Eitem Rhaglen

Ceisiadau'n codi

7.1 – FPL/2021/316 – Bryn Glas, Llanrhuddlad

FPL/2021/316

Cofnodion:

 7.1  FPL/2021/316 - Cais llawn ar gyfer newid defnydd ac adnewyddu dau adeilad amaethyddol i londret fasnachol yn ogystal â gwella’r fynedfa ym Mryn Glas, Llanrhuddlad

 

(Gan ei fod wedi datgan diddordeb personol a rhagfarnus mewn perthynas â’r cais, gadawodd y Cynghorydd K P Hughes y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais).

 

Cyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ar gais aelod lleol. Yn y cyfarfod ar 2 Mawrth, 2022 argymhellodd y Pwyllgor y dylid cynnal ymweliad safle rhithwir. O ganlyniad cynhaliwyd ymweliad safle rhithwir ar 18 Mawrth, 2022.

 

Siaradwyr Cyhoeddus

 

Darllenodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol ddatganiad gan Ms Laura Simons a oedd wedi cofrestru i siarad yn y cyfarfod blaenorol ond a oedd methu â bod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw oherwydd ymrwymiadau gwaith.

 

Roedd y datganiad gan Ms Simons fel a ganlyn :-

 

Pa ddiben sydd i fusnes sydd wedi’i leoli yn y rhan fwyaf gogleddol o Gymru? Mae’r peth yn warthus yn ecolegol ac amgylcheddol. Ni ddylem fod yn annog sefydlu busnesau sy’n golygu llawer o deithio.  Mae safleoedd gwell eisoes ar gael mewn paciau diwydiannol. Pam gwario miloedd ar y safle hwn pan mae unedau mwy hygyrch ar gael yn nes at yr A55 sy’n llawer mwy addas ar gyfer y math yma o ddiwydiant? e.e. Parc Cybi. Beth yw’r cynlluniau ar gyfer y dyfodol? Ni fuaswn yn gwario miloedd oni bai fy mod yn gallu gwneud elw, felly pam maen nhw?

 

Yn bennaf:

 

1.  Mae plant yn defnyddio’r lôn yn ymyl yr eiddo hwn er mwyn mynd at y bws ysgol… DOES DIM LLWYBR TROED.  Felly yn y gaeaf mae’n dywyll ac yn beryglus iawn gan fod y lôn yn gul ac ar gornel DDALL. Nid oes cyfyngiad cyflymder na mesurau gostegu traffig.

2.  Mae’r pentrefwyr yn defnyddio’r lôn i gerdded o amgylch y pentref... yn ogystal â phobl sy’n marchogaeth, seiclwyr, rhieni gyda phramiau a phobl sy’n mynd â’u cŵn am dro. NID OES FFORDD ARALL O AMGYLCH Y PENTREF. Does dim llwybrau troed.

3. Llygredd sŵn a golau di-baid. Felly mae oriau agor yn amherthnasol. Bydd y bwyleri a goleuadau’r synwyryddion yn dal i fod ymlaen.

4. I ble fydd y gwastraff yn mynd? Beth fydd yn digwydd i’r powdr golchi? Amonia? A fydd y draeni’n gallu ymdopi â hyn? Ffrwydrad stem. 

5. Nid wyf yn meddwl bod marchnad leol ar gyfer hyn? Pryderon ynglŷn ag ehangu ac oriau hirach.

6. Bydd y boblogaeth hŷn, yn bennaf, yn colli ansawdd bywyd. 

 

Darllenwyd yr e-bost canlynol a oedd hefyd wedi’i anfon gan Ms Simons:-

 

Er bod pawb o’r farn y dylem groesawu busnesau newydd i Ynys Môn ni ddylai hynny fod ar draul ansawdd bywyd Llanrhuddlad.  Mae’r rhan fwyaf o’r bobl sy’n byw yma yn dymuno cael ymddeoliad heddychlon. Rydym eisoes yn gorfod delio â diffyg cyfyngiadau cyflymder yn y pentref. Mae diffyg palmentydd ac arwyddion ger cyffyrdd yn ei gwneud hi’n beryglus i yrwyr a cherddwyr deithio o amgylch y pentref. Mae’r ffordd yn cael ei ddefnyddio gan gerddwyr, seiclwyr a phobl sy’n marchogaeth. Byddai unrhyw gynnydd mewn symudiadau o amgylch y datblygiad arfaethedig yn rhoi defnyddwyr y ffordd mewn mwy o berygl.

 

Byddai’r goleuadau diogelwch yn effeithio ar ansawdd cwsg ac ar fywyd gwyllt. Rhaid cael sicrwydd na fydd y goleuadau ymlaen 24 awr o’r dydd ac na fydd peiriannau ymlaen drwy gydol y nos. Rhaid ystyried ansawdd bywyd. Rydym  eisiau ydi i bobl wrando arnom, dyna oll.

