferol yn ystod Chwarter 1 2022/23 a’r gobaith yw y bydd yn canfod y rheswm dros y cynnydd mewn gwastraff bin du. Mae cyfraddau ailgylchu wedi gostwng yn genedlaethol a dyna pam y sefydlwyd y grŵp llywio i asesu'r sefyllfa ledled y wlad. Fodd bynnag, er gwaethaf y dirywiad mewn perfformiad, mae Ynys Môn yn dal i fod ymhlith yr awdurdodau sy'n perfformio orau o ran y gwastraff y mae'n ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio. Bydd y grŵp llywio hefyd yn ymchwilio'r rhesymau dros y gostyngiad yn y tunelli o wastraff gwyrdd a gesglir er bod nifer y tanysgrifiadau i'r gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd yn uchel a'r yw bod rhywfaint o wastraff gwyrdd yn cael ei waredu yn y biniau du.
· Mewn cwestiwn dilynol roedd y Pwyllgor am wybod a oedd unrhyw dystiolaeth o wastraff gwyrdd yn cael ei dipio'n anghyfreithlon yng nghefn gwlad. Cadarnhaodd y Prif Swyddog Rheoli Gwastraff, er bod tipio anghyfreithlon yn digwydd yn ddyddiol, ni fu unrhyw gynnydd amlwg mewn tipio anghyfreithlon gwastraff gwyrdd. Eglurodd y Prif Swyddog Rheoli Gwastraff ymhellach nad yw'r Awdurdod ar hyn o bryd yn cymryd camau gorfodi am ddiffyg cydymffurfio - mae ailgylchu yn parhau i fod yn ddewisol ar yr Ynys; mae rhai Cynghorau yng Nghymru yn ystyried gorfodi fel ffordd ymlaen ac efallai mai dyma un o’r opsiynau a all ddod allan o waith y grŵp llywio.
· O ran amseroedd ymateb tipio anghyfreithlon, cadarnhaodd y Prif Swyddog Rheoli Gwastraff fod y Gwasanaeth a'i gontractwyr yn rhagweithiol wrth chwilio am achosion o dipio anghyfreithlon a'u clirio hyd yn oed cyn eu bod yn cael eu hadrodd.
· Holodd y Pwyllgor i ba raddau y mae’r pandemig Covid wedi effeithio ar berfformiad tra’n cyfeirio at Ddangosydd 23 – yr amser cyfartalog ar gyfer yr holl blant a oedd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant yn ystod y flwyddyn a gafodd eu dadgofrestru yn ystod y flwyddyn y roedd perfformiad wedi gostwng i 321 diwrnod yn erbyn targed o 270 diwrnod. Cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod pandemig Covid wedi cael effaith sylweddol a bod materion a oedd yn gudd yn ystod y pandemig bellach yn dod i’r amlwg ac i’w gweld ymhlith plant ysgol, staff a’r cyhoedd. Mae’r ychydig flynyddoedd nesaf yn debygol o fod yn heriol o ran delio ag ôl-effeithiau Covid 19.
Ar ôl ystyried adroddiad cerdyn sgorio Chwarter 3 2021/22 a’r eglurhad a ddarparwyd gan Swyddogion yn y cyfarfod, penderfynodd y Pwyllgor dderbyn yr adroddiad, nodi’r meysydd y mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn llwyddo i sicrhau gwelliannau yn y dyfodol ac argymell y mesurau lliniaru fel yr amlinellwyd i'r Pwyllgor Gwaith.
Dogfennau ategol: