Eitem Rhaglen

Strategaeth Rhaglen Grant Cymorth Tai 2022-26

Cyflwyno adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Tai.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth Tai gan gynnwys y Strategaeth Rhaglen Grant Cymorth Tai 2022-26 ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor.

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Tai fod y Grant Cymorth Tai yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n cael ei harwain a'i rheoli gan awdurdodau lleol mewn partneriaeth ag Iechyd a Phrawf. Mae'n darparu gwasanaethau cymorth tai i bobl o amrywiaeth o grwpiau cleientiaid. Nod y rhaglen yw darparu cymorth tai i bobl allu cynyddu a chynnal eu hannibyniaeth trwy ddarparu ystod o wasanaethau cymorth tai arloesol a phrosiectau sy'n helpu i atal digartrefedd. Mae’n ymgorffori’r rhaglenni blaenorol a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru sef Cefnogi Pobl, Atal Digartrefedd a Rhentu Doeth Cymru. Fel rhan o Ganllawiau’r Grant Cymorth Tai, mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol gynhyrchu Asesiad Anghenion manwl 4 blynedd sy’n sail i’r Strategaeth Grant Cymorth Tai a Chynllun Cyflawni 3 Blynedd Cylchol Cymorth Tai y mae’n rhaid ei adolygu’n flynyddol. Mae'r Cynllun Cyflawni yn amlinellu sut mae'r Cyngor yn bwriadu gwario ei ddyraniad refeniw o £3.571m ar gyfer 2022-23 a ddyrannwyd rhwng Cymorth Tai (Cefnogi Pobl - £3.417m yn flaenorol); Atal Digartrefedd (£140k), Rhentu Doeth Cymru - £6,209k) gan adael £8,148k heb ei ymrwymo. Bu’r Strategaeth yn destun ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 5 Ionawr a 1 Chwefror, 2022 ac roedd 88% o’r rhai a ymatebodd yn cytuno ei bod yn cynnwys y materion a’r blaenoriaethau pwysicaf.

 

Cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Tai (Strategaeth, Comisiynu a Pholisi) fod y Strategaeth yn seiliedig ar ddarparu gwasanaethau cyffredinol ac wedi'u targedu i helpu pobl mewn argyfwng tai, atal digartrefedd a chefnogi annibyniaeth tai. Mae pandemig Covid-19 wedi gweld cynnydd yn y nifer o bobl sy’n ceisio cymorth a disgwylir y bydd y cynnydd hwn yn parhau i'r flwyddyn nesaf a bydd y galw yn y blynyddoedd wedyn a thu hwnt yn setlo ar lefel uwch nag o'r blaen. Mae'r Strategaeth yn ganlyniad i ymchwil ac ymgynghori sylweddol ac mae'n cyflwyno cynlluniau i ddarparu cymorth tai.

 

Wrth ystyried yr adroddiad cyfeiriodd y Pwyllgor at y canlynol –

 

·                  Diffyg unrhyw gyfeiriad at ymateb y Cyngor i ffoaduriaid a'r ddarpariaeth ar eu cyfer. Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Tai (Strategaeth, Comisiynu a Pholisi) fod Strategaeth Dai’r Gwasanaeth yn cydnabod rôl y Cyngor fel cyfranogwr mewn cynlluniau adsefydlu ffoaduriaid sy’n dod o dan awdurdodaeth y Swyddfa Gartref. Mae’r dyletswyddau sy’n ymwneud â digartrefedd a’r llwybr at gael cymorth yn wahanol yng nghyd-destun ffoaduriaid. Mae gan y Gwasanaeth gynlluniau yn barod o dan y Strategaeth Dai pe bai galw arno i letya ffoaduriaid.

·                  Pryder ynglŷn â digartrefedd, y bobl sy'n cyflwyno’n ddigartref ac a ydynt yn lleol neu'n fewnfudwyr ac argaeledd darpariaeth a chyllid mewn cysylltiad â mynd i'r afael â phroblemau uniongyrchol digartrefedd megis llety brys. Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Tai (Strategaeth, Comisiynu a Pholisi) fod y cyfnod pandemig wedi bod yn heriol ac wedi arwain at gynnydd yn nifer y bobl sy'n ceisio cymorth. Nid yw pawb sy’n defnyddio’r Gwasanaeth angen llety a dull y Gwasanaeth drwy ymyriadau cynnar yw ceisio atal argyfwng tai. Mae'r Strategaeth yn rhannol yn ceisio symud oddi wrth ddibyniaeth ar ddarpariaeth llety brys i ddull ailgartrefu cyflym. Mae’r Gwasanaeth hefyd wedi manteisio ar Gronfa Caledi Covid Llywodraeth Cymru sydd wedi talu llawer o’i gostau brys. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod y galw hefyd yn debygol o barhau’n uchel yn y cyfnod trosiannol ac mae wedi darparu adnoddau ychwanegol at hynny. Yn ogystal, mae cyllid drwy'r Grant Cymorth Tai yn uwch nag mewn blynyddoedd blaenorol i gydnabod bod angen i fynd i'r afael â digartrefedd a'i atal gael ei ategu gan adnoddau digonol.

 

Ar ôl ystyried y dogfennau a’r wybodaeth a gyflwynwyd ar lafar yn ystod y cyfarfod, penderfynodd y Pwyllgor argymell i’r Pwyllgor Gwaith -

 

·         Ei fod yn cymeradwyo’r Strategaeth Grant Cymorth Tai 2022-26 a’r Cynllun Cyflawni.

·         Y dylai gytuno i’r Cynllun Gwariant arfaethedig yn unol â Chanllawiau a gofyniad GCT Llywodraeth Cymru a gynhwysir yn Atodiad B yn y Cynllun Cyflawni.

·         Ei fod yn cymeradwyo’r Cynllun Gwaith Pontio Ailgartrefu Cyflym Ebrill 2022 – Mawrth 2027 i’r Pwyllgor Gwaith.

 

 

Dogfennau ategol: