Eitem Rhaglen

Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) 2022/23

Cyflwyno adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Tai.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Tai gan gynnwys Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 2022-2052 ar gyfer ystyriaeth a sylwadau’r Pwyllgor.

Cyflwynodd y Cynghorydd Alun Mummery, Aelod Portffolio Tai a Chefnogi Cymunedau yr adroddiad a’r Cynllun a’r nod yw cynllunio ymlaen i sicrhau bod cynllun ariannol hyfyw yn ei le ar gyfer stoc tai’r Cyngor.

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Tai fod y Cynllun yn y fformat y mae'r Cyngor wedi'i ddefnyddio yn flaenorol ar gyfer ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru sydd wedi'i gydnabod am lefel ei fanylder. Mae'r Cynllun yn parhau ar ffurf drafft a bydd diwygiadau a gwaith golygu pellach yn cael eu gwneud cyn ei gyflwyno'n derfynol i'w gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith. Mae’r adroddiad a’r Cynllun Busnes wedi’u paratoi ar y cyd â Swyddogion o’r Gwasanaeth Cyllid a’r Cynllun yw’r prif ddull ar gyfer cynllunio ariannol ar gyfer darparu a rheoli stoc tai’r Cyngor. Yn benodol, mae'r Cynllun Busnes yn dangos sut mae'r Cyngor yn dod â'i holl stoc i Safonau Ansawdd Tai Cymru; sut mae'r Cyngor yn bwriadu cynnal a rhagori ar SATC (WHQS) a gweithio tuag at ddatgarboneiddio ei stoc tai a'r buddsoddiad sydd ei angen i gynyddu'r stoc dai a'r ddarpariaeth o dai fforddiadwy. Mae Cynllun Busnes y CRT hefyd yn cyfrannu at yr holl themâu sylfaenol yng Nghynllun Corfforaethol y Cyngor. Y bwriad ar gyfer y dyfodol yw mireinio'r Cynllun Busnes yn ddogfen fyrrach sy'n edrych i'r dyfodol a chynhyrchu adroddiad blynyddol ar berfformiad a chyflawniadau.

Yn y drafodaeth a ddilynodd, cododd y Pwyllgor y pwyntiau a ganlyn -

·                  Gan nodi bod proffil tenantiaid y Cyngor yn gyffredinol yn unigolion 56 oed a throsodd gyda dim ond 10% rhwng 22 a 35 oed, roedd y Pwyllgor am wybod sut o ystyried pwyslais y Cyngor ar fynediad i dai fforddiadwy y gellid newid y ddemograffeg hon. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Tai fod y proffil tenantiaid yn seiliedig ar gyfanswm nifer y tenantiaid sy'n meddiannu tua 3,900 o gartrefi cyngor y Cyngor. Ar gyfartaledd, mae’r Cyngor yn gosod tua 260 o dai cyngor y flwyddyn neu 8% o’i stoc ac er bod tenantiaethau’r Cyngor yn cynnwys nifer o aelwydydd hŷn gyda thenantiaethau hirsefydlog, mae’r pwyslais o ran gosodiadau newydd ar y ddemograffeg iau.

·                  A oes gan y Cyngor y gallu a'r sgiliau arbenigol i gyflawni ei amcan o ddatgarboneiddio ei stoc tai erbyn 2030. Cydnabu Pennaeth y Gwasanaethau Tai y bydd cyflawni'r agenda datgarboneiddio yn heriol gan y bydd cynghorau eraill a darparwyr tai cymdeithasol yn ceisio cyflawni'r un newid a bydd yn cystadlu am yr un sgiliau ac adnoddau. Yn ogystal, nid yw canllawiau ynghylch yr hyn a ddisgwylir gan awdurdodau lleol wedi'u cyhoeddi eto. Fodd bynnag, bydd y Cyngor hefyd yn ceisio adeiladu ei sgiliau a’i weithlu ei hun i’w helpu i gyflawni sero net ar draws ei stoc tai erbyn 2030.

·                   A yw’r Cynllun Busnes yn ei ragamcanion ar gyfer darpariaeth tai, yn cymryd i ystyriaeth y newidiadau cymdeithasol a demograffig sydd wedi ac sy’n debygol o ddigwydd yn y dyfodol e.e. y cynnydd mewn aelwydydd sengl. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Tai fod y Cyngor yn datblygu nifer cynyddol o unedau un a dwy ystafell wely tra'n cydnabod bod yna hefyd brinder o unedau 4/5 ystafell wely mwy. Mae'r Cyngor yn ceisio gwneud y defnydd gorau o stoc a defnyddio ei stoc yn effeithiol i sicrhau bod yr ystod o anghenion tai yn cael eu cwrdd; mae hyn yn cynnwys cynllun annog symud i eiddo llai i gefnogi tenantiaid sy'n meddiannu eiddo mwy i symud i eiddo llai yn seiliedig ar eu hanghenion presennol ac yn y dyfodol.

·                   Gan nodi mai un o amcanion y Cyngor yw mynd i'r afael â thlodi gan gynnwys tlodi tanwydd, tynnodd y Pwyllgor sylw at y ffaith bod tenantiaid sy'n meddiannu eiddo'r cyngor a wasanaethir gan systemau gwresogi drutach ac yn aml llai effeithlon o dan anfantais ariannol i'r tenantiaid hynny sydd mewn eiddo lle mae'r system wresogi yn fwy effeithlon er y gallent fod yn talu'r un lefel o rent yn seiliedig ar faint yr eiddo. Holodd y Pwyllgor a yw'n briodol bellach ystyried amrywio rhenti i adlewyrchu'r system wresogi a osodwyd mewn eiddo. Wrth gydnabod y pwynt, cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Tai mai'r Polisi Rhent sy'n pennu'r rhenti a bod lefelau rhent yn seiliedig yn bennaf ar faint eiddo. Mae nifer o ffactorau’n cael eu hystyried wrth bennu lefelau rhent er nad yw system wresogi eiddo yn un o’r ffactorau hynny ar hyn o bryd. Cadarnhaodd nad oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i adolygu'r polisi.  

·                   Mewn ymateb i ymholiad am fethiannau derbyniol, eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Tai fod methiannau derbyniol yn berthnasol i achosion lle mae tenant yn gwrthod gwelliannau i'w cartref ac nad yw diogelwch yn bryder. Bydd y Cyngor yn gwneud y gwaith angenrheidiol yn unol â disgwyliadau SATC pan ddaw’r denantiaeth i ben a’r eiddo’n dod yn wag.

·                   Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Tai fod cynnwys y Cynllun Busnes CRT wedi cael adborth cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru yn hanesyddol. Er bod y Cyngor yn llai o ran maint o'i gymharu ag awdurdodau eraill yng Nghymru sydd wedi cadw eu stoc tai, mae'n cael ei weld fel un sydd ar flaen y gad o ran datblygiad tai cyngor / cymdeithasol newydd ac roedd hefyd yn gyflawnwr cynnar Safonau Ansawdd Tai Cymru.

 

Ar ôl ystyried y dogfennau a'r eglurhad a ddarparwyd yn y cyfarfod, penderfynodd y Pwyllgor argymell Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 2022-52 i'r Pwyllgor Gwaith i'w gymeradwyo a'i fabwysiadu.

 


Dogfennau ategol: