Eitem Rhaglen

Ymateb i’r Her Tai Lleol – Datblygiadau tai dros 10 uned – Stad Parc y Coed, Llangefni a Bryn Glas, Brynsiencyn

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith ar gyfer datblygiad tai ym Mharc y Coed, Llangefni a Bryn Glas, Brynsiencyn.

 

Yn dilyn derbyn cyngor gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro Dros Dro, fe wnaeth y Cynghorwyr Ieuan Williams a Robin Williams ddatgan buddiant rhagfarnus ac yn dilyn hynny fe wnaethant adael y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar y mater. 

 

Fe wnaeth y Cynghorwyr Glyn Haynes a Dafydd Roberts (sydd ddim yn aelodau o’r Pwyllgor Gwaith) hefyd ddatgan diddordeb fel aelodau o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a gadael y cyfarfod. 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad a’r argymhellion gan Alun Mummery, Aelod Portffolio Tai a Chefnogi Cymunedau.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai bod stad Coed y Parc yn ddatblygiad tai preifat gan Parkfield Homes sydd wedi’i leoli yn Lôn Talwrn, Llangefni a'i fod yn cynnwys dros gant o dai newydd.  Mae caniatâd cynllunio wedi’i roi ar gyfer y datblygiad ac mae’n cynnwys amod Adran 106 sy’n ymrwymo’r datblygwr i ddarparu cyfran o’r datblygiad fel tai fforddiadwy.  Mae’r datblygwr yn barod i ddechrau adeiladu’r 12 tŷ fforddiadwy cyntaf ac mae pob un yn eiddo dwy ystafell wely. Mae’r datblygwr wedi cysylltu â’r Gwasanaeth Tai i gynnig gwerthu’r tai fforddiadwy i’r Cyngor; yn amodol ar dderbyn cymeradwyaeth gan y Pwyllgor Gwaith y cam nesaf fydd cytuno ar y telerau gyda’r datblygwr ar gyfer codi’r 12 tŷ Cyngor fforddiadwy gyda’r bwriad o’u gosod fel tai rhent canolradd neu eu gwerthu fel rhan o bolisi Rhannu Ecwiti’r Gwasanaeth. Teimlir bod nifer fawr o ddatblygiadau tai eisoes yn cael eu codi gan Gymdeithasau Tai yn Llangefni ac y dylai deiliadaethau eraill hefyd fod ar gael i drigolion lleol er mwyn diwallu eu hanghenion.

 

Mae DU Construction wedi cyflwyno cais llawn a chynllun arfaethedig i’r Gwasanaeth Tai ar gyfer codi 12 cartref newydd ar dir ger stad Bryn Glas, Brynsiencyn a fydd yn cynnwys 7 eiddo dwy ystafell wely, 4 eiddo tair ystafell wely ac 1 eiddo pedair ystafell wely.  Yn amodol ar dderbyn cymerdwyaeth y Pwyllgor Gwaith ac yn amodol hefyd ar roi caniatâd cynllunio llawn i’r datblygwr, mae’r Gwasanaeth yn bwriadu cynnig deiliadaethau amrywiol yn cynnwys rhent cymdeithasol, rhent canolradd a gwerthu rhai fel cartrefi newydd drwy Bolisi Rhannu Ecwiti’r Gwasanaeth.

 

Dengys Prosbectws Tai’r Cyngor bod angen am dai fel y rhai sy’n cael eu cynnig yn Llangefni a Brynsiencyn ac mae’r modelau cychwynnol yn dangos bod y cynlluniau’n ariannol hyfyw.

 

Penderfynwyd –

 

·         Dirprwyo pwerau i’r Gwasanaeth Tai i symud ymlaen i gytuno ar delerau ar gyfer prynu 12 cartref newydd ar stad Parc y Coed, Llangefni fydd ar gael i’w rhentu neu eu prynu trwy’r Cynllun Rhannu Ecwiti fel tai fforddiadwy gan y Gwasanaeth Tai mewn ymateb i’r her tai lleol.

·         Ar yr amod bod y datblygwr yn derbyn caniatâd cynllunio llawn ar gyfer y datblygiad arfaethedig, dirprwyo pwerau i’r Gwasanaeth Tai i symud ymlaen i gytuno ar delerau ar gyfer prynu 12 cartref newydd ar dir ger Bryn Glas, Brynsiencyn fydd ar gael i’w rhentu neu eu prynu trwy’r Cynllun Rhannu Ecwiti fel tai fforddiadwy gan y Gwasanaeth Tai mewn ymateb i’r her tai lleol.