 

Dywedodd Mr Tom Alexander, a oedd yn siarad o blaid y cais, ei fod yn siarad ar ran Ystâd William Thomas fel rheolwr yr Ymddiriedolaeth. Deellir bod pryder ymysg cymdogion Bryn Glas ynglŷn ag effaith posib y busnes y bwriedir ei sefydlu ar y safle ac felly roedd yn dymuno manteisio ar y cyfle i fynd i’r afael â hyn.    Deellir bod rhai’n bryderus a phwysleisiwyd na fydd unrhyw newid i faint na phroffil yr adeiladau amaethyddol dan sylw ac mai’r unig newidiadau fyddai i du allan yr adeiladau er mwyn gwella’r unedau sydd mewn cyflwr gwael ac wedi mynd â’u pen iddynt ar hyn o bryd. Mae’r gwaith plannu a thirweddu arfaethedig wedi’i nodi yn y cais, ac mae’n amlwg y bydd y datblygiad yn gwella edrychiad yr adeiladau hyn.  Mae pryder hefyd ynglyn â’r cynnydd mewn traffig o ganlyniad i fusnes gweithredol yn y lleoliad hwn.  Ar hyn o bryd mae’r safle’n cael ei ddefnyddio at ddibenion amaethyddol a gellir dadlau bod y llawer iawn mwy o gerbydau mawr, budr a swnllyd yn mynd a dod o’r safle ar hyn o bryd na pe byddai’r safle’n gweithredu fel londrét.  Cerbyd masnachol ysgafn fydd y cerbyd mwyaf a fydd yn mynd a dod o’r safle ac felly ni fydd loriau mawr neu debyg yn mynd a dod o’r safle.  Os caiff y datblygiad ei gymeradwyo, bydd cymdogion yn gweld lleihad yn nifer y cerbydau a fydd yn defnyddio’r ffordd ac ym maint y cerbydau, a chyda’r gwelliannau i’r fynedfa a nodir yn y cais bydd y ffordd â’r ffordd gyhoeddus yn fwy diogel i draffig lleol.   

 

Pwysleisiwyd y byddai maint unrhyw fusnes ar y safle yn gyfyngedig i faint yr adeiladau a’r ffordd fynediad i’r safle. Y gobaith yw y bydd y busnes yn llewyrchus ond oherwydd maint y safle ni ellir datblygu dim byd mwy na’r hyn sydd wedi’i nodi yn y cais. Byddai’n rhaid i ddatblygiadau pellach ddigwydd oddi ar y safle neu byddai’n rhaid adleoli’r busnes i safle sy’n addas ar gyfer busnes mwy.   At ei gilydd, credir bod hwn yn ddatblygiad pwysig i bentref Llanrhuddlad gan y bydd yn gwella safle sydd wedi mynd â’i ben iddo ac yn darparu swyddi’n lleol, a’r unig effaith amlwg ar gymdogion fydd y gwelliannau i’r gyffordd â’r briffordd gyhoeddus.

 

Adroddodd y Prif Swyddog Cynllunio bod y cais ar gyfer trosi 2 adeilad amaethyddol yn londrét fasnachol a fydd yn gwasanaethu lletyai gwyliau a gwestai ar Ynys Môn.   Aeth ymlaen i ddweud bod polisi cynllunio sy’n cefnogi ailddefnyddio a throsi adeiladau gwledig a defnyddio adeiladau preswyl neu unedau busnes ar gyfer defnydd busnes/diwydiant ac mai hwn yw’r prif bolisi sydd dan ystyriaeth wrth asesu’r cynnig hwn. Bydd y datblygiad yn defnyddio’r 2 adeilad presennol ac nid yw’r cais yn cynnig unrhyw estyniadau i’r adeiladau, felly, ystyrir bod graddfa’r datblygiad yn dderbyniol. Yn ôl y datganiad cynllunio bydd y cynnig yn llenwi bwlch yn y farchnad bresennol gan fod y gwasanaeth hwn yn cael ei ddarparu oddi ar yr Ynys ar hyn o bryd ac felly ni fydd y cynnig yn effeithio ar hyfywedd defnyddiau gerllaw.  Cynhaliwyd arolwg strwythurol fel rhan o’r cais a chadarnhawyd bod yr adeilad yn strwythurol gadarn ac yn addas i’w drosi yn unol â’r cynlluniau arfaethedig. Mae’r adeilad yn addas ar gyfer y defnydd penodol gan nad oes angen unrhyw estyniadau a bydd natur agored yr adeilad yn darparu digon o le ar gyfer y defnydd a wneir ohono. I sicrhau na fydd y datblygiad yn cael effaith andwyol ar fwynderau eiddo cyfagos, gosodir amod ynghlwm â’r caniatâd a fydd yn cyfyngu’r oriau gweithredu fel y nodir yn adroddiad y Swyddog. Codwyd pryderon ynglŷn â chapasiti’r rhwydwaith briffyrdd leol, fodd bynnag nid oes gan Adran Priffyrdd unrhyw wrthwynebiad i’r cynllun ac maent yn fodlon y gellir sicrhau’r llain welededd a chyda’r datganiad trafnidiaeth a ddarparwyd.  Aeth y Prif Swyddog Cynllunio ymlaen i ddweud bod pryderon wedi cael eu codi ynglŷn â llygredd golau o’r safle ac roedd o’r farn y dylid gosod amod i reoli’r goleuadau allanol ar y safle. Dywedodd y byddai’r datblygiad, pe byddai’n cael ei gymeradwyo, yn creu 2 swydd lawn amser a 2 swydd ran amser. Argymhellwyd bod y cais yn cael ei gymeradwyo. 

 

Cynigodd y Cynghorydd Robin Williams bod y cais yn cael ei gymeradwyo, yn amodol ar yr osod amod ychwanegol mewn perthynas â rheoli’r goleuadau allanol ar y safle. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Eric W Jones.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais yn unol ag argymhelliad y Swyddog gyda’r amodau yn yr adroddiad ysgrifenedig ynghyd ag amod ychwanegol i reoli’r goleuadau allanol ar y safle.

 

Dogfennau ategol: